Gramadeg y Llydaweg

Oddi ar Wicipedia

Iaith Geltaidd yn nheulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd yw'r Llydaweg. Mae'n tarddu o'r Frythoneg fel ei chwaer-ieithoedd, Cernyweg a'r Gymraeg, ac mae ei gramadeg yn debyg i ramadeg yr ieithoedd hyn. Fel y rhan fwyaf o iethoedd Indo-Ewropeaidd, mae ganddi genedl enw, rhif gramadegol, banodau a ffurfdroadau. Yn debyg i'r ieithoedd Celtaidd eraill, mae ganddi enwau gwrywaidd a benywiadd, ffurfiau amhersonol y ferf, treigladau, system o rifau ugeiniol ac arddodiaid sydd yn cael eu rhedeg; ac fel yr ieithoedd Brythonaidd, mae ganddi rif torfol–unigolynnol. Yn wahanol i'r ieithoedd Celtaidd eraill, defnyddia'r Llydaweg fanodau amhenodol ac mae'r Ffrangeg wedi dyladwadu ar yr iaith.

Enwau[golygu | golygu cod]

Cenedl[golygu | golygu cod]

Fel yn y Gymraeg a llawer o ieithoedd Ewropeaidd eraill, mae gan Lydaweg genedl enw: gwrywaidd (gourel) a benywaidd (gwregel). Mae'r genedl ddi-ryw (nepreizh), a oedd yn bodoli yn y Frythoneg, yn goroesi mewn ychydig o eiriau, megis tra "peth", sydd yn cael ei dreiglo ac yn sbarduno treiglo yn union fel enw benywaidd ond ym mhob ffordd arall yn ymddwyn fel enw gwrywaidd.[1]

Nid oes modd darogan cenedl enw yn Llydaweg a gall y genedl newid fesul tafodiaith. Serch hynny, mae grwpiau semantig o eiriau yn tueddu i berthyn i genedl benodol. Er enghraifft, benywaidd yw enwau gwledydd a dinasoedd, fel yn y Gymraeg, tra bo rhaniadau amser yn wrywaidd. Mae rhai ôl-ddodiad yn perthyn i genedl benodol hefyd:[2]

  • Ôl-ddodiaid gwrywaidd: -ach , -adur , -aj , -er , -lec'h , -our , -ti , -va
  • Ôl-ddodiaid benywaidd: -eg , -ell , -enn (gweler "unigolynnol" isod), -enti , -er , -ez , -ezh , -ezon , -i .

Rhif[golygu | golygu cod]

Gall enwau fodoli mewn hyd at bedwar rif: torfol / unigolynnol (gweler isod) neu unigol / lluosog. Llunnir y rhan fwyaf o luosogion drwy ôl-ddodi -ed ar enwau byw ac -(i)où ar enwau anfyw, er enghraifft, Breton ‘Llydäwr’ i Bretoned ‘Llydaw-wyr’, levr ‘llyfr’ i levroù ‘llyfrau’, ond mae rhai enwau sy'n cyfeirio at bobl yn cymryd -où, megis test ‘tyst’ i testoù ‘tystion’. Ceir ôl-ddodiaid lluosog eraill, e.e. Saoz ‘Sais’ i Saozaon ‘Saeson’, ti ‘tŷ’ i tiez ‘tai’. Mae ychydig o luosogion wedi eu creu drwy affeithiad fel yn y Gymraeg, fel kastell ‘castell’ i kestell ‘cestyll’, maen ‘carreg’ i mein ‘cerrig’, drwy affeithio ac ôl-ddodi'r llafariaid, fel bran ‘brân’ i brini ‘brain’, gad ‘ysgyfarnog’ i gedon ‘ysgyfarnogod’ a cheir ffurfiau afreolaidd hefyd, fel den ‘dyn’ i tud ‘pobl’, ki ‘ci’ i naill ai kon neu chas ‘cŵn’.[1][2][3]

