Gwennol y Bondo

Oddi ar Wicipedia
Gwennol y Bondo
Gwennol y Bondo'n creu ei nyth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Hirundinidae
Genws: Delichon
Rhywogaeth: D. urbicum
Enw deuenwol
Delichon urbicum
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron

Delichon urbica

Mae Gwennol y Bondo (Delichon urbicum), sy'n aelod o'r teulu Hirundinidae, y gwenoliaid, yn gyffredin trwy ran helaeth o Ewrop ac Asia. Mae'n aderyn mudol, gyda'r rhan fwyaf yn treulio'r gaeaf yn Affrica.

Mae'n aderyn eithaf tebyf i'r Wennol o ran lliw, ond yn hawdd ei adnabod oherwydd y darn mawr gwyn uwchben y gynffon. Mae'r gynffon yn fyrrach na chynffon y Wennol. Fel rheol gwelir yr adar cyntaf yn Ewrop tua dechrau ebrill, er ei bod yn ddiwedd Ebrill cyn i'r rhan fwyaf gyrraedd. Fel rheol mae'n adeiladu'r nyth, sydd wedi ei wneud o fwd, ar dai, o dan y bondo, ac mae nifer o barau yn nythu gyda'i gilydd. Mae'n debyg mai ar glogwyni roedd Gwennol y Bondo yn nythu'n wreiddiol, ac mae ambell un yn parhau i wneud hynny.

Gwennol y Bondo'n hedfan
Wyau
Delichon urbicum

Mae'r rhan fwyaf o'r adar wedi gadael Ewrop erbyn diwedd mis Hydref, er bod ambell un yn cael ei weld yn ystod Tachwedd neu hyd yn oed Rhagfyr.