Gwenllian (cerdd)

Oddi ar Wicipedia

Cerdd Gymraeg gan Myrddin ap Dafydd ydy "Gwenllian", sy'n adrodd hanes y Y Dywysoges Gwenllian, merch Llywelyn Ein Llyw Olaf, Tywysog Cymru, a'i wraig Elinor, Arglwyddes Cymru. Cymharai'r bardd fywyd Gwenllian ac yr iaith Gymraeg.

Cywydd yw mesur y gerdd.

Ysgrifennwyd y gerdd yn 1993. Pwrpas y gerdd yn rhannol oedd cymryd rhan yn yr ymgyrch i roi cofeb yn abaty Sempringham, Swydd Lincoln er cof am Y Dywysoges Gwenllian. Cafoddd Gwennllian ei herwgipio i'r abaty pan oedd yn faban, a gorfodwyd hi i fyw yno drwy ei hoes ar ôl iddi golli ei rhieni. Ni wyddai hi ei hanes nac ei chefndir a bu farw heb allu siarad Cymraeg o gwbl.  

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]