Hindi
| Enghraifft o: | cywair |
|---|---|
| Math | Hindwstaneg |
| Rhan o | Schedule languages of India |
![]() | |
| Enw brodorol | हिन्दी |
| Nifer y siaradwyr | |
| cod ISO 639-1 | hi |
| cod ISO 639-2 | hin |
| cod ISO 639-3 | hin |
| Gwladwriaeth | India, Nepal, Pacistan, Ffiji |
| System ysgrifennu | Devanāgarī |
| Corff rheoleiddio | Central Hindi Directorate |
| Dynodwyr | |
Prif iaith swyddogol India yw Hindi neu Hindeg (Devanāgarī: हिन्दी neu हिंदी). (Mae Saesneg yn ail iaith swyddogol.) Fel Wrdw, mae'n un o ffurfiau safonol yr iaith Hindwstaneg, sy'n aelod o'r gangen Indo-Iraneg o'r teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd.
Siaredir Hindi fel mamiaith gan 180 miliwn o bobl yng ngogledd a chanolbarth India, tua 40% o boblogaeth India. Mae tua 25% o boblogaeth India yn medru Hindi fel ail iaith. Mae siaradwyr i'w cael hefyd yn Nepal, Ffiji, Mauritius, Lloegr, Trinidad a Tobago, Gaiana, Swrinam, a llawer o wledydd eraill. Y bumed iaith fwyaf yn y byd ydyw o ran nifer o siaradwyr.
Ar ddiwedd y 19g, bu mudiad i ddatblygu ffurf ysgrifenedig o Hindwstaneg oedd yn wahanol i Wrdw. Aethpwyd â hyn ymhellach wedi annibyniaeth; sefydlwyd comisiwn ym 1954 i safoni gramadeg Hindi. Yn gyffredinol, mae cyweiriau ffurfiol Hindi yn osgoi geiriau gyda tharddiad Persiaidd, gan ddefnyddio geiriau Sansgrit (gan gynnwys bathiadau) yn eu lle.
Mae'n perthyn yn agos i Wrdw, a ddatblygodd allan ohoni gyda dylanwad yr iaith Berseg yn y cyfnod modern. Ond ysgrifennir Hindi gan amlaf gydag ysgrifen Devanāgarī, ac Wrdw gyda'r wyddor Arabeg.
Llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae llenyddiaeth gyfoethog yn Hindi, yn ymestyn yn ôl i'r 12g, ac yn adeiladu ar lenyddiaeth Sanscrit. Yn y llenyddiaeth draddodiadol, mae dylanwadau crefyddol cryf, a cheir lawer o straeon o hud a lledrith a thylwyth teg. Er hynny, mae llenyddiaeth fodern, realaidd, yn ogystal. Mae Munshi Premchand (1880-1936) yn un o'r nofelyddion enwocaf yn yr iaith.
Erbyn heddiw mae diwydiant ffilmiau egnïol yn Hindi, y cyfeirir ati yn anffurfiol fel "Bollywood", a'i ganolfan ym Mumbai.
- ↑ (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL Global, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, OL20243680W, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/, adalwyd 23 Ebrill 2022
- ↑ 2.0 2.1 (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL Global, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, OL20243680W, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/
- ↑ http://www.censusindia.gov.in/2011Census/Language-2011/Statement-1.pdf.
- ↑ https://www.ethnologue.com/language/hin. Ethnolog. dyddiad cyrchiad: 2 Medi 2018.

