Gwenan Gibbard
Gwedd
Gwenan Gibbard | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cerddor |
Telynores a chantores sy'n canu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig yw Gwenan Gibbard. Ganwyd hi yn ardal Pwllheli, Gwynedd. Wedi graddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor a chwblhau gradd feistr yno mewn perfformio ac ymchwil ym maes cerddoriaeth Cymru, aeth i Lundain i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol.
Bu'n enillydd ym mhrif gystadlaethau telyn a chanu'r Eisteddfod Genedlaethol, Yr Ŵyl Gerdd Dant a'r Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon, a bu'n cynrychioli Cymru mewn gwyliau megis Gŵyl Lorient yn Llydaw, Cyngres Delynau'r Byd yn Nulyn, Gŵyl Delynau Ryngwladol yng Nghaeredin, Celtic Connections, Glasgow a Gŵyl Gymreig Gogledd America, Cincinnati.[1]
Mae ganddi ddau gryno ddisg ar label Sain, Y Gwenith Gwynnaf a Sidan Glas.
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Eryl Crump (11 Hydref 2007). Gwenan taking music to Canada. The Daily Post.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Gwenan Gibbard Archifwyd 2012-04-10 yn y Peiriant Wayback