Haydn E. Edwards

Oddi ar Wicipedia

Gweinyddwr ym myd addysg yw'r Dr Haydn E. Edwards, a fu'n bennaeth Coleg Menai rhwng 1994 a 2009.

Cafodd ddoethuriaeth ym maes biocemeg ac ymbelydredd o Brifysgol Salford, a threuliodd dair blynedd fel cymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Notre Dame, Indiana yn y saithdegau, cyn cael ei benodi'n Uwch Wyddonydd Ymchwil yn Athrofa Gogledd-ddwyrain Cymru. Bu'n Bennaeth ar Goleg Pencraig ac yna Coleg Technegol Gwynedd cyn cael swydd Pennaeth Coleg Menai ym 1994.[1]

Bu'n weithgar ym mywyd cyhoeddus Cymru ers ymddeol, yn enwedig ym maes addysg. Fe'i penodwyd yn is-lywydd Amgueddfa Cymru yn 2011. Ef oedd awdur Codi Golygon, yr arolwg ar ran Llywodraeth Cymru a arweiniodd at sefydlu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn 2016. Bu'n gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol rhwng 2017 a 2020. Yn y cyfnod hwnnw, ehangwyd cyfrifoldebau’r Coleg i gynnwys addysg bellach a phrentisiaethau, a chwblhawyd adolygiad llawn o gyfansoddiad a llywodraethiant y Coleg.[2]

Yn 2023, cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru lyfr ganddo ar hanes y mathemategydd Griffith Davies.

Mae'n dad i'r cerddor Rhys Edwards, Jakokoyak.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Penodi Is-Lywydd Newydd Amgueddfa Cymru". Amgueddfa Cymru. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2023.
  2. "Cymrodyr er Anrhydedd". Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2023.