Gwawr (cerdd)

Oddi ar Wicipedia

Awdl gan Meirion MacIntyre Huws neu Mei Mac yw "Gwawr". Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelwedd 1993.[1][2]

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Cafodd Meirion MacIntyre Huws y syniad o ysgrifennu'r awdl hon tra roedd mewn tafarn yng Nghaernarfon yn mwynhau yng nghwmni ei ffrindiau. Gwêl obaith yn y ffaith ei fod ef a'i gyfoedion yn cymdeithasu'n naturiol drwy'r Gymraeg ac nad machlud y mae'r iaith Gymraeg a'i diwylliant ond gwawrio. Creu awyrgylch mae'r bardd ar ddechrau'r gerdd gan ddweud mai noddfa iddo ef pan fo'r tywydd yn arw neu pan fo pwysau bywyd yn mynd yn drech yw tafarn yr Albert yng Nghaernarfon: "Yn nwfn nos fy hafan yw / O'r brad fy harbwr ydyw."

Mis Ionawr yw hi, ond er ei bod hi'n oer a stormus y tu allan, yn yr Albert mae'n teimlo'n gynhesach fel petai hi'n wanwyn. Dywed fod y dafarn yn fath o fwthyn gwyliau iddo ble nad yw'r gwres yn darfod a ble mae arlwy, rhywbeth ar ei gyfer, bob amser—boed hynny'n fwyd neu'n adloniant. Mae'n nefoedd iddo:

A'r tŷ haf lle nad yw'r tes
Yn machlud – gwynfyd go iawn!
Arlwy, a'i bwrdd yn orlawn.

Criw ifanc sydd yn y dafarn. Ond nid gwres y tân na gwres y ddiod sy'n creu'r hwyl ond y mwynhad o fod allan gyda'r nos yng nghwmni ffrindiau:

Nid o'r grât y neidia'r gwres,
Nac o ynni du'r Guinness;
Ond fflamau yw ffrindiau ffraeth
Yn odli â'u cenhedlaeth.

Gall pawb ymlacio yma yn y dafarn, gallant ymddwyn yn gwbl naturiol. Does dim rhiant nac oedolyn yn cadw llygad arnynt a cheir teimlad o nefoedd yma. Mae awgrym o rywfaint o gamymddwyn diniwed yn y digwydd yma am fod y criw'n llawn bywyd: "Ninnau yn gampau i gyd / Yn Fehefin o fywyd." Mae band yn chwarae ar lwyfan y dafarn y noson honno, Anhrefn, grŵp roc Cymraeg a oedd yn boblogaidd iawn ddiwedd y 1980au a dechrau'r 1990au. O weld y prif leisydd Rhys Mwyn yn dod i'r llwyfan mae hwyl y dorf yn codi eto: "hyder llanc sy'n codi'r llu". Mae'r cryfder a'r coethder yn ei eiriau a'i las yn uno â bwrlwm y dafarn. Llwydda i ennyn brwdfrydedd a mwynhad yn y Cymry ifanc. Mae'n "gennad iaith" am ei fod yn canu caneuon poblogaidd yn y Gymraeg ac mae ei ddawn a'i ysbrydoliaeth yn ei wneud yn fardd:

Yn gyhyrog ei eiriau,
Llais ynghlwm â bwrlwm byw,
Dyfodol ar dwf ydyw:
Cennad iaith yn cynnau'i do
A bardd sydd heb ei urddo.

Mwynha'r dorf wrando ar y grŵp a'r canwr yn canu mewn ffordd gorfforol gref. Arferai Rhys Mwyn ganu heb ei grys neu mewn fest i ddangos ei chwys a'i gyhyrau a oedd yn amlwg yn dynn. Mae ei egni wrth ganu i'w weld yn y cyhyrau. Gall y criw uniaethu â'r gobaith yn y gân dros y Gymraeg a thros Gymru:

Galwad i'r gâd ymhob gair,
Heddiw ym mhob ansoddair.
Idiomau fel dyrnau'n dynn
A her ymhob cyhyryn.

