Gruffydd ap Rhys ap Thomas

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gruffydd ap Rhys ap Thomas
Ganwyd 1478 Edit this on Wikidata
Bu farw 1521 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Tad Rhys ap Thomas Edit this on Wikidata
Plant Rhys ap Gruffudd Edit this on Wikidata
Cofeb Gruffydd yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon.

Uchelwr cyfoethog a phwerus oedd Syr Gruffydd ap Rhys (c. 1478–1521) neu Gruffydd ap Rhys ap Thomas ac a adnabyddir fel Griffith Ryce mewn llawysgrifau Saesneg. Roedd yn fab i Syr Rhys ap Thomas, rheolwr de facto De Cymru a fu mor allweddol i lwyddiant Harri Tudur ym Mrwydr Maes Bosworth yn 1485 ac Efa ap Henry.[1]. Roedd yn dad i Rys ap Gruffudd ond ni throsglwyddwyd ei diroedd, ei deitlau na'i gyoeth i'w fab, gan i Harri VIII, brenin Lloegr eu meddianu a'i ddienyddio am frad.

Magwraeth frenhinol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cefnogwyd brenin Lloegr gan nifer fawr o uchelwyr Cymru, yn bennaf gan iddynt dderbyn eu tiroedd a'u harian am wrthwynebu Owain Glyn Dŵr. Roedd eu teyrnagrwch i'r brenin yn gyfystyr a theyrngarwch i'r Lancastriaid a Lancastriad oedd Siasbar a Harri Tudur.

Yn 1483 mynnodd Richard III, brenin Lloegr Gruffydd yn wystlys, er mwyn cadw'i dad Rhys ap Thomas yn driw iddo. Mynnodd hefyd fod Rhys yn tyngu llw o ffyddlondeb iddo a gwnaeth hynny i dawelu'r dyfroedd, ond gwrthododd ddanfon ei fab pedair oed ato fel gwystl.[2]

Wedi llwyddiant Harri Tudur a'i dad Rhys ap Thomas ym Maes Bosworth, magwyd Gruffudd a mab hynaf Harri, sef Arthur Tudur gyda'i gilydd am rai blynyddoedd. Dywedwyd ar y pryd eu bod yn ffrindiau da ac yn 1501 gwnaed Gruffydd yn Farchog y Gardas Aur. Roedd gydag Arthur pan ddychwelodd o Lwydlo gyda'i briodferch yn Rhagfyr 1501. Roedd hefyd yn bresennol pan fu farw Arthur yn Ebrill 1502 ac roedd Gruffudd yn un o'r prif alarwyr. Teithiodd gyda chorff y tywysog o Lwydlo i Gaerwrangon gan gario'i faner.

Arfau'r teulu Rhys

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Catherine St John, perthynas i Margaret Beaufort tua 1507. Ar farwolaeth Harri VII, bu'r brenin newydd yn driw i'r teulu ac aeth Gruffydd gydag ef i gyfarfod a elwir yn Maes y Llian Aur (Field of the Cloth of Gold) yn Ffrainc yn 1520.

Marw'n ifanc[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw'n ifanc - tua 43 oed, a hynny cyn ei dad. Ond gadawodd fab ac etifedd - Rhys ap Gruffydd a ddienyddiwyd ar gam gan Harri VIII, fwy na thebyg gan fod Harri'n brin o bres.

Saif ei feddrod hyd heddiw yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Ralph A. Griffiths, Sir Rhys ap Thomas and his family (University of Wales Press, 1993), p. 39 et. seq..
  2. Chrimes, S B Henry VII, tud. 43