HMS Hamadryad

Oddi ar Wicipedia
HMS Hamadryad
Enghraifft o'r canlynolhospital ship, fifth-rate frigate Edit this on Wikidata
Gweithredwry Llynges Frenhinol Edit this on Wikidata
GwneuthurwrPembroke Dockyard Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd yr HMS Hamadryad neu, rhag dryswch, HMS Hamadryad (1823) yn long ffrigad dosbarth Leda Addasedig pumed cyfradd 46-gwn y Llynges Frenhinol. Cafodd ei lansio ym 1823 ac yn ddiweddarach daeth yn llong ysbyty yng Nghaerdydd. Bod mytholegol Groegaidd sy'n byw mewn coeden yw hamadryad (/hæməˈdraɪ.æd/; Hen Groeg: Ἁμαδρυάδες, wedi'i Ladineiddio: Hamadryádes).

Llongau o'r un enw[golygu | golygu cod]

Ceir dau long arall o'r enw'r HMS Hamadryad:

Y ffrigad Sbaenaidd Ninfa, wedi’i chipio gan y Prydeinwyr ar 26 Ebrill 1797 a’i chymryd i wasanaeth fel HMS Hamadryad. Cafodd ei dryllio oddi ar arfordir Portiwgal ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn.
HMS Hamadryad (1804), hen ffrigad 38 gwn Sbaenaidd Santa Matilda, a adeiladwyd yn Havanna ym 1778 ac a ddaliwyd gan ffrigadau Donegal a Medusa yn y Llynges Frenhinol ym 1804 oddi ar Cadiz. Cafodd ei hailenwi'n HMS Hamadryad a'i ostwng i 36 o ynnau ym 1810, gwasanaethodd yng ngorsaf y Baltig a Newfoundland. Gwerthwyd yn Woolwich am £2,610 ar 9 Awst 1815.

Hanes[golygu | golygu cod]

Fe'i gorchmynnwyd ar 25 Ebrill 1817 yn Iard Longau Penfro yn Sir Benfro, lle gosodwyd ei cilbren ym mis Medi 1819. Lansiwyd hi ar 25 Gorffennaf 1823, a hwyliodd o gwmpas ar 8 Awst i Iard Longau Plymouth i'w chwblhau.

Llong ysbyty[golygu | golygu cod]

Ym mis Chwefror 1866 fe'i penodwyd i'w throsglwyddo i'r Meistri Marshall, y torwyr llongau, i'w chymryd yn ddarnau, ond yn lle hynny ar 9 Mawrth 1866 penderfynwyd ei rhoi ar fenthyg fel ysbyty arnofiol i forwyr sâl yng Nghaerdydd. Cafodd ei thynnu ar draws o Devonport a'i hagor fel llong ysbyty yn Nociau Caerdydd ym mis Tachwedd 1866. Erbyn y 1880au, roedd 500 o gleifion mewnol yn cael eu trin bob blwyddyn.[1]

Yn olaf ym 1900, dychwelwyd hi i reolaeth y llynges a'i throsglwyddo i Portsmouth, lle gwerthwyd hi am dorri i fyny ar 11 Gorffennaf 1905.

Roedd ffrigad dosbarth Leda segur arall, HMS Thisbe, hefyd wedi’i hangori yng Nghaerdydd a’i defnyddio fel eglwys arnofiol gan y Missions to Seamen o 1863 i 1891.

Gwaddol[golygu | golygu cod]

Agorwyd ysbyty brics a morter, o'r enw Ysbyty Brenhinol Hamadryad, yn Nociau Caerdydd ym 1905.[1]

Agorwyd hefyd ysgol Gymraeg ar safle ei hangorfa ym mis Ionawr 2019), gan gymryd ei henw, Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad.[2]

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Winfield, R.; Lyon, D. (2004). The Sail and Steam Navy List. Chatham Publishing. ISBN 978-1-86176-032-6. Text "The Sail and Steam Navy List: All the Ships of the Royal Navy 1815–1889" ignored (help)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Dan O'Neil (28 October 2014). "Cardiff Hamadryad Hospital homes protest evokes the ships that help shaped the city". Wales Online. Cyrchwyd 7 December 2015.
  2. "Home | Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad". www.ysgolhamadryad.cymru. Cyrchwyd 2019-01-16.