Gwladwr Cymreig

Oddi ar Wicipedia
Xestia ashworthii
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Noctuidae
Genws: Xestia
Rhywogaeth: X. ashworthii
Enw deuenwol
Xestia ashworthii
(Doubleday, 1855)
Cyfystyron
  • Agrotis candelarum

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwladwr Cymreig, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwladwyr Cymreig; yr enw Saesneg yw Ashworth's Rustic, a'r enw gwyddonol yw Xestia ashworthii.[1][2]

Dosbarthiad[golygu | golygu cod]

Rhywogaeth leol iawn, sydd i'w chael yn ardaloedd mynyddig Gogledd Cymru yn unig, lle mae'n byw ar fryniau llechi a chalchfaen.

Ffenoleg[golygu | golygu cod]

Mae'r genhedlaeth sengl yn hedfan rhwng Mehefin ac Awst, pan ddaw i olau a siwgr.

Cylch bywyd[golygu | golygu cod]

Mae'r larfa yn bwydo ar amrywiaeth o blanhigion isel gan gynnwys cor-rosyn cyffredin (Helianthemum chamaecistus), grug (Calluna) a bysedd y cŵn (Digitalis purpurea). Ar ddiwrnodau heulog weithiau gellir dod o hyd i'r larfa yn torheulo ar y planhigion bwyd neu ar greigiau cyfagos[4]

Cafwyd lindysen llawndwf 8 Mehefin 1994 ar lwybr Drws Ardudwy, gwarchodfa natur y Rhinogydd[5]. Mae'n debyg mai chwilio am le i chwileru ydoedd.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r gwladwr Cymreig yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Cofnodion amrywiol[golygu | golygu cod]

  • Pori ar y teim yng Ngwm Idwal heddiw [21/5/2023] . 'Di methu canfod be ydi o ar y we, ond mi fydd na rhywun yma’n gwybod ma siwr! "Dim Enw" [3]
  • Ashworths rustic - lindysun ar lwybr Drws Ardudwy gwarchodfa y Rhinogydd (efo Jonathan Neale) 8/9/1964 [4]
  • PENWYTHNOS 'ASHWORTH'S RUSTIC' YM MHENSYCHNANT

Dydd Sadwrn 9fed - Dydd Sul 10fed Gorffennaf [2022]. Nos Sadwrn fydda i'n rhoi’r trapiau gwyfynod allan ar y mynydd yn y gobaith o ddal Weaver's Wave ac Ashworth's Rustic. Yng Nghymraeg, cafodd Ashworth Rustic ei enwi 'Y Gwladwr Cymreig' ; a Weaver's Wave ydy Ton Gwynedd . Mae'r enwau hyn yn tystio i'r ffaith bod y ddwy rywogaeth hon yn unigryw i fynyddoedd Eryri a Gogledd Cymru, yn digwydd yn unman arall ym Mhrydain. Pensychnant yw'r lleoliad mwyaf adnabyddus ac mae wedi denu gwyfynwyr ers i Ton Gwynedd gael ei dal yma ym 1856. (Esgusodwch fy Nhymraeg druan. Dim ond dysgwr ydw i.)[5]

  • VC49 Eryri 15/07/2020. gwladwr Cymreig (Xestia ashworthii), newydd am y flwyddyn[6]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. FB Cymuned Llên Natur[1]
  4. Llyfr Maes Duncan Brown > Tywyddiadur Llên Natur[2] > FB Cymuned Llên Natur
  5. FB Cymuned Llên Natur [3]