Yn ogystal â'r lluosogion arferol, dengys rhai rhannau'r corff olion y rhif deuol sy'n rhagddodi daou- ‘deu-’ neu di(v)- ‘dwy-’ i enw. Er enghraifft, ceir lagad ‘llygad’ sydd â ffurf luosog, sef lagadoù ‘llygaid’ ond hefyd ffurf ddeuol, sef daoulagad ‘y ddau lygad, pâr o lygaid’. Gall fod ffurf luosog ychwanegol ar ffurf ddeuol wedyn, e.e. daoulagadoù ‘parau o lygaid’.[2]

Unigolyn[golygu | golygu cod]

Nodwedd unigryw ac anghyffredin yn yr ieithoedd Brythonig yw'r ffurf unigolynnol a ffurfir yn Llydaweg gan yr ôl-ddodiad -enn ‘-yn, -en’. Fel yn y Gymraeg, tra bo'r enw torfol gwez ‘coed, prennau, gwŷdd’, h.y. yn dynodi grŵp neu gasgliad, mae'r ffurf unigolynnol gwezenn yn golygu ‘coeden, pren, gwydden’. Yn wahanol i'r Gymraeg, gellir hyd yn oed creu lluosog rhifadwy o'r unigolyn (gwezenn), sef gwezennoù, i olygu ‘nifer o goed, prennau’.

Bachigyn[golygu | golygu cod]

Mae'r Llydaweg yn ffurfio bachigion drwy gymorth yr ôl-ddodiad -ig ac ffurfir eu lluosogion drwy ddyddyblu'r ôl-ddodiad -où, e.e. prad ‘dôl’ > pradig ‘dôl fach’ > pradouig ‘dolydd bach’ (gwrthgyferbynier y lluosog anfachigol pradoù ‘dolydd’).[1][2]

Banodau[golygu | golygu cod]

Yn Llydaweg, ceir banodau pendodol ac amhenodol. Mae hyn yn wahanol i'r ieithoedd Celtaidd eraill sydd heb fanodau amhenodol. An yw ffurf y fannod benodol o flaen cytseiniaid deintiol, llafariaid ac h dawel, er enghraifft an tan "y tân", al yw hi o flaen l, er enghraifft al logodenn "y llygoden" ac ar yw hi ym mhob achos arall, er enghraifft ar gador "y gadair". Mae'r fannod amhenodol, sydd yn deillio o'r rhifolyn un "un", yn dilyn yr un patrwm a'r fannod benodol o ran cytseiniaid olaf, er enghraifft, un tan "tân", ul logodenn "llygoden", ur gador "cadair".[2]

Gellir cywasgu'r fannod benodol ar ôl rhai arddodiaid, er enghraifft, e "yn" + an i en "yn y".

Ansoddeiriau[golygu | golygu cod]

Gellir cymharu ansoddeiriau yn y radd gymharol ag -oc'h ‘-ach’ a'r radd eithaf ag -añ ‘-af’. Fel yn y Gymraeg, mae'r ôl-ddodiaid hyn yn peri treiglad caled i gytsain flaenorol ansoddair.[4] Enghreifftiau o ansoddeiriau afreolaidd yw mat ‘da’ a drouk ‘drwg’ yn y tabl isod.[3]

cysefin cymharol eithaf
bras ‘mawr’ brasoc'h ‘mwy’ brasañ ‘mwyaf’
gleb ‘gwlyb’ glepoc'h ‘gwlypach’ glepañ ‘gwlypaf’
ruz ‘coch’ rusoc'h ‘cochach’ rusañ ‘cochaf’
mat ‘da’ gwell(oc'h) ‘gwell’ gwellañ ‘gorau’
drouk ‘drwg’ droukoc'h, gwashoc'h ‘gwaeth’ droukañ, gwashañ ‘gwaethaf’

Yn ogystal â'r ffurfiau uchod, mae gan rai ansoddeiriau ffurfiau yn y radd gyfartal, er enghraifft, kement ‘cymaint’, koulz ‘cystal’, ken gwazh ‘cynddrwg’. Crëir ffurfiau cyfartal mwy rheolaidd â ken ‘cyn … -ed, mor … â’, e.e. ken gleb ‘cyn wlyped’, ken drouk ‘cynddrwg’.[2] Mae gan y Llydaweg radd ebychiadol ag -at hefyd, e.e., brasat ‘dyna fawr!’, glepat ‘mor gwlyb!’, gwellat ‘dyna dda!’, ond mae hon yn anarferedig ac eithrio mewn rhai ymadroddion er hynny.

