Hannah Mills

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Hannah Mills
Hannah Mills.jpg
Gwybodaeth bersonol
Enw llawn Hannah Mills
Ganwyd (1988-02-29) 29 Chwefror 1988 (30 oed)
Pontypridd
Camp
Gwlad Prydain Fawr
Chwaraeon Hwylio
Camp Optimist, 420, 470
Diweddarwyd 16 Awst 2016.

Hwylwraig Cymreig yw Hannah Mills (ganwyd 29 Chwefror 1988) sy'n cystadlu dros Prydain Fawr. Llwyddodd Mills, ynghŷd â'i chyd hwylwraig, Saskia Clark, i ennill medal arian yn y dosbarth 470 yng Ngemau Olympaidd 2012 yn Llundain, Prydain Fawr[1], a'r fedal aur yn y dosbarth 470 yng Ngemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro, Brasil[2].

Gyrfa hwylio[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd Mills hwylio yng Nghanolfan Hwylio Caerdydd pan yn wyth mlwydd oed[1][3][4] cyn dod yn aelod o garfan cenedlaethol Cymru yn nosbarth yr Optomist gan ennill Pencampwriaeth Optomist Prydain yn 2001[3]. Yn 2002, cafodd Mills ei hurddo'n Hwylwraig Ifanc y Deyrnas Unedig yn ogystal â Phersonoliaeth Chwaraeon Ifanc BBC Cymru[5]

Ar ôl symud i ddosbarth y 470, llwyddodd Mills a Clark i gipio'r fedal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Barcelona yn 2012 gan ddod y criw Prydeinig cyntaf i ennill yn nosbarth y 470[6] a cafodd y ddwy fedal arian yng Ngemau Olympaidd 2012 yn y regatta Olympaidd yn Weymouth[7].

Ar ôl gorffen yn 15fed ym Mhencampwriaethau Hwylio'r Byd yn San Isidro, Ariannin ym mis Chwefror 2016[8][9] ac yna dewis peidio a chystadlu ym Mhencampwriaeth y Ewrop yn Palma, Sbaen er mwyn canolbwyntio ar Gemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro, Brasil[10] roedd na bwysau ar Mills a Clark yng Ngemau Olympaidd 2016 ond llwyddodd y pâr i ennill y fedal aur gydag un ras ar ôl i'w hwylio[2].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 "Silver delight for Olympic 2012 sailor Hannah Mills". BBCSport. 2012-08-10. http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-19210016.
  2. 2.0 2.1 "Gemau Olympaidd Rio: Aur i Hannah Mills yn yr hwylio". BBC Cymru Fyw. http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/37105364.
  3. 3.0 3.1 Stuart, Hamish (2011-09-20). "Hannah’s Olympic boost for Welsh sailing". Yachts and Yachting. http://www.yachtsandyachting.com/news/159591.
  4. "Behind Every Star - Hannah Mills and Ollie Green". Sport Wales. http://www.sportwales.org.uk/news--events/news--events/our-campaigns/behind-every-star/jaz-carlin-and-bud-mcallister/hannah-mills-and-ollie-green.aspx.
  5. "Hannah Mills - Team GB Profile". The Telegraph. http://www.telegraph.co.uk/sport/olympics/Team-GB/competitors/8662484/Hannah-Mills-Team-GB-London-2012-Olympics.html.
  6. "World Champion medallists and Olympic qualification". Worlds470. http://worlds.470.org/eventsites/content.asp?id=12736&eventid=66686.
  7. "Olympics 2012: GB's Mills and Clark take sailing silver". BBCSport. 2012-08-10. http://www.bbc.co.uk/sport/olympics/19213495.
  8. "What’s it like to win Gold with your best friend?". Yachting World. http://www.yachtingworld.com/rio-olympics-2016/whats-it-like-to-win-gold-with-your-best-friend-mills-and-clark-claim-470-prize-today-90981.
  9. "470 Womens' results" (pdf). 470.org. http://www.470.org/uploaded_files/2016WC-470WomenFinalResults.pdf_770_en.pdf.
  10. "470 Europeans: Countdown to the Olympics". Sailing World. http://www.sailingworld.com/470-europeans-olympic-countdown.