Neidio i'r cynnwys

Grigori Rasputin

Oddi ar Wicipedia
Grigori Rasputin
Ganwyd9 Ionawr 1869 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Pokrovskoye, Tyumen Oblast Edit this on Wikidata
Bu farw16 Rhagfyr 1916 Edit this on Wikidata
St Petersburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfrinydd, ocwltydd, gwleidydd, gwerinwr, mynach Edit this on Wikidata
PriodPraskovia Fyodorovna Dubrovina Edit this on Wikidata
PlantMaria Rasputin Edit this on Wikidata

Gwerinwr a chyfrinydd Rwsiaidd oedd Grigory Yefimovich Rasputin (enw gwreiddiol: Grigory Yefimovich Novykh; 21 Ionawr (9 Ionawr yn yr Hen Ddull) 1869[1]30 Rhagfyr (17 Rhagfyr yn yr Hen Ddull) 1916).[2]

Cafodd ei eni yn Pokrovskoye, ger Tyumen, Siberia, yn Ymerodraeth Rwsia. Er iddo fynychu'r ysgol, roedd yn anllythrennog ac enillodd yr enw Rasputin (Rwseg am "anlladwr"). Trodd yn grefyddol yn 18 oed ac aeth i fynachlog Verkhoture a daeth yn gyfarwydd ag enwad y Khlysty (y Fflangellwyr). Datblygodd Rasputin ei athrawiaeth o "ddideimladrwydd sanctaidd", gan honni fod dyn yn agosach at Dduw drwy gyrraedd blinder rhywiol. Teithiodd Rasputin i Fynydd Athos yng Ngwlad Groeg, i Jeriwsalem, ac ym 1903 i St. Petersburg ac yna cafodd ei groesawu gan Theophan, arolygydd Academi St. Petersburg, a Hermogen, Esgob Saratov.[2]

Ym 1908 cafodd Rasputin ei alw i'r palas brenhinol pan oedd Aleksey Nikolayevich, mab hemoffilig y Tsar Niclas II a'i wraig Alexandra, yn gwaedu. Llwyddodd Rasputin i wella poen Aleksey, yn debyg o ganlyniad i hypnotiaeth. Datganodd Rasputin i'r teulu brenhinol roedd tynged y plentyn yn ddibynnol arno fe. Daeth Rasputin yn ffefryn y Tsar a'i wraig ac yn ddylanwadol mewn materion gwleidyddol Rwsia. Bu chwantusrwydd Rasputin a'i nifer o garwyr yn achosi sgandal, ond cafodd ei amddiffyn gan Niclas ac Alexandra. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1915, aeth Niclas i'r Ffrynt Dwyreiniol gan adael Rasputin yn gynghorydd personol i'w wraig. Dylanwadodd Rasputin ar benodiadau eglwysig a gwleidyddol, ac ymyrrodd mewn materion milwrol.[2]

Bu nifer o ymgeisiau i ladd Rasputin. Ym 1916, cynllwynodd criw o geidwadwyr eithafol – yn eu plith y Tywysog Feliks Yusupov (oedd yn ŵr i nith y tsar), Vladimir Mitrofanovich Purishkevich (aelod o'r Duma), a'r Archddug Dmitry Pavlovich (cefnder y tsar) – i lofruddio Rasputin er mwyn achub y frenhiniaeth rhag rhagor o sgandal. Ar nos 29–30 Rhagfyr 1916 cafodd Rasputin ei wahodd i gartref Yusupov yn Petrograd (enw newydd St. Petersburg). Cafodd ei fwydo cacenni te a gwin gwenwynig, a'i saethu gan Yusupov. Rhedodd Rasputin allan o'r tŷ i'r iard, a chafodd ei saethu eto gan Purishkevich. Yna cafodd ei rwymo a'i daflu i'r Afon Neva, a bu farw trwy foddi.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Alexandra Zaitseva (27 Rhagfyr 2012). Demystifying the life of Grigory Rasputin. Russia Beyond the Headlines. Adalwyd ar 17 Medi 2014.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Grigory Yefimovich Rasputin. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Medi 2014.