Hiclys corniog
Hiclys corniog Lophozia longidens | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Scapaniaceae |
Genws: | Lophozia |
Rhywogaeth: | L. longidens |
Enw deuenwol | |
Lophozia longidens |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Hiclys corniog (enw gwyddonol: Lophozia longidens; enw Saesneg: horned flapwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod mewn un lle yng Nghymru: i'r de o Benrhyndeudraeth, un lle yn Lloegr, ond mae'n eitha cyffredin yn yr Alban; nid yw'n tyfu yn Iwerddon.
Mae siâp y ddeilen hon yn anarferol, gyda'i ddau bwynt hir, cul gyda pheli o gemmae coch, sy'n gwneud y planhigyn anghyffredin hwn yn hawdd i'w adnabod. Mae'n ffurfio matiau rhydd neu dywarchen o egin unionsyth, 0.5-1.8 mm o led.[1]
Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]
- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/77/Open_Access_logo_PLoS_transparent.svg/12px-Open_Access_logo_PLoS_transparent.svg.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/c/c4/Llen-Natur-1-transparent.png/45px-Llen-Natur-1-transparent.png)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 23 Hydref 2019.
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.