Hallgrímskirkja

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Hallgrímskirkja church Reykjavik 2019 2.jpg

Hallgrímskirkja, a olygir eglwys Hallgrímur, yw eglwys Lutheraidd (Eglwys Gwlad yr Iâ) yn Reykjavik, Gwlad yr Iâ. Mae'n 74.5m dal, ac felly hwn yw'r eglwys fwyaf yng Ngwlad yr Iâ ac ymhlith y strwythurau talaf yn y wlad. Enwir yr eglwys ar ôl y bardd ac offeiriad o Wlad yr Iâ, Hallgrímur Pétursson (1614–1674), awdur yr Passíusálmar.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r eglwys wedi'i lleoli ar ben bryn ger canol Reykjavík, ac yn un o dirnodau mwyaf adnabyddus y ddinas. Oherwydd ei maint gellir ei weld ledled y ddinas. Comisiynwyd dyluniad y pensaer Guðjón Samúelsson ym 1937. Dywedir iddo ei ddylunio i ymdebygu i grisgreigiau, mynyddoedd a rhewlifoedd tirwedd Gwlad yr Iâ.[1][2] Mae'r dyluniad yn debyg o ran arddull i bensaernïaeth fynegiadol Eglwys Grundtvig yng Nghopenhagen, Denmarc, a gwblhawyd ym 1940.

Cymerodd 41 mlynedd i adeiladu'r eglwys: dechreuodd y gwaith adeiladu ym 1945 a daeth i ben ym 1986, ond cwblhawyd y twr ymhell cyn gorffen yr eglwys gyfan. Cysegrwyd y gladdgell o dan y côr ym 1948, cwblhawyd y twr a'r esgyll ym 1974,[2] a chysegrwyd corff yr eglwys ym 1986. Ar adeg ei adeiladu, beirniadwyd bod yr adeilad yn rhy hen-ffasiwn ac roedd yn gyfuniad o wahanol arddulliau pensaernïol.[3] Yn wreiddiol bwriadwyd i'r eglwys fod yn llai tal, ond roedd arweinwyr Eglwys Gwlad yr Iâ eisiau twr mawr er mwyn iddo edrych yn well na'r Landakotskirkja, sef eglwys gadeiriol yr Eglwys Gatholig yng Ngwlad yr Iâ.

Mae'r tu mewn yn 1,676 metr sgwâr. Yn 2008, cafodd prif dwr yr eglwys ei hadfer yn sylweddol, ac roedd sgaffaldiau arni. Ddiwedd 2009, cwblhawyd y gwaith adfer a symudwyd y sgaffaldiau.

Mae'r eglwys yn gartref i organ fawr gan yr adeiladwr organau Almaeneg Johannes Klais o Bonn. Mae'n gweithredu'n electronig; mae'r pibellau'n bell o'r pedair allweddell a'r consol pedal. Mae 102 o rengoedd, 72 stop a 5275 o bibellau. Mae'n ganddo daldra o 15m ac yn pwyso 25 tunnell fetrig. Cwblhawyd ym mis Rhagfyr 1992.

Defnyddir yr eglwys hefyd fel twr gwylfa. Gall arsylwr fynd â lifft i fyny at y dec gwylio a gweld Reykjavík a'r mynyddoedd cyfagos. Caiff yr eglwys ei defnyddio heddiw ar gyfer gwasanaethau a phriodasau modern. 

Mae cerflun o fforiwr Leif Erikson (c.970 - c.1020) gan Alexander Stirling Calder o flaen yr eglwys, sy'n dyddio o gyn adeiladu'r eglwys. Roedd yn anrheg o'r Unol Daleithiau er anrhydedd i Ŵyl Fileniwm Alþingi ym 1930, i goffáu 1000 mlynedd ers dechrau senedd Gwlad yr Iâ yn Þingvellir ym 930 OC.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. http://www.hallgrimskirkja.is/um-hallgrimskirkju/
  2. 2.0 2.1 2.2 Noyes, David (March–April 2009). Iceland – Europe's coolest little hot spot. AAA. p.  28.
  3. (yn en) Steinsteypuöldin, http://ruv.is/sarpurinn/ruv/steinsteypuoldin/20160915, adalwyd 2017-01-18