Gwarchodfa Natur Fiddler's Elbow
| Math | gwrthrych daearyddol, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Gwarchodfa Natur Genedlaethol |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Sir Fynwy |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 44.75 ha |
| Cyfesurynnau | 51.822°N 2.686°W, 51.821724°N 2.688227°W |
| Cod OS | SO526139 |
| Rheolir gan | Coed Cadw |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
| Manylion | |
Gwarchodfa goediog, serth yw Fiddler's Elbow (neu Fiddlers Elbow) i’r gogledd-ddwyrain o dref farchnad Trefynwy, yn agos at y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae’r warchodfa’n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Fiddler's Elbow ac Ardal Cadwraeth Arbennig Coetiroedd Dyffryn Gwy.
Y Cyfeirnod Grid ydy SO526139 ac mae'r arwynebedd y safle yn 44.93 hectar.
Mae'r safle'n enghraifft dda o goetir llydanddail lled-naturiol. Derw a phisgwydd sydd amlycaf yn y canopi coed ac mae tyfiant da o goed ifanc a blodau ar lawr y goedwig. Mae yma Glychau glas, Marddanadl melyn a Briallu.
Mae coed marw, boed yn dalsyth neu’n pydru ar lawr y goedwig, yn cynnig cynefinoedd allweddol i greaduriaid di-asgwrn cefn, i ffwng a rhywogaethau eraill yn y coed.
Mae pathewod i’w gweld yn y coed; dydyn nhw ddim yn hoff o ddod i lawr i’r ddaear ac mae angen cysgod llawer o blanhigion arnyn nhw er mwyn iddyn nhw symud o amgylch yn rhwydd. Maent yn bwydo ar amrywiaeth o goed a llwyni, megis: Cyll, Mwyar, Derw a Gwyddfid.
Bydd iyrchod i’w gweld yn gyson yng nghoedydd Fiddler's Elbow. Fodd bynnag, mae’r rhain yn achosi problemau i’r rheolwyr; os byddan nhw’n pori gormod ar y coed ifanc, fydd y coedwigoedd ddim yn cael eu hadnewyddu. O ganlyniad, mae rhannau o’r coedydd wedi eu ffensio i atal yr anifeiliaid.