Caiff y dorf eu hysbrydoli gan rythm y gerddoriaeth, eu breichiau'n chwifio wrth ddawnsio â'i gilydd, er efallai fod golwg ryfedd iawn arnynt yn dawnsio:

Er hwyl ymrown i rowlio'n
Breichiau fel melinau Môn,
Yna dawns, fel ebol dall
Yn dynwared un arall.

Nid gormod o alcohol sy'n gyfrifol am ymddygiad y criw o ffrindiau ar ddiwedd y noson (er bod hynny mae'n debyg yn rhannol gyfrifol), ond y gwmnïaeth gynnes sydd ar fai:

Nid yr êl o'r poteli
Yw nawdd ein doniolwch ni;
Daw'n cyffur o fragdy'r fron:
Alcoholiaid hwyl calon.

Yn yr englyn, mae'r bardd yn gresynu na allai'r noswaith hon barhau am byth drwy roi clo neu follt ar y presennol er mwyn byw'n wastraffus am byth. Nid yw eisiau dychwelyd i reidrwydd realiti bywyd yn y bore:

O na allwn droi'r allwedd – neu gau bollt
Rhag y byd a'i bwylledd,
A chael o hyd yn wych wledd,
Einioes o afradlonedd!

Gwêl y bardd ddyfodol Cymru yn y noson hon. Gwêl obaith yn yr iaith Gymraeg naturiol yn cael ei siarad drwy chwerthin y bobl ifanc. Er bod pobl yn credu fod tranc yr iaith gerllaw, gwêl mai byw yw'r defnydd ohoni ymysg y to ifanc yn yr Albert y noson hon: "A thrwy darth yr oriau du / Ein heniaith sy'n tywynnu." Yn y pennill olaf, sylweddola'r bardd mai yn haf ei dyddiau mae'r iaith Gymraeg er ei bod hi'n noson oer o Ionawr yng Nghaernarfon. Mae'r Gymraeg yn fyw ac yn fywiog yn y ffordd mae'r genhedlaeth ifanc yn cymdeithasu'n naturiol drwyddi. Mae'r bardd yn falch bod modd canu a rhegi yn y Gymraeg, sef y pethau bychain a gymerwn yn ganiataol bob dydd: "Yn Gymraeg mae'i morio hi, / Yn Gymraeg y mae rhegi."

Mesur a thechneg[golygu | golygu cod]

Mae awdl yn cynnwys mwy nag un o'r mesurau caeth, ac yn "Gwawr" ceir cywydd, gyda saith sillaf i bob llinell, ac englyn.

Yn y llinell "Yn Fehefin o fywyd," ceir enghraifft o "f" heb ei ateb, sy'n goddefiad posib i reolau cynghanedd gytsain. Erbyn 2020, roedd Mei Mac yn credu na ddylid defnyddio'r oddefiad yma a bod cynghanedd y llinell felly'n wallus.[3]

Arddull[golygu | golygu cod]

Mae'r awdl hon yn llawn geiriau sy'n ymwneud â goleuni a thywyllwch, gwres ac oerfel. Defnyddia'r bardd y tywyllwch a'r oerfel i gyfleu anobaith am ddyfodol Cymru a machlud yr iaith Gymraeg, er enghraifft "yn nwfn nos", "heth Ionawr", "gwyll", "a thrwy darth yr oriau du". Ond defnyddia eiriau sy'n ymwneud â goleuni a thân i geisio cyfleu i ni mai byw yw'r iaith Gymraeg a bod ei dyfodol yn wresog, er enghraifft "lle nad yw'r tes yn machlud", "gwres", "fflamau", "ym mloedd wresog", "cynnau", "coelcerth", "hafau'r hin", "yn wlad o oleuadau", "tywynnu". Mae'r un peth yn wir am sŵn a thermau ieithyddol:

Un sgrech dros ein gwlad fechan,
Un iaith, un gobaith yw'r gân:
Galwad i'r gad ym mhob gair,
Heddiw ym mhob ansoddair.
Idiomau fel dyrnau'n dynn
A her ymhob cyhyryn.

