Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd

Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd[1] (arddelir yr enw Saesneg, Common European Framework of Reference for Languages: Learning, Teaching, Assessment,[2] a'r talfyriad CEFR yn gyffredin ar draws ieithoedd) yw llinyn mesur hyfedredd iaith a lefel y wybodaeth am iaith dramor mewn dosbarthiad penodol, h.y. y gallu i siarad, gwrando, darllen, ac ysgrifennu. Prif amcan y CEFR yw darparu dulliau dysgu ac asesu sy'n gymwys i holl ieithoedd Ewrop.
Ers 2024, mae fersiynau "lleol" o'r CEFR yn bodoli yn Japan, Fietnam, Gwlad Thai, Malaysia, Mecsico, a Chanada. Er enghraifft, mae Llywodraeth Malaysia o'r farn fod "y CEFR yn feincnod credadwy a phriodol er mwyn asesu safonau Saesneg ym Malaysia."[3]
Cymraeg
[golygu | golygu cod]
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol dysgu Cymraeg yn defnyddio y CEFR ar gyfer asesu sgiliau gwrando, siarad, darllen, ysgrifennu Cymraeg,[4] ac yn ystyried y CEFR yn "llwybr clir i ddysgu Cymraeg."[5]
Mae'r Ganolfan yn cynnig cyrsiau sydd wedi'u halinio â'r CEFR fel a ganlyn:[6][5]
- A1 - Mynediad - Defnyddiwr sylfaenol
- A2 - Sylfaen - Defnyddiwr sylfaenol
- B1 - Canolradd - Defnyddiwr annibynnol
- B2 - Uwch - Defnyddiwr annibynnol
- C1 a C2 - Gloywi (Hyfedredd yn gynt) - Defnyddiwr hyfedr
Arsylwi ac Arholi Rhuglder Iaith
[golygu | golygu cod]Mewn sawl gwlad neu ar gyfer sawl cymuned ieithyddol bydd sefydliad ddiwylliannol yn gyfrifol am redeg arholiadau a gosod safon dysgu iaith fel ail iaith. Er enghraifft, bydd Goethe-Institut yn gyfrifol am yr Almaeneg, y Istituto Italiano di Cultura ar gyfer Eidaleg a Canolfan yr iaith Roeg ar gyfer Groegeg.
Tabl CEFR Dysgu iaith
[golygu | golygu cod]Mae'r CEFR yn rhannu dysgwyr yn dair adran eang y gellir eu rhannu ymhellach yn ddwy lefel; ar gyfer pob lefel, mae'n disgrifio'r hyn y mae dysgwr i fod i allu ei wneud mewn darllen, gwrando, siarad, ac ysgrifennu. Mae'r tabl canlynol yn dangos y lefelau hyn, sy'n ddisgrifiadau oddi wrth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.[6][5]
Disgrifiad | Lefel |
---|---|
A1 - Mynediad | Defnyddiwr sy'n gallu defnyddio ymadroddion a dywediadau cyfarwydd syml iawn. Mae defnyddwyr y lefel hon yn gallu sgwrsio mewn ffordd syml ac yn gallu mynegi gwybodaeth bersonol syml iawn amdanynt hwy eu hunain, megis ble maent yn byw, eu henw ayyb. |
A2 - Sylfaen | Defnyddiwr sy'n gallu deall brawddegau ac ymadroddion sy'n cael eu defnyddio'n aml ac sy'n gysylltiedig â phynciau pob dydd. Mae defnyddwyr y lefel hon yn gallu sgwrsio am eu cefndir a'u milltir sgwâr, a siarad am wybodaeth bersonol neu deuluol. Byddant hefyd yn gallu mynegi gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'u gwaith a'u diddordebau personol. |
B1 - Canolradd | Defnyddiwr sy'n gyfarwydd â'r rhan fwyaf o batrymau'r Gymraeg. Mae defnyddwyr y lefel hon yn gallu defnyddio'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cyfarwydd yn y gwaith, yr ysgol, a gweithgareddau hamdden. Byddant hefyd yn gallu ysgrifennu neu fynegi gwybodaeth sy'n disgrifio profiadau a gobeithion, gan ymresymu ac esbonio safbwyntiau a chynlluniau. |
B2 - Uwch | Defnyddiwr sy'n gallu trafod pynciau a themâu o bob math. Mae defnyddwyr y lefel hon yn gallu sgwrsio a thrafod yn eithaf rhugl ac yn ddigymell, gan gynhyrchu testun a llafar clir, manwl ar ystod eang o bynciau. |
C1 a C2 - Gloywi / Hyfedredd | Defnyddiwr sy'n gallu deall bron pob math o destunau, ac yn gallu mynegi eu hunain yn ddigymell, yn fanwl-gywir, ac yn rhugl iawn. Mae defnyddwyr y lefel hon hefyd yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn hyblyg ac yn effeithiol yn y meysydd proffesiynol, academaidd, a chymdeithasol. |
Prif-ffrydio yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Wrth gyflwyno Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) ger bron Senedd Cymru ar 16 Gorffennaf 2024, nodwyd y bwriad i ddefnyddio canllawiau'r Fframwaith fel modd o asesu rhuglder disgyblion yn yr iaith Gymraeg. Nodwyd "yr amcan yw i bob disgybl feithrin sgiliau llafar sydd gyfystyr â lefel B2 o leiaf, o’r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd."[7]
Roedd hyn ar sail cynigion y Papur Gwyn 7 Bil Addysg Gymraeg lle roddwyd amlinelliad o gostau ac effeithiau y Bil. Yno o nodwyd CEFR mewn cyd-destun strategaeth miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 lle, "Gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i weithio tuag at wireddu deilliant ieithyddol ar ddiwedd addysg statudol erbyn 2050, sef pob disgybl yn gallu siarad Cymraeg yn hyderus, a hynny fel isafswm ar lefel sy’n gyfystyr â B2 Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR)."[8]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg". Llywodraeth Cymru. 27 Mawrth 2023.
- ↑ Council of Europe (2001). Common European Framework of Reference for Languages: Learning, Teaching, Assessment. Council of Europe.
- ↑ "What The Cefr Is And Isn't". Free Malaysia Today. May 27, 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 24, 2020. Cyrchwyd 2024-07-18.
- ↑ "Gwiriwr Lefel Dysgu Cymraeg". Dysgu Cymraeg. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-03-28. Cyrchwyd 28 Mawrth 2023.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 "Y CEFR: Llwybr clir i ddysgu Cymraeg". Dysgu Cymraeg. Cyrchwyd 2025-06-08.
- ↑ 6.0 6.1 "Tabl y CEFR (fersiwn Cymraeg)". dysgucymraeg.cymru. Cyrchwyd 8 Mehefin 2025.
- ↑ Miles AS, Jeremy (15 Gorffennaf 2024). "Datganiad Ysgrifenedig: Cyflwyno Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)". Llywodraeth Cymru.
- ↑ "Bil Addysg Gymraeg: amlinelliad o gostau ac effeithiau Amlinelliad o gostau ac effeithiau a fydd yn sail i Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Bil Addysg Gymraeg". Llywodraeth Cymru. 23 Mawrth 2023.