Mae gan ansoddeiriau ffurfiau bachigol ag -ik ‘-ig’ hefyd, e.e., bihanik ‘bychan bach’ o bihan ‘bach’ a brazik o bras ‘mawr’.[1]

Adferfau[golygu | golygu cod]

Nid yw adferfau yn ffurfdroi yn Llydaweg. Gellir llunio adferfau o ansoddeiriau drwy ddefnyddio ez' , er enghraifft, ez' leal "yn deyrngar" o leal "teryngar".

Arddodiaid[golygu | golygu cod]

Yn union fel mewn ieithoedd Celtaidd eraill, arddodiaid syml a chyfansawdd sydd gan y Llydaweg, a gall eu ffurfdroadau ddangos y person, y rhif a'r genedl. [2] Yn hanesyddol, mae arddodiaid rhediadol sy'n deillio o gywasgiad o arddodiad a rhagenw personol.

Yn gyffredinol, gellir rhannu ffurfdroadau arddodiaid syml yn ddau grŵp yn ôl eu hôl-ddodiaid. Gall bôn y trydydd person fod ychydig yn wahanol i fôn y personau eraill megis yn Gymraeg.[2] Dengys yr arddodiaid hyn genedl yn y trydydd person unigol. Yn wahanol i arddodiaid tebyg yn Gymraeg, nid yw'r ffurfdroadau hyn yn cael eu defnyddio â rhagenw dilynol ac mae gan arddodiaid Llydaweg ffurfiau amhersonol hefyd.

ag i ag o
cysefin gant ‘gyda, efo’ war ‘ar’
1 un. ganin ‘gyda fi’ warnon ‘arnaf’
2 un. ganit ‘gyda ti’ warnout ‘arnat’
3 un. gwryaidd gantañ ‘gydag ef’ warnañ ‘arno’
3 un. benywaidd ganti ‘gyda hi’ warni ‘arni’
1 ll. ganimp ‘gyda ni’ warnomp ‘arnom’
2 ll. ganeoc'h ‘gyda chi’ warnoc'h ‘arnoch’
3 ll. ganto, gante ‘gyda nhw’ warno ‘arnynt’
amhersonol ganeor ‘gydag un/rhywun’ warnor ‘am un/rywun’

Nid yw rhai arddodiaid syml yn rhedeg, megis eus a deus ‘o’, kent ‘cyn’ a goude ‘ar ôl / wedi’.[2]

Mae arddodiaid cyfansawdd yn rhedeg drwy ryngosod rhagenwau meddiannol rhwng yr elfen arddodiadol a'r elfen enwol. Mae hyn yn union fel arddodiaid cyfansawdd Cymraeg ac fel yn y Gymraeg, gall rhagenw meddiannol sbarduno treiglad.[2][4]

cysefin diwar-benn ‘ynghylch, ynglŷn â’ e-kichen ‘yn yml’
1 un. diwar ma fenn ‘yn fy nghylch’ em c'hichen ‘yn fy ymyl’
2 un. diwar da benn ‘yn dy gylch’ ez kichen ‘yn dy ymyl’
3 un. gwryaidd diwar e benn ‘yn ei gylch’ en e gichen ‘yn ei ymyl’
3 un. benywaidd diwar he fenn ‘yn ei chylch’ en he c'hichen ‘yn ei hymyl’
1 ll. diwar hor penn ‘yn ein cylch’ en hor c'hichen ‘yn ein hymyl’
2 ll. diwar ho penn ‘yn eich cylch’ evidoc'h ‘yn eich ymyl’
3 ll. diwar o fenn ‘yn eu cylch’ en o c'hichen ‘yn eu hymyl’
amhersonol diwar ar penn ‘ynghylch un/rhywun’ er c'hichen ‘yn ymyl un/rhywun’

