Hiraeth am y Seren

Oddi ar Wicipedia
Hiraeth am y Seren
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurE. Olwen Jones
CyhoeddwrCyhoeddiadau Sain
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi10/08/2016
ArgaeleddAr gael
ISBN9781910594391
GenreCerddoriaeth Cymru

Cyfrol gan E. Olwen Jones yw Hiraeth am y Seren a gyhoeddwyd yn 2016 gan Gyhoeddiadau Sain. Man cyhoeddi: Caernarfon, Cymru.[1]

Casgliad newydd ac amrywiol o garolau gan E. Olwen Jones, yn cynnwys trefniannau unsain, deusain, tri a phedwar llais. Cyfrol arbennig o addas a gyfer ysgolion uwchradd, unigolion a chorau o bob math.

Mae E. Olwen Jones yn enw cyfarwydd iawn ym myd cerddoriaeth yng Nghymru. Yn enedigol o Lerpwl, mae'n byw ym mhentref Talwrn, Ynys Môn, ers sawl blwyddyn bellach. Cyhoeddodd nifer fawr o lyfrau o ganeuon i blant a phobl ifanc ac mae ei threfniannau o ganeuon gwerin yn boblogaidd gan gorau o bob math ar hyd a lled Cymru. Bu'n athrawes mewn ysgolion yn Essex, Bangor a Môn cyn cael ei hapwyntio yn Bennaeth Adran Cerddoriaeth Coleg Normal, Bangor. A hithau wedi ymddeol, mae'n treulio llawer o'i hamser yn cyfansoddi ac yn trefnu cerddoriaeth a chyhoeddodd lyfr yn ddiweddar ar ganeuon y caethweision, Caneuon y Caethwas (Cyhoeddiadau Sain).


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017