Hiclys Heller

Oddi ar Wicipedia
Hiclys Heller
Anastrophyllum hellerianum
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Scapaniaceae
Genws: Anastrophyllum
Rhywogaeth: A. hellerianum
Enw deuenwol
Anastrophyllum hellerianum

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Hiclys Heller (enw gwyddonol: Anastrophyllum hellerianum; enw Saesneg: Heller's notchwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'n blanhigyn bach iawn gyda'i goesynau'n ddim ond 1 mm o led a'i ddail yn llai na 0.5 mm o hyd, mor fach fel ei fod yn annhebygol o gael ei weld heb chwilio'n fwriadol. Mae'n cropian ymysg Crafanglys coch y coed (Nowellia curvifolia) ar foncyffion sy'n pydru mewn coetiroedd llaith a dim ond trwy ei gemmae coch llachar neu borffor y gellir ei weld.

Cynefin[golygu | golygu cod]

Fe'i ceir, fel arfer ar bren sy'n pydru, mewn coedwig, yn enwedig coedwig o dderw mes di-goes (Quercus petraea) neu'r binwydd. Fel arfer, fe'i ceir oddi tan y pren, neu waelod isaf ac yn anaml, fe'i ceir ar frigau byw, yn enwedig mewn lle llaith.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Hiclys Heller gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.