Munshi Premchand

Oddi ar Wicipedia
Munshi Premchand
Ganwyd31 Gorffennaf 1880 Edit this on Wikidata
Varanasi Edit this on Wikidata
Bu farw8 Hydref 1936 Edit this on Wikidata
Varanasi Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Raj Prydeinig Edit this on Wikidata
Galwedigaethnofelydd, sgriptiwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGodaan, Bazaar-e-Husn, Karmabhoomi, Shatranj ke khiladi Edit this on Wikidata
MudiadProgressive Writers' Movement Edit this on Wikidata
PriodShivarani Devi Edit this on Wikidata
PlantAmrit Rai Edit this on Wikidata
PerthnasauSara Rai Edit this on Wikidata
llofnod

Llenor Hindi ac Wrdw oedd Munshi Premchand, Hindi: प्रेमचंद, Urdu: پریمچںد, (31 Gorffennaf, 1880 - 8 Hydref, 1936).

Ei enw gwreiddiol oedd Dhanpat Rai Srivastava. Ganed ef ym mhentref Lamahi ger Varanasi, lle roedd ei dad yn glerc yn swyddfa'r post. Collodd ei rieni pan oedd yn ieuanc. Yn 1910, cafodd ei ddwyn o flaen Ynad Ardal Jamirpur am ei gasgliad o storïau byrion Soz-e-Watan (Galargan y Genedl), oedd yn cefnogi'r mudiad cenedlaethol. Gorchymynwyd llosgi pob copi o'r llyfr.

Hyd at y digwyddiad yma, roedd wedi ysgrifennu mewn Wrdw, ond o hyn ymlaen cymerodd y ffugenw Premchand ac ysgrifennu mewn Hindi. Ysgrifennodd dros 300 o storïau byrion, dwsin o nofelau a dwy ddrama. Cafodd ddylanwad mawr ar ddatblygiad llenyddiaeth Hindi fodern. Yn wahanol i awduron Hindi o'i flaen, ysgrifennai yn iaith y bobl ac am y bobl gyffredin.