Defnyddir nifer o eiriau sy'n cyfleu sŵn yn y gerdd i ddangos bywiogrwydd yr iaith Gymraeg, nid yn unig ymysg y bobl ifanc sy'n ei siarad, ond hefyd wrth wrando ar dechneg Rhys Mwyn yn canu o'r llwyfan, er enghraifft "taranu", "bloedd", "sgrech", "cân", "galwad"". Gwelir y delweddu hyn eto wrth i'r bardd bwysleisio mai pobl ifanc sydd yn y criw yn y dafarn. Gwna hyn drwy gyfeirio at fis a thymor sy'n gysylltiedig ag ieuenctid bywyd: "Yn Fehefin o fywyd / A'n gwenau fel hafau'r hin."

Yn ogystal â'r delweddu, symbolaeth amlwg sydd yn y gerdd ar ffurf llais a chorff Rhys Mwyn: "I nodau'r band, â'r bywhau / Yn wyneb i'n calonnau". Mae'r canwr yn ymgnawdoliad o'r hyn mae'r ieuenctid yn y dafarn yn ei deimlo am Gymru. Mae'n symbol o Gymreictod ar ddiwedd y 1980au a dechrau'r 1990au yng Nghymru. Yn y Gymraeg roedd y mwyafrif helaeth o ganeuon y grŵp Anhrefn, a chanai Rhys Mwyn bob amser yn hyderus ac yn ddiffuant yn ei berfformiadau. Mae bywiogrwydd Rhys Mwyn yn adlewyrchiad o gariad a brwdfrydedd y criw tuag at y diwylliant Cymraeg. Defnyddir personoli at y diben hwn yn y disgrifiad o Rhys Mwyn "yn gyhyrog ei eiriau", ymgorfforiad o'r canwr ei hun heb ei grys neu mewn fest a'i egni wrth ganu i'w weld yn y cyhyrau yn ogystal â'i iaith gyhyrog.

Mae sŵn y gynghanedd yn ychwanegu at naws ac awyrgylch bwrlwm y bobl ifanc. Ceir cynghanedd lusg ("Yma'n goelcerth o chwerthin", "un sgrech dros ein gwlad fechan"), croes ("alcoholiaid hwyl calon"), traws ("a her ymhob cyhyryn"), a sain ("ond fflamau yw ffrindiau ffraeth", "un iaith, un gobaith yw'r gân", "galwad i'r gad ymhob gair", "idiomau fel dyrnau'n dynn").

Ymddengys nifer o drosiadau yn y gerdd. Trosa'r bardd y fainc yn y dafarn yn "ynys" gan ei bod yn rhywle i ddianc. Mae'n cyfleu man o ddiogelwch a noddfa rhag yr oerfel tu allan ac yn rhywle i gael heddwch.Mewn ffordd mae'n trosi ei hun yn gwch ("fy harbwr") sy'n chwilio am rywle diogel i angori hyd nes y bydd y tywydd gwael wedi mynd heibio, neu efallai hyd nes y bydd Seisnigrwydd wedi diflannu. Pentyrra'r bardd drosiadau i ddisgrifio tafarn yr Albert. Dywed ei fod yn "dŷ haf", ond un gwahanol i'r tai haf arferol yr oedd cymaint o wrthwynebiad iddynt yng Nghymru yn y 1980au. Yma nid yw'r croeso'n oeri na'r diddanwch yn diflannu—mae'n nefoedd ("gwynfyd go iawn!"). Eto, wrth ddisgrifio Rhys Mwyn yn canu, mae'r bardd yn pentyrru trosiadau er mwyn profi ei fod yn arwydd o ddyfodol yr iaith a'i bywiogrwydd ym mywyd yr ifanc. Mae'n "gennad" i'r iaith Gymraeg a chred Meirion MacIntyre Huws fod geiriau caneuon Anhrefn yn farddoniaeth yn ei hunain ac felly y gellid galw Rhys Mwyn yn fardd, ond un nas cydnabyddir ("bardd sydd heb ei urddo").

