Hafaliad Laplace
Mewn mathemateg, hafaliad differol rhannol yw hafaliad Laplace. Fe'i henwyd ar ôl Pierre-Simon Laplace, a'i dargynfyddodd. Mae datrysiadau'r hafaliad yn bwysig mewn sawl maes gwyddonol (electromagneteg, seryddiaeth, a dynameg hylifau er enghraifft), am eu bod yn disgrifio ymddygiad potensialau trydanol, disgyrchol a hylifol.
Diffiniad
[golygu | golygu cod]Mewn tri dimensiwn, y broblem yw i ganfod ffwythiannau o newidynnau real x, y, a z, fel y gellid differu dwywaith, a'u bod yn bodloni'r hafaliad:
Ysgrifennir hyn yn aml fel hyn:
neu
neu
lle dynoda Δ y gweithredydd Laplace.
Fe gelwir datrysiadau i'r hafaliad yn ffwythiannau harmonig.
Os roddir ffwythiant ansero f(x, y, z)ar ochr dde'r hafaliad, hynny yw:
yna gelwir yr hafaliad yn hafaliad Poisson. Hafaliad Laplace a hafaliad Poisson yw'r enghreifftiau symlaf o hafaliad differol eliptig. Gelwir y gweithredydd differol neu (a gellid ei diffinio mewn unrhyw nifer o ddimensiynau) yn weithredydd Laplace.
Amodau ffin
[golygu | golygu cod]Y broblem Dirichlet ar gyfer hafaliad Laplace yw i ganfod datrysiad ar ryw barth sydd â yn hafal i ffwythiant neilltuol ar ffin . Gan fod y gweithredydd Laplace yn ymddangos yn yrhafaliad gwres, mae'n bosib rhoi dehongliad ffisegol fel a ganlyn: pennwch y dymheredd ar ffin y parth, ac yna disgwyl tan fod tymheredd wedi peidio â newid; yna fe fydd tymheredd y mewnedd yn ddatrysiad i'r broblem Dirichlet cyfatebol.
Mae amodau ffin Neumann ar gyfer yr hafaliad yn pennu'r differiad normal ar , yn hytrach na gwerth ei hun. Yn ffisegol, mae hyn yn cyfateb i lunio potensial ar gyfer maes fectoraidd, lle dim ond ar ffin y gwyddys effaith y potensial.
Mae ffwythiannau harmonig (hynny yw, datrysiadau i hafaliad Laplace) yn ddadansoddol o fewn y parth lle mae'r hafaliad yn cael ei bodloni. Fel gydag unrhyw hafaliad differol llinol homogenaidd, os mae dau ffwythiant y ddatrysiadau i hafaliad Laplace, yna mae eu swm (neu unrhyw gyfuniad llinol ohonynt am hynny) yn ddatrysiad yn ogystal.