Gwenllian Morgan
Gwenllian Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 9 Ebrill 1852 Defynnog |
Bu farw | 7 Tachwedd 1939 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | awdur, hynafiaethydd |
Gwobr/au | Cymrawd Gymdeithas yr Hynafiaethwyr |
Gwenllian Elizabeth Fanny Morgan (neu ar lafar Miss Philip Morgan) (9 Ebrill 1852 - 7 Tachwedd 1939) oedd y ferch gyntaf yng Nghymru i gael ei gwneud yn Faer (neu'n Faeres). Roedd yn hynafieithydd a chyhoeddodd lyfrau am ei hardal.
Fe'i ganed yn Nefynnog ar 9 Ebrill 1852, yn ferch i Philip Morgan[1] a oedd yn gurad ym Mhenpont (1841-64) a'r Batel gerllaw Aberhonddu (1859-64); wedi hyn bu'n rheithor yn Llanhamlach o 1864 hyd at ei farw yn 1868, pan symudodd hithau i Aberhonddu.
Roedd Gwenllian yn flaenllaw iawn ym mywyd cyhoeddus ei thref a'i hardal, yn enwedig gydag addysg. Hi oedd y ferch gyntaf yng Nghymru i'w hethol ar gyngor trefol, a'r ferch gyntaf yng Nghymru i fod yn faer neu'n faeres, a hynny rhwng 1910-1 yn Aberhonddu.
Roedd cryn ddiddordeb ganddi mewn llenyddiaeth a chyfrannodd i gylchgronau hynafiaethol a olygid gan W. R. Williams o Dalybont-ar-Wysg. Syrthiodd mewn cariad gyda gwaith y bardd metaffisegol Cymreig yn yr iaith Saesneg Henry Vaughan (c. 17 Ebrill 1622 – 28 Ebrill 1695). Cydweithiodd gyda'r Americanes Louise Imogen Guiney (1861 - 1920) ar gyfrol o waith y bardd, gyda nodiadau bywgraffyddol a hanesyddol, a chyhoeddwyd hyn yn 1896. Ond bu farw'r ddwy cyn gorffen y gwaith a throsglwyddwyd golygyddiaeth y gyfrol i Dr F. E. Hutchinson.[2]
Anrhydeddwyd Gwenllian gyda Gradd M.A. er anrhydedd iddi gan Brifysgol Cymru yn 1925. Bu farw yn Aberhonddu ar 7 Tachwedd 1939.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ceir achau'r teulu yn History of Brecknock, 3ydd arg., iv, 134-8 gan Theophilus Jones.
- ↑ powysenc.weebly.com; adalwyd 01 Gorffennaf 2015
- Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein; Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol