Hiclys carpiog

Oddi ar Wicipedia
Hiclys carpiog
Leiocolea heterocolpos
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Mesoptychiaceae
Genws: Leiocolea
Rhywogaeth: L. heterocolpos
Enw deuenwol
Leiocolea heterocolpos

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Hiclys carpiog (enw gwyddonol: Leiocolea heterocolpos; enw Saesneg: ragged notchwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Yng ngwledydd Prydain mae'n eitha cyffredin, ond mae'n brin iawn yng Nghymru a Gogledd Lloger, ac fe'i ceir mewn un man yn unig yn Iwerddon.

Cynefin[golygu | golygu cod]

Mae L. heterocolpos i'w gael mewn ceunentydd ar dywodfaen sylfaen-gyfoethog a chlogwyni calchaidd. Fel rheol mae'n tyfu dros neu drwy glustogau o fwsogl, yn enwedig Amphidium mougeotii neu Anoectangium aestivum, yn aml gyda rhywogaethau Plagiochila neu Blepharostoma trichophyllum. Gall fod yn anodd iawn ei ganfod, yn enwedig pan nad oes llawer ohono.[1]

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Hiclys carpiog gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 21 Awst 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.