Cysyllteiriau[golygu | golygu cod]

Fel yn Gymraeg, mae gan rai cysyllteiriau ffurfiau gwahanol a ddefnyddir o flaen cytsain a llafariaid, megis ha "a" a hag "ac" a na "na" a nag "nag". Fel rheol, dilynir cysylltiad gan y geiryn e o flaen berf, er enghraifft, hag e kouezhas "ac fe syrthiodd", peogwir e varvas "oherwydd iddo syrthio", er nad yw hyn yn wir am ma "y, os", mar "os", pa "os, pan, oherwydd".[1]

Rhagenwau[golygu | golygu cod]

Personol[golygu | golygu cod]

Gall rhagenwau personol fod yn annibynnol neu'n ddibynnol (naill ai blaen neu ôl). Mae gan ragenwau annibynnol yr un dosbarthiad ag ymadrodd enw llawn a gallant fod yn oddrychau, yn wrthrychau neu'n wrthrychau arddodiadol. Mae rhagenwau ôl yn tueddu i ddilyn berfau terfynol, enwau neu arddodiaid rhediadol. Mae rhagenwau blaen yn gweithredu fel rhagenwau gwrthrychol o flaen ymadroddion berfol ac fel banodolion meddiannol o flaen ymadroddion enwol.

annibynnol dibynnol ôl dibynnol blaen periffrastig
Person cyntaf unigol me me ma, am (’m) ac'hanon
2 un. te te az’ (’z’), da ac'hanout
3 un. gwryaidd e anezhañ
3 un. benywaidd hi hi he anezhi
Person cyntaf lluosog ni ni hon, hol, hor ac'hanomp
2 ll. c'hwi hu, c'hwi ho, hoc'h ac'hanoc'h
3 ll. int i, int o anezho

Fel chi yn y Gymraeg a vous yn y Ffrangeg, defnyddir rhagenw lluosog yr ail berson i'r unigol i ddangos parch. Er hynny, mae rhan fawr o ganolbarth Llydaw wedi colli c'hwi ‘chi’ yn gyfan gwbl ac yn defnyddio te ‘ti’ yn y lluosog hefyd, felly dim ond un gair sydd ganddynt yn debyg i you yn Saesneg.[1] Mae'r defnydd o'r aralleiriad arddodiadol yn fwy cyfyngedig. Maent yn tarddu o ffurfdroi'r arddodiad cyfrannol a ‘o’ a gallant weithredu fel rhagenw gwrthrychol, er enghraifft, E kêr e welas Yannig anezho ‘Yn y dref gwelodd Yannig nhw’, yn fwy llythrennol ‘Yn y dref gwelodd Yannig ohonyn nhw’, ac weithiau maent yn gweithredu fel goddrychau (gyda berfau cyflawn, negyddol fel arfer). [2]

Dangosol[golygu | golygu cod]

Mae gan y rhagenwau dangosol dair gradd o bellter (neu agosrwydd) yn ogystal â chenedl a rhif.

unigol gwrywaidd unigol benywaidd lluosog cyffredin
agosaf: agos at y siaradwr hemañ ‘hwn’ houmañ ‘hon’ ar re-mañ ‘y rhain’
canol: agos y gwrandäwr hennezh ‘hwnna’ hounnezh ‘honna’ ar re-se ‘y rheina’
pellaf: pell o'r siaradwr a gwrandäwr henhont ‘hwnnw’ hounhont ‘honno’ ar re-hont ‘y rheini’

Gogwyddeiriau sy'n dilyn y pen yw'r banodolion dangosol ac fe'u defnyddir â'r fannod benodol. [2][3]

gogwyddair enghraifft
agosaf: agos at y siaradwr -mañ ‘yma’ ar stêr-mañ ‘yr afon yma’
canol: agos y gwrandäwr -se ‘yna’ an ti bihan-se ‘y tŷ bach yna’
pellaf: pell o'r siaradwr a gwrandäwr -hont ‘acw’ al lent-hont ‘y llyn acw’

Amhendant[golygu | golygu cod]

Gall rhagenwau amhendant fod yn gadarnhaol, fel re ‘rhai’ a holl ‘holl’ a negyddol, fel netra ‘dim byd’ a neblec'h ‘unman, unlle’, a gellir ei ragflaenu gan fanodolyn, e.e. an re ‘y rhai’ a da re ‘dy rai’.

