Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Iaith | Cymraeg |
---|---|
Sylfaenydd | 2016 |
Gwladwriaeth | Cymru |
Corff sy'n gyfrifol am ddysgu Cymraeg y tu hwnt i addysg orfodol yw'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Cymerodd y Ganolfan gyfrifoldeb llawn am y sector Cymraeg i Oedolion ar 1 Awst 2016. Cyn hynny — ers 2006 — perthyn i'r Canolfannau Cymraeg i Oedolion oedd y cyfrifoldeb hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Pwyllgor Craffu i'w chynghori yn ei chylch am faterion megis gwerth am arian.[1] Cafodd Efa Gruffudd Jones ei phenodi yn brif weithredwr ym mis Medi 2015[2] i gychwyn ar ei gwaith ar ddechrau 2016. Gyda phenodi Efa Gruffudd Jones i swydd Comisiynydd y Gymraeg, penodwyd Dona Lewis yn Brif Weithredwr ar y Ganolfan ym mis Rhagfyr 2022.[3]
Cafodd y Ganolfan ei sefydlu yn sgil sawl adroddiad:
- Cafodd adroddiad Grŵp Adolygu a benodwyd gan y Llywodraeth ei gyhoeddi ar ddiwedd 2013.[4].
- Cyn hynny, ar 23 Ebrill 2013, cyhoeddwyd adroddiad a gomisiynodd y Llywodraeth gan Brifysgol Caerdydd ar 'Adnoddau, dulliau ac ymagweddau dysgu ac addysgu ym maes Cymraeg i Oedolion'.[5]
- Yn gynharach eto, ar 14 Hydref 2011, cyhoeddwyd gwerthusiad gan ymgynghorwyr Old Bell 3 a Dateb i'r Llywodraeth.[6]
Ym mis Mai 2015 y penderfynodd Llywodraeth Cymru ddyfarnu grant i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i sefydlu'r 'endid' genedlaethol a argymhellwyd gan y Grŵp Adolygu a gafodd ei enwi'n Ganolfan yn y diwedd. Mae'r arian a roddwyd i faes Cymraeg i Oedolion wedi ei gwtogi ers 2014-15 o £11,882,012 i £10,568,711 yn 2016-17.[7]
Ni ddylid cymysgu'r Canolfannau Cymraeg i Oedolion gyda'r canolfannau Cymraeg y rhoddwyd £1.500,000 gan y Llywodraeth yn 2015 i'w sefydlu.[8] Mae'n debyg mai ymateb y Llywodraeth oedd hyn i adroddiad arall a edrychodd ar faes Cymraeg i Oedolion ac a argymhellodd sefydlu canolfannau cymdeithasol Cymraeg. Cafodd Canolfannau Cymraeg a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolion sy’n Dysgu’r Gymraeg: Ymdrechion i Wrthdroi Shifft Ieithyddol mewn Cymunedau cymharol ddi-Gymraeg[dolen farw] ei gyhoeddi gan Academi Hywel Teifi ym mis Gorffennaf 2012.
Mesuriadau iaith
[golygu | golygu cod]Mae'r Ganolfan yn dilyn canllawiau Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd (CEFR) ar gyfer asesu rhuglder a chaffael iaith dysgwyr. Serch hynny, nododd papur gwyn Bil Addysg Gymraeg 2023 gall bydd sefydliadau megis y Ganolfan am addasu tabl a mesuriadau CEFR ar gyfer anghenion a chyd-destun Gymreig. Nodwyd hefyd, gan mai cynllun o dan arweiniad Cyngor Ewrop yw CEFR y gall hyn hefyd newid yn y dyfodol neu dod i ben.[9]
Tlws Coffa Aled Roberts
[golygu | golygu cod]Yn 2024 lansiodd y Ganolfan wobr Tlws Coffa Aled Roberts i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol nodedig i’r sector Dysgu Cymraeg. Enillydd cyntaf y Tlws oedd Gwilym Roberts, Caerdydd am ei wasanaeth dros ddegawdau yn dysgu Cymraeg i bobl ifainc ac oedolion.[10][11]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [1] cyrchwyd 20 Gorffennaf 2017
- ↑ [2], cyrchwyd 20 Gorffennaf 2017
- ↑ "Prif weithredwr newydd i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg". Newyddion BBC Cymru Fyw. 21 Rhagfyr 2022.
- ↑ [3], cyrchwyd 20 Gorffennaf 2017
- ↑ [4][dolen farw], cyrchwyd 20 Gorffennaf 2017
- ↑ [5][dolen farw], cyrchwyd 20 Gorffennaf 2017
- ↑ [6][dolen farw], cyrchwyd 20 Gorffennaf 2017
- ↑ [7], cyrchwyd 20 Gorffennaf 2017
- ↑ "Cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg". Llywodraeth Cymru. 27 Mawrth 2023.
- ↑ "Mae cronfa gwerth £28,000 wedi ei sefydlu yn enw y diweddar Aled Roberts, cyn gomisiynydd y Gymraeg. Nod y gronfa yw hybu gofal diwedd oes yn Gymraeg". BBC Radio Cymru. 14 Mai 2024.
- ↑ "Cronfa goffa Aled Roberts". Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 14 Mai 2024.