Gwyfyn Rhagfyr

Oddi ar Wicipedia
Poecilocampa populi
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Lasiocampidae
Genws: Poecilocampa
Rhywogaeth: P. populi
Enw deuenwol
Poecilocampa populi
(Linnaeus, 1758)

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyfyn Rhagfyr, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwyfynod Rhagfyr; yr enw Saesneg yw December Moth, a'r enw gwyddonol yw Poecilocampa populi.[1][2]

Yng ngogledd Asia a Japan mae'r gwyfyn yma i'w ganfod.

Mae lled adenydd yr oedolyn rhwng 30–45 mm ac fe'i welir ar ei adain rhwng Hydref a Rhagfyr. Hoff fwyd y siani flewog ydy dail coed megis derwen, Poplysen wen a Tilia.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyfyn Rhagfyr yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Bwyd a thymor y lindys[golygu | golygu cod]

Mae’r lindys yn bwyta dail coed collddail y derw, bedw, llwyfen, drain gwynion, poplys a phiswydd. Mae'n gaeafu fel ŵy [3].

Cylch bywyd[golygu | golygu cod]

Mae'r gwyfyn Rhagfyr yn aros yma trwy'r flwyddyn. Megir un genhedlaeth y flwyddyn sydd yn hedfan o Hydref hwyr hyd canol Rhagfyr yn ne Prydain, ond yn ymddangos rhai wythnosau ynghynt yn y gogledd[3].

Statws[golygu | golygu cod]

Cyffredin yng Nghymru ac ym Mhrydain ond yn llai cyffredin yng ngogledd yr Alban. Dosbarthiad eang, ac yn gyffredin dros Gymru a Phrydain[3].

Ffurfiau amrywiol[golygu | golygu cod]

Amrywiol iawn ar draws holl bellter ei ddosbarthiad heb unrhyw batrymau daearyddol[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Moths of the British Isles, B. Skinner (1984) Gwasg Viking