Mae'r gerdd yn cynnwys sawl cymhariaeth. Yn y llinell "Rowlio'n breichiau fel melinau Môn", cyfeiriad sydd at y criw ifanc yn dawnsio ac yn chwifio'u breichiau fel tyrbinau gwynt. Mae'r gymhariaeth "dawns, fel ebol dall / Yn dynwared un arall" yn ychwanegu hiwmor at y darlun ac yn cyfleu bwrlwm ac asbri'r bobl ifanc yn symud i'r gerddoriaeth. Defnyddir "Idiomau fel dyrnau'n dynn" er mwyn dangos ysbryd y dorf a dylanwad y gân. Mae'r bardd yn annog y dorf i ddefnyddio'r iaith fel arf a gwneud ansoddeiriau a phriod-ddulliau'r Gymraeg yn gryfder ac yn her yn ein bywyd.

Mewn un o linellau enwoca'r gerdd ceir gwrthgyferbynnu, neu baradocs: "Anhrefn yw'r drefn". Chwarae ar eiriau a geir yma mewn gwirionedd. O ddarllen y llinell i ddechrau rydym yn meddwl mai di-drefn yw hi yn yr Albert, mai dyna yw'r drefn arferol. Ond o ddeall mai enw'r grŵp yw Anhrefn, gwelwn ei bod hi'n arferol cael y grŵp i berfformio yn y dafarn.

Neges y gerdd ac agwedd y bardd[golygu | golygu cod]

Neges y gerdd o bosib yw mai trwy siarad Cymraeg bob dydd, ac mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, a'i defnyddio i regi, caru a chanu y mae sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg. Nid iaith i'w thynnu o'r cwpwrdd ar achlysuron arbennig yw'r Gymraeg ond iaith gyhyrog, hardd sydd â'r potensial i wneud popeth drwy ei chyfrwng. Yma mae yna bwyslais mai ymhlith y to iau y ceir bwrlwm yr iaith ac mai nhw yw ein "gwawr" a nhw fydd yn sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg. Mae'n gerdd bositif iawn ac yn optimistaidd am ddyfodol yr iaith.

Dylanwad[golygu | golygu cod]

Dyfynnir y llinell "Yn Gymraeg mae'i morio hi" yn aml, weithiau heb ail hanner y cwpled - megis ar wefan prosiect Gwlad y Chwedlau[4]. Gosododd Gwenan Gibbard a Mei Gwynedd detholiad o'r awdl ar gerdd dant.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyfansoddiadau a beirniadaethau. J. Elwyn Hughes. Llandybie: Gwasg Dinefwr dros Lys yr Eisteddfod Genedlaethol. 1993. ISBN 0-9519926-1-9. OCLC 29222725.CS1 maint: others (link)
  2. Huws, Meirion MacIntyre (1996). Y llong wen : a cherddi eraill (arg. Arg. 1). Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 0-86381-405-0. OCLC 41176367.
  3. Y gynghanedd heddiw. Aneirin Karadog, Eurig Salisbury (arg. Argraffiad cyntaf). [Wales]. 2020. t. 136. ISBN 978-1-911584-39-1. OCLC 1222780994. Brys, a'r esgeulustod sy'n ei ddilyn, sydd hefyd yn gyrru bardd ifanc a'i lygaid ar y Gadair Genedlaethol i lunio llinell fel 'Yn Fehefin o fywyd'.[...] Cytsain yw 'f', a dylid ei chyfateb. Does dim lle i ddadlau. Yn yr un modd, dylid ymdrechu i gyfateb pob 'h' a phob 'w' hefyd. [...] Bellach does gen i ddim ffordd yn y byd o amddiffyn 'Yn Fehefin o fywyd', gyda 'h' ac 'f' heb eu cyfateb.CS1 maint: others (link)
  4. "Land of Legends (cy-GB)". www.gwladychwedlau.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-03-27. Cyrchwyd 2023-03-26.
  5. (yn en) Gwawr, https://soundcloud.com/gwenan-mair-gibbard/gwawr-1, adalwyd 2023-03-26