Gwalchwyfyn pum smotyn
Manduca quinquemaculatus | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Sphingidae |
Genws: | Manduca |
Rhywogaeth: | M. quinquemaculata |
Enw deuenwol | |
Manduca quinquemaculata (Haworth, 1803)[1] | |
Cyfystyron | |
|
Gwyfyn sy'n perthyn i deulu'r Sphingidae yn urdd y Lepidoptera yw gwalchwyfyn pum smotyn, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwalchwyfynod pum smotyn; yr enw Saesneg yw Five-spotted Hawk-moth, a'r enw gwyddonol yw Manduca quinquemaculatus.[2][3] Caiff ei adnabod yn Saesneg yn aml fel tomato hornworm, gan ei fod yn llarpio dail y planhigyn tomato ac yn cael ei ystyried yn bla. Weithiau mae'n cael ei gamadnabod fel y Manduca sexta (neu'r tobacco hornworm) sy'n difa planhigion tobaco ac yn perthyn yn agos i'r walchwyfyn pum smotyn. Yn wir, mae'r ddau rywogaeth i'w gweld ar y naill blanhigyn neu'r llall, felly ni dylid edrych ar eu lliwiau yn hytrach na'r planhigyn wrth geisio eu hadnabod e.e. mae gan siani flewog y gwalchwyfyn pum smotyn wyth marc siap "V" yn hytrach na saith ar ei ochr; mae nifer y sbotiau ar adenydd yr oedolyn hefyd yn ddull hawdd o wahaniaethu: dim ond pum smotyn sydd gan y quinquemaculata fel yr awgryma ei enw.[4]
Cynefin
[golygu | golygu cod]Mae'r M. quinquemaculata i'w ganfod ar hyd a lled Unol Daleithiau America a thrwy ogledd-orllewin Mecsico ac yn ne Canada.
Cyffredinol
[golygu | golygu cod]Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r gwalchwyfyn pum smotyn yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Galeri
[golygu | golygu cod]-
Siani flewog
-
Manduca quinquemaculata: y fenyw
-
Manduca quinquemaculata: y gwryw
-
Manduca quinquemaculata: yr amrywiaethau
-
Manduca quinquemaculata byw
-
Wedi'i godi o blanhigyn tomato
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "CATE Creating a Taxonomic eScience - Sphingidae". Cate-sphingidae.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-03. Cyrchwyd 2011-11-01.
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ Villanueva, Raul (1998). "Tobacco Hornworm". Cyrchwyd 2006-10-21. Unknown parameter
|month=
ignored (help)