Berfau[golygu | golygu cod]

Rhediadau rheolaidd[golygu | golygu cod]

Gellir rhedeg berfau Llydaweg i ddangos modd, agwedd, amser, person a rhif drwy ychwanegu ôl-ddodiaid at fôn y ferf, fel y gwelir yn y tabl hwn.

Mynegol Amodol Gorchmynnol
Presennol Amherffaith Gorffennol Dyfodol Presennol Amherffaith
Person cyntaf unigol -an -en -is -in -fen -jen dim ffurf
Ail berson unigol -ez -es -jout -i -fes -jes dim terfyniad
Trydydd person unigol dim terfyniad -e -as -o -fe -je -et
Person cyntaf lluosog -omp -emp -jomp -imp -femp -jemp -omp
Ail berson lluosog -it -ec'h -joc'h -ot -fec'h -jec'h -it
Trydydd person lluosog -ont -ent -jont -int -fent -jent -ent
Amhersonol -er -ed -jod -or -fed -jed dim ffurf

Ffurfir y berfenw ag ôl-ddodiaid eraill. Ymhlith y rhai mwyaf cyffredin, mae: [3]

  • -out mewn lavarout ‘dweud’, gallout ‘gallu’, klevout ‘clywed, teimlo’
  • -añ mewn evañ ‘yfed’, gwiskañ ‘gwisgo’, skrivañ ‘ysgrifennu’
  • -iñ mewn debriñ ‘bwyta’, deskiñ ‘dysgu’, reiñ ‘rhoi’

Defnyddia rhai berfau eraill y bôn heb derfyniad fel y berfenw, er enghraifft, gortoz "aros", lenn "darllen", kompren "deall".

Mae gan ferfau hefyd rangymeriad gorffennol a ffurfir ag ôl-ddodiad a rhangymeriad presennol sef y geiryn o o flaen y berfenw, sydd yn sbarduno treiglad cymysg.

Mae'r rhan fwyaf o ferfau yn rhai rheolaidd ac nid ydynt yn amrywio ryw lawer yn eu patrymau.[2] Dengys y tabl hwn enghraifft o'r ferf reolaidd debriñ "bwyta" (bôn debr- ).

Mynegol Amodol Gorchmynnol
Presennol Amherffaith Gorffennol Dyfodol Presennol Amherffaith
1u debran debren debris debrin debrfen debrjen Dim ffurf
2u debrez debres debrjout debri debrfes debrjes debr
3u debr debre debras debro debrfe debrje debret
1ll debromp debremp debrjomp debrimp debrfemp debrjemp debromp
2ll debrit debrec'h debrjoc'h debrot debrfec'h debrjec'h debrit
3ll debront debrent debrjont debrint debrfent debrjent debrent
amhers. debrer debred debrjod debror debrfed debrjed Dim ffurf
Berfenw Rhangymeriad presennol Rhangymeriad gorffennol
debriñ o tebriñ debret

Ffurfdroi afreolaidd[golygu | golygu cod]

Mae ambell ferf gyffredin yn afreolaidd, gan gynnwys ober "gwneud".

Mynegol Amodol Gorchmynnol
Presennol Amherffaith Gorffennol Dyfodol Presennol Amherffaith
1u gran graen gris grin grafen grajen Dim ffurf
2u grez graes grejout gri grafes grajes gra
3u gra grae greas gray, graio grafe graje graet
1ll greomp graemp grejomp graimp grafemp grajemp greomp
2ll grit graec'h grejoc'h greot grafec'h grajec'h grit
3ll greont graent grejont graint grafent grajent graent
amhers. greer graed grejod greor grafed grajed Dim ffurf
Berfenw Rhangymeriad presennol Rhangymeriad gorffennol
ober, gober oc'h ober graet

Mae mond "mynd" yn afreolaidd.

