Halfords Tour Series

Oddi ar Wicipedia
Halfords Tour Series
Enghraifft o'r canlynolras beics Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.tourseries.co.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfres flynyddol o rasus seiclo cylchffordd yw'r Halfords Tour Series, a sefydlwyd yn 2009. Noddir y gyfres gan gwmni Halfords a darlledir ar ITV4 yn y Deyrnas Unedig. Mae'r gystadleuaeth wedi ei strwythuro fel bod pwyslais ar ymdrech tîm yn hytrach na buddugoliaethau unigol.[1]

Mae pob ras yn y gyfres yn para awr a 5 cylchffordd ychwanegol. Caiff safleoedd y timau eu penderfynu drwy cyfanswm safleoedd 3 gorffennwr cyntaf y tîm (mae 5 reidiwr yn cychwyn y ras ar gyfer pob tîm), y tîm gyda'r cyfanswm isaf fydd yn ennill, ac yn cael 10 pwynt tuag at sgorio'r gyfres. Gwobrwyir 9 pwynt ar gyfer yr ail dîm, 8 ar gyfer y trydydd, 7 ar gyfer y pedwerydd ac yn y blaen. Mae hefyd cystadleuaeth sbrint sydd â tair sbrint ym mhob cymal o'r gyfres. Gwobrwyir 5,4,3,2 ac 1 o bwyntiau i'r 5 reidiwr cyntaf yn y sbrintiau rhain. Bydd enillydd y gystadleuaeth sbrintiau ar gyfer pob cymal yn ogystal ag enillydd cyffredinol y gyfres. Bydd arweinydd y gystadleuaeth ym mhob cymal hefyd yn gwisgo crys melyn.[2]

Cyfres 2009[golygu | golygu cod]

Roedd 10 cymal yn y gyfres gyntaf a gynhaliwyd yn 2009, ar draws Lloegr, gyda'r cymal cyntaf yn Milton Keynes, a'r un terfynol yn Southend. Tîm Halfords BikeHut oedd y cryfaf yn y gystadleuaeth, wedi ei chyfansoddi o sbrintwyr yn bennaf a oedd yn gweddu'n dda i'r rasus cylchffordd rhain. Ychydig iawn o'r cylchffyrdd oedd yn fryniog felly roedd hyn i'w weld yn helpu tîm Halfords.

Cyfres 2010[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Halfords noddi'r gyfres yn 2010, gan nad oedd ganddynt dîm eu hunain bellach. Roedd 10 cymal unwaith eto, gan gynnwys un yn Durham gyda'i allt serth ac arwynebedd coblau. Tîm Motorpoint Pro Cycling oedd yn fuddugol y tro hwn, o dan arweinyddiaeth y reidiwr profiadol Malcolm Elliot, gyda Malcolm ei hun yn ennill yn Durham.

Cyfres 2011[golygu | golygu cod]

Tocwyd y gyfres i 8 cymal yn 2011. Dominyddwyd y cymalau cynnar gan Rapha Condor-Sharp a enillodd y bedair cymal cyntaf yn unigol ac fel tîm, cyn i Team Endura gipio'r fuddugoliaeth unigol yn y bumed cymal a'r fuddugoliaeth unigol gyda'r Cymro Rob Partridge, a'r fuddugoliaeth tîm yn y chweched cymal yn Oldham.

Cymalau

Cymal Dyddiad Lleoliad Enillydd tîm Enillydd unigol Enillydd Sbrint
1 24 Mai Durham Rapha Condor-Sharp Zak Dempster Kristian House
2 26 Mai Aberystwyth Rapha Condor-Sharp Ed Clancy Kristian House
3 31 Mai Peterborough Rapha Condor-Sharp Graham Briggs Marcel Six
4 2 Mehefin Colchester Rapha Condor-Sharp Dean Downing Jeroen Janssen
5 7 Mehefin Stoke-on-Trent Rapha Condor-Sharp Scott Thwaites Scott Thwaites
6 9 Mehefin Oldham Endura Racing Rob Partridge Rob Partridge
7 14 Mehefin Woking Endura Racing Ian Wilkinson Steve Lampier
8 16 Mehefin Canary Wharf Motorpoint Pro Cycling Jonny McEvoy Jonny McEvoy
Enillwyr y gyfres Rapha Condor-Sharp dim Steve Lampier

Cyfres 2012[golygu | golygu cod]

Roedd 11 cymal yng nghyfres 2012, Domineiddwyd y cymalau cynnar gan Endura Racing a enillodd y bedair cymal cyntaf fel tîm.

Cymalau

Cymal Dyddiad Lleoliad Enillydd tîm Enillydd unigol Enillydd Sbrint
1 15 Mai Kirkcaldy Endura Racing Scott Thwaites Marcel Six
2 17 Mai Durham Endura Racing Kristian House Kristian House
3 22 Mai Oxford Endura Racing Scott Thwaites Marcel Six
4 24 Mai Redditch Endura Racing Niklas Gustavsson Bernard Sulzberger
5 25 Mai Aberystwyth Team UK Youth Kristian House Marcel Six
6 29 Mai Peterborough Team Raleigh-GAC Ed Clancy Marcel Six
7 31 Mai Canary Wharf Endura Racing Zak Dempster Yanto Barker
8 5 Mehefin Torquay Node 4-Giordana Racing Marcin Bialoblocki Bernard Sulzberger
9 7 Mehefin Colchester Endura Racing Graham Briggs Graham Briggs
10 12 Mehefin Woking Endura Racing Zak Dempster Zak Dempster
11 14 Mehefin Stoke-on-Trent Rapha Condor-Sharp Treial amser tîm
12 Node 4-Giordana Racing Bernard Sulzberger Bernard Sulzberger
Enillwyr y gyfres

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]