Llifogydd Canolbarth Lloegr 2007

Oddi ar Wicipedia
Llifogydd Canolbarth Lloegr 2007
Enghraifft o'r canlynolLlifogydd Edit this on Wikidata
Dyddiad14 Mehefin 2007 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bwyty Pizza Hut dan dŵr yn Chesterfield
Tanc Dŵr yn Cheltenham

Yn dilyn glaw eithriadol o drwm yng Ngorffennaf 2007, fe gafwyd llifogydd Canolbarth Lloegr 2007. Llifogwyd ardal helaeth o Ganolbarth Lloegr, ardal yn ymestyn o Hull i fasn Afon Hafren yn y de. Yn achos Afon Hafren roedd yna nifer o resymau dros y llifogydd yn cynnwys ffactorau ffisegol a ffactorau dynol. Roedd y tir yn ddirlawn trwy fasn yr afon, ar ôl cyfnod hir o law trwm dros nifer o wythnosau, ac o ganlyniad i hyn roedd llai o ddŵr yn ymdreiddio i’r pridd a chynyddwyd y llif trostir (dŵr ffo). Lleolir tarddbwynt Afon Hafren yng nghanolbarth Cymru lle mae'r tir yn uchel ac yn syrth ac felly cynyddir y llif trosdir unwaith eto. Nid yn unig y mae'r tir yn ddirlawn ond mae’r graig galchfaen yn yr ardal yn anathraidd iawn ac felly yn lleihau ymdreiddiad dŵr i’r pridd.

Gweithgareddau dynol a gyfranodd at effeithiau'r llifogydd[golygu | golygu cod]

Mae nifer o’r aneddiadau mawr a gafodd eu lifogu, yn cynnwys Caerloyw, Tewkesbury, Cinderford a Stroud, yn gorwedd ar orlifdir Afon Hafren. Adeiladwyd nifer o drefi ar orlifdir oherwydd mae’r tir yn wastad, ac roedd afonydd yn rhwydwaith pwysig yn yr hen ddyddiau ar gyfer cludiant. Mae hyn yn gwneud yr ardaloedd hynny yn agored i niwed wrth i lefelau dŵr godi. Mae canran uchel o aneddiadau wedi eu hamgylchynu a choncrît a tharmac sy'n atal dŵr rhag ymdreiddio. Yn ogystal, mae dŵr yn llifo i’r system draenio ac yn gweithredu fel llif trosdir sy’n llifo i’r afon yn llawer cyflymach ar yr un pryd. Mae ffermwyr yn draenio eu tir ar gyfer tyfu cnydau ac mae yna lai o goedwigoedd i rhyngipio a thransbiradu unrhyw ddŵr, felly mae’r dŵr yn gorfod mynd i’r afon.

Effeithiau'r llifogydd[golygu | golygu cod]

Cafwyd nifer o bobl eu heffeithio; lladdwyd 13 ac roedd rhaid i'r RAF achub dros 120 o bobl. Roedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn pryderu fod yna risg i iechyd wrth i bobl ddod i gyswllt â dŵr ffo, ond ni wireddwyd eu hofnau. Cafodd yr economi ei effeithio'n ddifrifol. Bu bron i is-orsaf bŵer yng Nghaerloyw fynd dan y llifogydd; buasai hynny wedi gadael miloedd o bobl heb bŵer. Collodd nifer o bobl gyflenwad dŵr glân ac felly roedd rhaid i bobl aros adre o'r gwaith a pheidio mynd i’r ysgol. Collodd busnesau symiau mawr o arian trwy fod ar gau heb sôn am y difrod a achoswyd gan y dŵr. Dinistriwyd nifer o dai, busnesau ac ysgolion efo chost o £2 biliwn. Roedd rhaid i nifer fawr o bobl symud allan o'u tai am gyfnod hir a symud i lefydd eraill dros dro. Roedd rhai pobl allan o'u cartrefu am hyd at flwyddyn ar ôl y digwyddiad. Roedd yna straen fawr ar gwmnïau yswiriant i dalu symiau mawr o arian; roedd yna hefyd rhai pobl a oedd heb yswirio eu tai.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]