Mynegol Amodol Gorchmynnol
Presennol Amherffaith Gorffennol Dyfodol Presennol Amherffaith
1u an aen is in afen ajen Dim ffurf
2u ez aes ejout i afes ajes a, kae
3u a, ya ae, yae eas, yeas ay, aio, yelo afe, yafe aje, yaje aet
1ll eomp aemp ejomp aimp afemp ajemp eomp, demp
2ll it aec'h ejoc'h eot afec'h ajec'h it, kit
3ll eont aent ejont aint afent ajent aent
amhers. eer aed ejod eor afed ajed Dim ffurf
Berfenw Rhangymeriad presennol Rhangymeriad gorffennol
mont o vont aet

Mae gouzout "gwybod" hefyd yn afreolaidd. Yn ogystal â'r ffurfiau isod, mae ganddo nifer o fonau amrywiol posibl eraill.[1]

Mynegol Amodol Gorchmynnol
Presennol Amherffaith Gorffennol Dyfodol Presennol Amherffaith
1u gouzon gouien gouezis gouezin goufen gouijen Dim ffurf
2u gouzout gouies gouejout gouezi goufes gouijes gouez
3u gour gouie gouezas gouezo goufe gouije gouezet
1ll gouzomp gouiemp gouejomp gouezimp goufemp gouijemp gouezomp
2ll gouzont gouiec'h gouejoc'h gouezot goufec'h gouijec'h gouezit
3ll gouzont gouient gouejont gouezint goufent gouijent gouezent
amhers. gouzer gouied gouejod gouezor goufed gouijed Dim ffurf
Berfenw Rhangymeriad presennol Rhangymeriad gorffennol
gouzout o c'houzout gouezet
Mynegol Amodol Gorfodol
Presennol Presennol (lleoliadol) Presennol (arferiadol) Dyfodol Amherffaith Amherffaith (lleoliadol) Amherffaith (arferiadol) Gorffennol Presennol Amherffaith
1u on emaon bezan bin, bezin oan edon bezen boen befen, ben bijen Dim ffurf
2u out emaout bezez bi, bezi oas edos bezes boes befes, bes bijes bez
3u emañ bez bo, bezo oa edo beze boe befe, be bije bezet
1ll omp emaomp bezomp bimp, bezimp oamp edomp bezemp boemp befemp, bemp bijemp bezomp
2ll oc'h emaoc'h bezit biot,[5] bioc'h oac'h edoc'h bezec'h boec'h befec'h, bec'h bijec'h bezit
3ll int emaint bezont bent, bezint oant edont bezent boent befent, bent bijent bezent
amhers. oar, eur emeur bezer bior oad edod bezed boed befed bijed Dim ffurf
Berfenw Rhangymeriad presennol Rhangymeriad gorffennol
bezañ, hŷn: bout, bezout o vezañ bet

Berf afreolaidd gyffredin arall yw eus "bod â", sy'n cyfuno nodwr person a ffurf amser. Yn hanesyddol, mae eus yn deillio o bezañ[2] ac er nad oedd datblygiad tebyg yn y Gymraeg, gwelir yr un peth yng Nghernyweg.[6]

Mynegol Amodol
Presennol Presennol (arferiadol) Dyfodol Amherffaith Amherffaith (arferiadol) Gorffennol Presennol Amherffaith
1u am eus, meus am bez, mez am bo, mo, am vezo am boa, moa am boa, moa am boe, moe am bije, mije am befe, mefe
2u az peus, ac'h eus[7], teus az pez, pez az po, to, az pezo az poa, toa az poa, toa az poe, toe az pije, tije az pefe, tefe
3u en deus, neus en devez, nez en devo, no, en devezo en doa, noa en devoa, noa en devoe, noe en devije, nije en devefe, nefe
1ll he deus, neus he devez, dez he devo, do, he devezo he doa, doa he devoa, doa he devoe, doe he devije, dije he devefe, defe
2ll hon neus, oneus hor bez, obez hor bo, obo, hor bezo hor boa, oboa hor boa, oboa hor boe, boe hor bije, obije hor befe, obefe
3ll hoc'h eus, peus ho pez, pez ho po, po, ho pezo ho poa, poa ho poa, poa ho poe, poe ho pije, pije ho pefe, pefe
amhers. o deus, deus o devez, dez o devo, do, o devezo o doa, doa o devoa, doa o devoe, doe o devije, dije o devefe, defe
Berfenw Rhangymeriad presennol
endevout neu kaout o kaout

