Jakokoyak

Oddi ar Wicipedia

Roedd Jakokoyak yn brosiect cerddoriaeth lo-fi pop o Gymru, gydag elfennau seicadelic gwerin ac arbofi electroneg.

Pensaer y prosiect electroneg arbofol Jakokoyak oedd Rhys Edwards. Roedd yn canu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Yn wreiddiol o'r Wyddgrug ond wedi ei fagu ar Ynys Môn, dechreuodd Edwards recordio pan oedd yn y Brifysgol. Gan weithio a recordio ar ei ben ei hun, fe arbrofodd gyda hen allweddellau a phedalau effeithiau. Mae'r unigrwydd yma yn dod drosodd yn gryf yn ei gerddoriaeth ac yn rhan o sain unigryw Jakokoyak. Rhyddhaodd ei albym cyntaf, Am Cyfan Dy Pethau Prydferth (cafodd y teitl ei gymryd oddi ar boster a gyfieithwyd yn wael ar furiau Undeb Prifysgol Caerdydd) yn 2003 ac fe gafodd ei ail-ryddhau yn Japan yn 2004.[1] Teithiodd gyda'r Super Furry Animals yn Japan a bu'n perfformio yn stiwdios Maida Vale gyda Mogwai. Cafodd yr EP Flatyre ei ryddhau yn 2006 ac roedd y gan "Eira" yn record yr wythnos ar orsaf radio Xfm.[2]

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Albymau[golygu | golygu cod]

Senglau ac EPs[golygu | golygu cod]

  • Look Away Now (If You Don't Want to Know the Score) (Tachwedd, 2008)
  • Flatyre, (EP) (Mawrth 2006), (Recordiau Peski)

Crynoddisgiau Amlgyfrannog[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Radio 1 - Huw Stephens - 31st January 2006. BBC (31 Ionawr 2006).
  2. Cyfoeth cerddorol gogledd ddwyrain Cymru , BBC Cymru Fyw, 16 Mai 2019. Cyrchwyd ar 16 Medi 2019.

Cysylltiadau[golygu | golygu cod]