Gwynfor Lloyd Griffiths
Gwedd
Gwynfor Lloyd Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | 1934 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Awdur a chyn-blismon yw Gwynfor Lloyd Griffiths (ganwyd 1934).
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Mae Gwynfor yn hannu o Ben-y-groes, Gwynedd, yn wreiddiol, a bellach yn byw yn Y Rhyl. Yn blentyn symudodd gyda'i deulu i fyw i Rhosgoch ger Amlwch. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Y Carreglefn, Ysgol Rhosybol ac Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ymunodd a'r heddlu yn 1957 a bu'n gweithio fel heddwas yng Nghonwy, Cyffordd Llandudno, Llandudno, Y Rhyl a Phrestatyn. Ers ymddeol yn 1984 mae wedi ysgrifennu nofelau yn defnyddio ei brofiadau fel ditectif gyda'r heddlu. Mae Gwynfor hefyd yn arlunydd ac wedi darlunio'r cloriau ar ei lyfrau.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Y Daliwr Lladron (Kenfig Society, 30 Medi 2005, ISBN 9788888047188)
- The Thief Taker (Gwasg Helygain, 2006, ASIN B006FGKEMM)
- Llofrudd yn y Pentre Bach (Hunan-gyhoeddedig, Mehefin 2011)
- Byd y Cysgodion - Atgofion PC Huw Morgan (Gwasg y Bwthyn, Mawrth 2015, ISBN 9781907424694)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Nofel gyntaf cyn-blismon. (en) , Daily Post, 25 Mawrth 2015. Cyrchwyd ar 13 Mai 2016.