Ffurfiau cwmpasog[golygu | golygu cod]

Gellir defnyddio ober, bezañ ac eus fel berfau cynorthwyol.[2]

Yn y presennol, mae Llydaweg (fel Cernyweg a Gwyddeleg ond yn wahanol i'r ieithoedd Geltaidd eraill) yn gwahaniaethu rhwng y presennol syml a'r presennol cyfredol. Ffurfir y presennol syml drwy naill ai rhedeg y ferf (ffurf gryno) neu ddefnyddio'r berfenw â phresennol ober ‘gwneud’ (ffurf gwmpasog), e.e. Dour a evan bemdez neu Evañ a ran dour bemdez ‘Dw i'n yfed dŵr bob dydd’. Mae'r presennol cyfredol, ar y llaw arall, yn cael ei ffurfio â phresennol lleoliadol bezañ gyda rhangymeriad presennol (o(c'h) + tr. cymysg + berfenw). Yn ogystal â'r ddau wahaniaeth agweddol hyn, mae gan Lydaweg bresennol arferiadol sy'n defnyddio presennol arferiadol bezañ (emañ, edo, ayb.) a'r rhangymeriad presennol; e.e. Edo o vervel ‘Roedd e'n marw’.

Y perffaith, sy'n cyfuno'r rhangymeriad gorffennol â naill ai endevout neu bezañ, yw'r ffurf arferol i fynegi'r amser gorffennol, a'r gorffennol cryno wedi'u cyfyngu i'r iaith lenyddol. Mae'r dewis rhwng eus a bezañ yn dibynnu ar a yw'r rhangymeriad gorffennol yn deillio o ferf gyflawn (eus) neu anghyflawn (bezañ), sydd yn debyg i passé composé y Ffrangeg. Er enghraifft, mae kavout "darganfod" yn cymryd endevout i roi kavet en deus "mae wedi darganfod" tra bo kouezhañ "cwympo" yn cymryd bezañ i roi kouezhet eo "mae wedi cwympo".[1][3]

Negyddu[golygu | golygu cod]

Mae berfau cyfyngedig yn cael eu negyddu drwy osod y ddau eiryn negyddol ne ... ket y naill ochr i'r brif ferf, e.e. ne skrivan ket ‘dydw i ddim yn ysgrifennu’ (yn fwy llythrennol ‘nid ysgrifennaf ddim’) neu i'r ferf gynorthwyol, e.e. ne voe ket lazhet ‘ni laddwyd ef’ (yn llythr. ‘nid oedd ddim lladdedig’). [2] Mae na yn disodli ne mewn ffurfiau gorchmynnol, cymalau perthynol, ar ôl ken ‘cyn’ ac evit ‘achos; fel (bod)’ ac wrth fynegi ofn, e.e. na ganit ket ‘peidiwch â chanu’ (yn llythr. ‘na chenwch ddim’), un dra na c'houalennen ket ‘peth na ofynnais’ (sef ‘un peth na ofynnais ddim’), evit na welo ket ac'hanoc'h ‘fel nad yw'n eich gweld chi’ (yn llythr. ‘fel na wêl ddim ohonoch’).

