Hanes Swydd Gaerloyw

Oddi ar Wicipedia
Map o Swydd Gaerloyw yng nghanol yr 17g.

Pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid yr ardal a elwir heddiw Swydd Gaerloyw, Lloegr, roedd y Brythoniaid wedi hen ymsefydlu yno ers Oes yr Efydd. Yn y cyfnod ôl-Rufeinig, parhaodd Caerloyw a Cirencester yn drefi pwysig. Nid yw union ddaearyddiaeth wleidyddol y 5g a'r 6g yn sicr, ond roedd y deyrnas Erging yn ne-ddwyrain Cymru yn cynnwys Fforest y Ddena a leolir heddiw yng ngorllewin y sir.

Daeth yr ardal dan ddylanwad y Sacsoniaid yn niwedd y 6g. Gorchfygwyd Dyffryn Hafren yn sgil buddugoliaeth y Sacsoniaid ym Mrwydr Dyrham (577), a chipiwyd Cirencester, Caerloyw, a Chaerfaddon ganddynt. Meddiannwyd yr ardal gan lwyth y Hwicce, a daethant yn diriogaeth ddibynnol ar deyrnas Mersia yn y 7g. Ni ddaeth dan dra-arglwyddiaeth Wessex nes y 9g, a ni chafwyd fawr o ddylanwad ar yr ardal gan y Daniaid.

Mae'n debyg i Swydd Gaerloyw ymddangos fel sir yn y 10g, a chyfeirir ati'n gyntaf yng Nghronicl yr Eingl-Sacsoniaid (1016). Cyfunwyd Swydd Winchcombe â Swydd Gaerloyw yn niwedd yr 11g, ac ehangodd i'r dwyrain i gynnwys Fforest y Ddena, sef y tir rhwng Afon Hafren ac Afon Gwy. Tan 1373, roedd Bryste yn rhan o Swydd Gaerloyw. Ymleddid nifer o frwydrau yn Swydd Gaerloyw drwy gydol yr Oesoedd Canol.

O ganol y 14g hyd at ddiwedd y 18g, ffynnodd ardal y Cotswolds ar sail ei ffermydd defaid a'i diwydiant gwlân. O'r Chwyldro Diwydiannol hyd at ganol yr 20g, roedd gweithfeydd haearn a'r diwydiant glo yn bwysig yn Fforest y Ddena.[1] Cafodd Swydd Gaerloyw, yn enwedig tref Tewkesbury, ei heffeithio'n drom gan lifogydd yn 2007.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Gloucestershire. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Ebrill 2019.