Gwenllian Morgan

Oddi ar Wicipedia
Gwenllian Morgan
Ganwyd9 Ebrill 1852 Edit this on Wikidata
Defynnog Edit this on Wikidata
Bu farw7 Tachwedd 1939 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethawdur, hynafiaethydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Gymdeithas yr Hynafiaethwyr Edit this on Wikidata

Gwenllian Elizabeth Fanny Morgan (neu ar lafar Miss Philip Morgan) (9 Ebrill 1852 - 7 Tachwedd 1939) oedd y ferch gyntaf yng Nghymru i gael ei gwneud yn Faer (neu'n Faeres). Roedd yn hynafieithydd a chyhoeddodd lyfrau am ei hardal.

Fe'i ganed yn Nefynnog ar 9 Ebrill 1852, yn ferch i Philip Morgan[1] a oedd yn gurad ym Mhenpont (1841-64) a'r Batel gerllaw Aberhonddu (1859-64); wedi hyn bu'n rheithor yn Llanhamlach o 1864 hyd at ei farw yn 1868, pan symudodd hithau i Aberhonddu.

Roedd Gwenllian yn flaenllaw iawn ym mywyd cyhoeddus ei thref a'i hardal, yn enwedig gydag addysg. Hi oedd y ferch gyntaf yng Nghymru i'w hethol ar gyngor trefol, a'r ferch gyntaf yng Nghymru i fod yn faer neu'n faeres, a hynny rhwng 1910-1 yn Aberhonddu.

Roedd cryn ddiddordeb ganddi mewn llenyddiaeth a chyfrannodd i gylchgronau hynafiaethol a olygid gan W. R. Williams o Dalybont-ar-Wysg. Syrthiodd mewn cariad gyda gwaith y bardd metaffisegol Cymreig yn yr iaith Saesneg Henry Vaughan (c. 17 Ebrill 1622 – 28 Ebrill 1695). Cydweithiodd gyda'r Americanes Louise Imogen Guiney (1861 - 1920) ar gyfrol o waith y bardd, gyda nodiadau bywgraffyddol a hanesyddol, a chyhoeddwyd hyn yn 1896. Ond bu farw'r ddwy cyn gorffen y gwaith a throsglwyddwyd golygyddiaeth y gyfrol i Dr F. E. Hutchinson.[2]

Anrhydeddwyd Gwenllian gyda Gradd M.A. er anrhydedd iddi gan Brifysgol Cymru yn 1925. Bu farw yn Aberhonddu ar 7 Tachwedd 1939.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ceir achau'r teulu yn History of Brecknock, 3ydd arg., iv, 134-8 gan Theophilus Jones.
  2. powysenc.weebly.com; adalwyd 01 Gorffennaf 2015