Henry Jones (esgob)

Oddi ar Wicipedia
Henry Jones
Clawr llyfr gan Aidan Clarke am ddiorseddiadau yn ystod Gwrthryfel Iwerddon 1641
Ganwyd1605 Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ionawr 1681 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Anglicanaidd Clochar Edit this on Wikidata
TadLewis Jones Edit this on Wikidata
PriodMary Piers, Jane Cullum Edit this on Wikidata
PlantDeborah Jones, Mary Jones Edit this on Wikidata

Esgob Anglicanaidd Clochar (Saesnegː Clogher) ac Esgob Deoise na Mí (Meath) oedd Henry Jones (c. 1605 – 5 Ionawr 1681).[1]

Fe'i ganed yng Nghymru, yr hynaf o bum mab Lewis Jones, Esgob Cill Dalua (Killaloe) a Mabel Ussher. Ymhlith ei frodyr roedd Michael Jones, llywodraethwr Dulyn ac Ambrose Jones, Esgob Cill Dara (Kildare). Addysgwyd ef yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, ac enillodd radd BA yn 1621 ac MA yn 1624.

Yn 1625 olynodd ei dad fel Deon Ardachadh (Ardagh)[2] hyd nes iddo gael ei benodi'n Ddeon Cill Dalua.

Yn ystod Gwrthryfel Iwerddon 1641 bu'n rhaid iddo ildio ei gastell yn Béal Átha na nEach (Belananagh), Swydd An Cabhán (Cavan) i'r O'Reillys. Tra mewn caethiwed cynigiodd fynd i Ddulyn i gyflwyno deiseb ar ran y gwrthryfelwyr, lle gallai adrodd ar eu cynlluniau. Yn Rhagfyr 1641 llwyddodd i ddianc gyda'i deulu i Ddulyn. Yna gwnaeth lawer i liniaru dioddefaint y Protestaniaid yn ystod y rhyfel, gan gynnwys gwneud taith i Lundain i gasglu arian. Gwasanaethodd fel pennaeth "Commission for the Dispoiled Subject" a chofnododd golledion Teyrngarwyr Lloegr yn nwylo'r gwrthryfelwyr Gwyddelig; cyflwynodd Jones adroddiad i Dŷ Cyffredin Lloegr ar 20 Mawrth 1642, ac yn 1652 cyhoeddodd An Abstract of some of those farbarous, cruell massacres and murthers of the Protestants and English in some part of Ireland, a dynnwyd o adroddiadau'r comisiwn.[3]

Ar 27 Hydref 1645, dyrchafwyd ef i'r esgobaeth yn Esgob Clocharar ar argymhelliad Ardalydd Ormonde a chysegrwyd ef yn Christ Church, Dulyn, ar 9 Tachwedd. Caniatawyd iddo gadw archddiaconiaeth Cill Dalua a ffafriaethau eraill. Y flwyddyn ganlynol, apwyntiwyd ef yn is-ganghellor Prifysgol Dulyn, a chyflwynodd Lyfr Durrow a Llyfr Kells[4] i'r brifysgol, ac yn 1651 cyflwynodd risiau derw wedi'u cynllunio'n gain, a arweiniodd at oriel y llyfrgell newydd.[5] Yn 1657 penodwyd ef yn brif ymddiriedolwr ymddiriedolaeth addysgol a sefydlwyd gan Erasmus Smith.[6] Ar 25 Mai 1661 etholwyd ef i esgobaeth na Mí (Meath). Cyhoeddwyd y bregeth a draddododd wrth gysegru ei frawd Ambrose yn Esgob Cill Dara ym Mehefin 1667.

Roedd yn Brotestant selog a bu'n ymwneud yn y 1670au â chwymp Oliver Plunkett, Archesgob Pabyddol Ard Mhacha (Armagh).

Bu farw yn Nulyn yn 1681/2 a chladdwyd ef y diwrnod canlynol yn Eglwys St. Andrew. Yr oedd wedi priodi nith i'r Archesgob James Ussher, a bu iddynt amryw o blant, a daeth rhai ohonynt yn Gatholigion. Priododd ei ferch Mary â Syr Henry Piers, Barwnig 1af.

Nodyn[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Bishop Henry Jones". Library Ireland. Cyrchwyd 2013-01-24.
  2. "Fasti Ecclesiae Hibernicae: The succession of the prelates Volume 3" Cotton, H. p186 Dublin, Hodges & Smith, 1848–1878
  3. "Trinity College Dublin 1641 Depositions Timeline". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-06. Cyrchwyd 2023-03-20.
  4. Book of Kells information page
  5. "The Library", Rev. T. K. Abbott, in The Book of Trinity College, Dublin, 1591-1891, Belfast: Marcus Ward & Co., 1892, p. 160
  6. Quane, Michael (1964). "Galway Grammar School". Journal of the Galway Archaeological and Historical Society 31 (1/2): 39–70. JSTOR 25535416.