Gwatemala

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gwatemaliaid)
Gwatemala
República de Guatemala
ArwyddairTyfwch yn Rhydd a Ffrwythlon Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gweriniaeth, gwlad Edit this on Wikidata
PrifddinasDinas Gwatemala Edit this on Wikidata
Poblogaeth17,263,239 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1821 Edit this on Wikidata
AnthemNational Anthem of Guatemala Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethBernardo Arévalo de León Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−06:00, America/Guatemala Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Sbaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAmerica Ladin, America Ganol, Canolbarth America, America Sbaenig Edit this on Wikidata
Arwynebedd108,889 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Cefnfor Tawel, Môr y Caribî, Gulf of Honduras Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBelîs, El Salfador, Hondwras, Mecsico Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau15.5°N 90.25°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCyngor y Gweinidogion Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynghrair Gwatemala Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Gwatemala Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethBernardo Arévalo de León Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd Gwatemala Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethBernardo Arévalo de León Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$86,053 million, $95,003 million Edit this on Wikidata
ArianQuetzal Gwatemala Edit this on Wikidata
Canran y diwaith3 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant3.211 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.627 Edit this on Wikidata

Gwlad yng Nghanolbarth America yw Gwatemala neu'n swyddogol: Gweriniaeth Gwatamala neu República de Guatemala) (/ɣwate'mala/). Fe'i lleolir rhwng Mecsico (i'r gogledd-orllewin), y Cefnfor Tawel (i'r de-orllewin), Belîs a'r Caribi i'r gogledd-ddwyrain, a Hondwras ac El Salfador i'r de-ddwyrain. Gyda phoblogaeth o dros 16 miliwn o bobl, mae'n un o wledydd mwyaf Canolbarth Aberica. Y Brifddinas yw Dinas Gwatemala, neu yn Sbaeneg: Nueva Guatemala de la Asunción.

Hanes[golygu | golygu cod]

Diwylliant Mayan[golygu | golygu cod]

Don Pedro de Alvarado, gorchfygwr Gwatemala

Bu'r Maya yma am dros 1,000 o flynyddoedd, gyda'u tiriogaeth yn ymestyn dros Mesoamerica. Prif nodweddion y diwylliant Mayan oedd seryddiaeth, mathemateg a phensaernïaeth. Yn 16g, gorchfygwyd y trigolion gan Ymerodraeth Sbaen.

Daeth y wlad yn annibynnol oddi wrth Sbaen ar 15 Medi, 1821, ond cafwyd cyfnodau cythryblus yn dilyn hynny, gyda sawl unben yn ceisio rheoli'r wlad, o dan oruchwyliaeth y United Fruit Company (a Llywodraeth yr UDA), fel un o'u banana republics.

Gwrthdaro arfog[golygu | golygu cod]

Yn 1944 cafwyd coup gan y fyddin, a dygwyd yr awennau o ddwylo'r unben Jorge Ubico; eu nod oedd democratiaeth ond parhaodd y rhyfel cartref am dros ddegawd. Yn 1954, daeth i ben pan gosodwyd unben a gefnogwyd gan UDA yn arweinydd y wlad. Ymfudodd llawer o'r teuluoedd brodorol i Fecsico a'r Unol Daleithiau.[1]

Y presennol[golygu | golygu cod]

Yn 2015, cafwyd llawer o wrthdystio sifil yn erbyn llywodraeth Otto Perez Molina.

Y boblogaeth[golygu | golygu cod]

Mae 45% o'r boblogaeth yn Mestizos a'r rhan fwyaf o'r gweddill yn cynnwys disgynyddion Ewropeaidd: Sbaeneg, Almaeneg, Ffrangeg, Sgandinafia ac eraill. Llythrennedd: 75%. Tlodi: 55%. Boblogaeth drefol: 46%. Poblogaeth Benyw: 56%.

Crefydd:

  • Catholig: 59%
  • Protestannaidd (Lutheraidd, Anglicanaidd, Pentecostaidd, ac ati): 40%
  • credoau Mayan: 1%

Economi[golygu | golygu cod]

Coffi, cardamom, bananas, siwgr a tacabo yw'r prif gynnyrch allforio. Gyda GDP o dros 6,000 o ddoleri.

Diwylliant[golygu | golygu cod]

  • llenyddiaeth: Miguel Angel Asturias.
Trigolion San Pedro la Laguna yn dathlu
Cenhedlu'r Forwyn Fair.

Dinas Gwatemala[golygu | golygu cod]

Sbaeneg: La Nueva Guatemala de la Asunción. Mae'n brifddinas fwyaf poblog a modern yng nghanolbarth America, gyda tua 2.5 miliwn o drigolion. Yn 1976, dioddefodd y ddinas ddaeargryn a'i dinistriodd bron yn gyfan gwbl. Fe'i sefydlwyd yn 1776, Santiago de los Caballeros (Antigua Guatemala) oedd y brifddinas hynafol a gafodd ei dinistrio yn y ddaeargryn yn 1973.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Blakeley, Ruth (2009). State Terrorism and Neoliberalism: The North in the South. Routledge. t. 92. ISBN 0415686172.CS1 maint: ref=harv (link)

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gwatemala. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato