Gwyn godreog
| Bordered White | |
|---|---|
| Adain uchaf yr oedolyn gwryw o un o wledydd y de. | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Arthropoda |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Lepidoptera |
| Teulu: | Geometridae |
| Llwyth: | Bupalini |
| Genws: | Bupalus |
| Rhywogaeth: | B. piniaria |
| Enw deuenwol | |
| Bupalus piniaria (Linnaeus, 10fed rhifyn Systema Naturae, 1758) | |
| Cyfystyron | |
|
Bupalus piniarius (lapsus) | |
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyn godreog, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwynion godreog; yr enw Saesneg yw Bordered White, a'r enw gwyddonol yw Bupalus piniaria.[1][2] Mae'n perthyn i deulu'r Geometridae ac oddi fewn i'r teulu hwn mae'n perthyn i lwyth y Bupalini o wyfynod. Mae'n eithaf cyffredin yng ngorllewin Ewrop, y Dwyrain Agos (sef yr hen Ymerodraeth yr Otomaniaid) a gogledd Affrica.[3]
Mae'n hoff iawn o ardaloedd conifferaidd, ac mae'r oedolyn ar ei adain ym Mai a Mehefin, ac mewn rhai llefydd hyd yn oed hyd at Awst. 34–40 mm ydy lled ei adenydd.
-
Bupalus piniaria ♂
-
♂ △
-
Bupalus piniaria♀
-
♀ △
Bwyd
[golygu | golygu cod]Lliw gwyrdd sydd i'r siani flewog, gyda llinellau ysgafn arni a'i phrif fwyd ydy gwahanol fathau o binwydd (Pinus) yn enwedig pinwydd yr Alban (P. sylvestris) a phinwydd du Ewrop (P. nigra). Cofnodwyd y siani flewog hefyd ar ddail y Pseudotsuga a'r llarwydden (Larix) a'r sbriws (Picea a Picea abies). Mae'n cysgu dros y gaeaf fel piwpa (neu chwiler). Caiff ei adnabod fel pla mewn fforestydd conifferaidd.[4]
Oriel luniau
[golygu | golygu cod]-
Adain uchaf oedolyn gwryw
-
Is-adain y gwryw o Dresden (yr Almaen)
-
Is-adain y fenyw o Dresden (yr Almaen)
-
Wyau
Isrywogaeth
[golygu | golygu cod]- Bupalus piniaria bernieri de Lajonquiere, 1958
- Bupalus piniaria espagnolus Eitschberger & Steiniger, 1975
- Bupalus piniaria flavescens White, 1876 (sydd fel i'w ganfod yn piniaria)
- Bupalus piniaria mughusaria Gumppenberg, 1887 (sydd fel i'w ganfod yn piniaria)
- Bupalus piniaria piniaria (Linnaeus, 1758)
-
Bupalus piniaria flavescens ♂
-
Bupalus piniaria flavescens ♂ △
Cyffredinol
[golygu | golygu cod]Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyn godreog yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ Skinner (1984), Chinery (2007): 180, FE (2009)
- ↑ Skinner (1984), Chinery (2007): 180, and see references in Savela (2001)
