Tyumen
![]() | |
![]() | |
Math |
tref/dinas, endid tiriogaethol gwleidyddol, dinas fawr ![]() |
---|---|
![]() | |
Poblogaeth |
744,554 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Ruslan Nikolaevich Kukharuk ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+05:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Rwseg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Tyumen Urban Okrug ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
698.48 km² ![]() |
Uwch y môr |
102 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
57.15°N 65.53°E ![]() |
Cod post |
625000 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Ruslan Nikolaevich Kukharuk ![]() |
![]() | |
Dinas yn Siberia, Rwsia, yw Tyumen (Rwseg: Тюмень; IPA: [tʲʉˈmʲenʲ]) sy'n ddinas fwyaf a chanolfan weinyddol Oblast Tyumen, Dosbarth Ffederal Ural, ac a leolir ar lan Afon Tura 2,500 cilometer (1,600 milltir) i'r dwyrain o Foscfa. Yn ôl cyfrifiad Rwsia 2010 mae 581,907 o bobl yn byw yn y ddinas.[1]
Tyumen oedd yr aneddiad Rwsiaidd cyntaf yn Siberia. Fe'i sefydlwyd yn 1586 fel canolfan i hyrwyddo ymlediad Rwsia i'r dwyrain ac mae'n aros yn un o'r canolfannau diwydiannol ac economaidd pwysicaf i'r dwyrain o Fynyddoedd yr Wral. Saif ar groesffordd sawl llwybr masnach mawr gyda mynediad i afonydd gall llongau eu defnyddio, ffaith a arweiniodd at dwf cyflym Tyumen o aneddiad milwrol bychan i fod yn ddinas fasnachol fawr. Yng nghanol Hen Tyumen ceir sawl adeilad hanesyddol sy'n adlewyrchu hanes hir y ddinas.
Heddiw mae Tyumen yn ganolfan busnes o bwys. Tyumen yw canolfan cludiant a diwydiant Oblast Tyumen, ardal gyfoethog mewn adnoddau naturiol ac sy'n ymestyn o'r ffin rhwng Rwsia a Casacstan i Gefnfor yr Arctig.