Helgi Rhodesaidd

Oddi ar Wicipedia
Helgi Rhodesaidd
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Mathci Edit this on Wikidata
Màs36.5 cilogram, 32 cilogram Edit this on Wikidata
GwladRhodesia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Helgi Rhodesaidd
Helgwn Rhodesaidd o'r cefn, gan ddangos y "gwrym" nodweddiadol.

Helgi sy'n tarddu o ranbarth De Affrica yw'r Helgi Rhodesaidd[1] (Saesneg: Rhodesian Ridgeback). Datblygwyd yr helgi hwn drwy fridio ci hela brodorol hanner gwyllt gyda nifer o gŵn Ewropeaidd. O'r ci Affricanaidd y daw nodwedd y Helgi Rhodesaidd sy'n rhoi iddo ei enw Saesneg: llinell o flew ar hyd ei gefn sy'n tyfu tua'r blaen, yn erbyn cyfeiriad y gweddill o'r gôt.[2]

Datblygwyd yn gyntaf yn Nhrefedigaeth y Penrhyn (De Affrica heddiw) ond yn Bulawayo, Rhodesia (Simbabwe heddiw), y bridiodd F. R. Barnes y brîd safonol. Gwaith gwreiddiol y Helgi Rhodesaidd oedd dilyn trywydd helfilod, yn enwedig llewod, ac i gornelu'r anifail nes bo'r heliwr yn cyrraedd. Mae cyflymder y ci yn ei alluogi i gadw anifeiliaid mwy o faint tu draw.[3]

Mae'n gi cryf a gweithgar gyda chlustiau llipa a chôt loyw o flew byr o liw brown-felyn i frown-goch. Mae ganddo daldra o 61 i 69 cm (24 i 27 modfedd) ac yn pwyso 32 i 39 kg (70 i 85 o bwysau). Yn ogystal â helgi da, mae'r Helgi Rhodesaidd hefyd yn warchotgi a chi cymar addas.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, [Rhodesian].
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Rhodesian ridgeback. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Medi 2014.
  3. (Saesneg) Rhodesian Ridgeback. Fédération Cynologique Internationale. Adalwyd ar 28 Medi 2014.