Neidio i'r cynnwys

Hel bwyd cennad y meirw

Oddi ar Wicipedia

Hel bwyd cennad y meirw oedd yr enw ar yr hen arferiad Celtaidd o roi bwyd i'r meirw, trwy gynnal gwledd fawr a rhoi torth neu gacen i'r tlodion. Ceir cofnod fod hyn yn digwydd mor ddiweddar â 1876 gan drigolion Cynwyd, Corwen, Llansanffraid a Glyndyfrdwy - a oedd yn ffyddlon iawn i'r ddefod hon. Cerddai llawer iawn o wragedd a phlant tlawd o gwmpas y tai a'r bythynod yn casglu teisennau neu fara. Cofnodwyd i hyn ddigwydd hyd at 1876 yn yr ardaloedd hyn yn llyfr Hugh Evans, Cwm Eithin.[1] Ym Metws Gwerful Goch roedd yr arferiad yn dal yn fyw yn 1900 a chofnodwyd cân a gannai'r ymwelwyr:

Dydd da i chi heddiw
Bwyd cennad y meirw,
Da ges i yma
Flwyddyn i heddiw.

Sonia Hugh Evans yn ei lyfr Cwm Eithin iddo ef ei hun fynd ati i yn hel bwyd cennad y meirw yn y Cwm Main (Edeirnion) pan oedd tua phump oed.

Ceir traddodiad cyffelyb yn yr Iwerddon, fel rhan o'r Wake (Gwylnos y Meirw).

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cwm Eithin gan Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931.