Hiclys lleiaf

Oddi ar Wicipedia
Hiclys lleiaf
Leiocolea badensis
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Mesoptychiaceae
Genws: Leiocolea
Rhywogaeth: L. badensis
Enw deuenwol
Leiocolea badensis

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Hiclys lleiaf (enw gwyddonol: Leiocolea badensis; enw Saesneg: scarce notchwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, ond yn wahanol i lawer o'r llysiau afu eraill, mae i'w weld yn y de-ddwyrain ac arfordir y gogledd yn unig. Mae'r rhywogaeth hon i'w chael hefyd yng ngwledydd eraill Prydain.

Mae'n gymharol fach, gyda'r coesyn yn 0.3-1.5 mm o led (ychydig yn llai na'r Gylflys chwyddedig neu'r Gymnocolea inflata), yn wyrdd golau, ac mae gan yr Hiclys lleiaf llabedau dail di-fin, ond nid oes ganddi arogl nac is-ddail fel aelodau eraill y genws. Mae ei egin yn tueddu i edrych yn eithaf gwastad a gall ei ddail fod bron mor ofodol ar y coesyn â rhai L. turbinata. Mae'r dail hyd at 1 mm o led a 0.7 mm o hyd.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Hiclys lleiaf gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.