Fel yn Gymraeg, nid oes modd negyddu berfenwau gan ddefnyddio'r geirynnau negyddol a enwyd uchod, felly rhaid defnyddio ymadrodd cyfansawdd yn eu lle. Defnyddia'r Gymraeg peidio i wneud hyn ond mae gan Lydaweg ystod ehangach o strwythurau posibl, e.e. gall redek ‘rhedeg’ ddod yn mirout a redek ‘peidio â rhedeg’ a debriñ ‘bwyta’ yn tremen hep debriñ ‘peidio â bwyta’ (yn llythr. ‘pasio heb fwyta’). Er hynny, defnyddir na ... (ket) ambell waith, i negyddu berfenwau.[1]

Rhifau[golygu | golygu cod]

Rhifolion[golygu | golygu cod]

Yn debyg i'r ieithoedd Celtaidd eraill, mae gan Lydaweg system rifo ugeiniol yn ei hanfod. Un, ul neu ur yw "un" o flaen enw (yr un gair â'r fanod amhenodol). Fel yn y Gymraeg, mae gan "dau/dwy", "tri/tair" a "pedwar/pedair" a rhifau sy'n eu cynnwys ffurfiau gwrywaidd a benywaidd ar wahân a cheir rhai ffurfiau afreolaidd diddorol megis hanter kant "hanner cant". Triwec'h yw'r gair am "deunaw", sef "trichwech" yn llythrennol.

0 zero, mann, netra
1 unan 11 unnek 21 unan warn-ugent
2 daou (g.), div (b.) 12 daouzek 22 daou warn-ungent
3 tri (g.), teir (b.) 13 trizek 30 tregont
4 pevar (g.), peder (b.) 14 pevarzek 40 daou-ugent
5 pemp 15 pempzek 50 hanter kant
6 c'hwec'h 16 c'hwezek 60 tri-ugent
7 seizh 17 seitek 70 dek ha tri-ugent
8 eizh 18 triwec'h 80 pevar-ugent
9 nav 19 naontek 90 dek ha pevar-ugent
10 dek 20 ugent 100 kant

Trefnolion[golygu | golygu cod]

Unwaith eto, gall rhai trefnolion wahaniaethu cenedl enwau.

1af kentañ
2il (gwr.) eil, daouvet
2il (ben.) eil, divvet
3ydd trede, trivet
3edd trede teirvet
4ydd pevare, pevarvet
4edd pevare, pedervet
5ed pempvet
6ed c'hwec'hvet
7fed seizhvet
8fed eizhvet
9fed navvet
10fed dekvet

Treigladau[golygu | golygu cod]

Nid oes treiglad trwynol yn Llydaweg ond fe geir treigladau caled a chymysg yn wahanol i'r Gymraeg.

Cysefin Meddal Llaes Caled Cymysg
p b f
t d z
k g c'h
b v p v
d z t t
g c'h k c'h
gw w kw w
m v v

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

 

  • Jouitteau, M. (2009-nawr) ARBRES, gramadeg wiki Llydaweg ar-lein, IKER, CNRS.
  • Press, I. (1986) A Grammar of Modern Breton (Mouton De Gruyter)
  • Pêr Denez
    • Kentelioù brezhoneg: eil derez, Al Liamm (1971)
    • Étude structurale d'un parler breton: Douarnenez, thèse (3 cyf.), Université de Rennes (1977)
    • Geriadur brezhoneg Douarnenez, 4 cyf., Mouladurioù Hor Yezh (1985)
    • Mont war-raok gant ar brezhoneg, MHY (1987)
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 Hemon, Romparz (2007). Breton Grammar (yn Saesneg). Evertype. t. 63. ISBN 9781904808114.
  2. 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 2.10 2.11 2.12 2.13 2.14 2.15 Stephens, Janig (2002). "Breton". In Ball, Martin; Fife, James (gol.). The Celtic Languages. Routledge Language Family Descriptions (yn Saesneg). London: Routledge. t. 63. ISBN 041528080X.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 Bowen, Zonia (1977). Llydaweg i'r Cymro [Breton for the Welshman]. Bala: Llyfrau'r Faner. t. 80.
  4. 4.0 4.1 Press, Ian; ar Bihan, Herve (2004). Colloquial Breton. Colloquial Series. London: Routledge. tt. 117. ISBN 0415224519.
  5. Literary
  6. Brown, Wella (2001). A Grammar of Modern Cornish. Kesva an Taves Kernewek [The Cornish Language Board]. tt. 162–163. ISBN 1902917006.
  7. Spoken