Grace Gwyneddon Davies

Oddi ar Wicipedia
Grace Gwyneddon Davies
Ganwyd26 Tachwedd 1878 Edit this on Wikidata
Anfield Edit this on Wikidata
Bu farw17 Hydref 1944 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcanwr, casglwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
PriodRobert Gwyneddon Davies Edit this on Wikidata

Ganed y gasglwraig alawon canu gwerin Grace Gwyneddon Davies (Grace Roberts) (26 Tachwedd 187817 Hydref 1944) yng nghymdogaeth Anfield, Lerpwl.[1]

Bywyd a gwaith[golygu | golygu cod]

Yn dilyn hyfforddiant fel pianyddes yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain a chyfnod fel cantores yn Ffrainc a’r Eidal, daeth i berfformio yn un o gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1906, ac i gyfrannu i gyfarfod y Cymmrodorion yn Neuadd y Sir, lle canodd drefniant o waith Arthur Somervell o’r alaw Gymreig, ‘Cnot y Coed’. Bu’r profiad eisteddfodol hwnnw yn symbyliad iddi ddilyn trywydd newydd yn ei gyrfa gan fod nifer o Gymry blaenllaw’r gogledd yn bresennol (gan gynnwys ei darpar ŵr, Robert Gwyneddon Davies) ac unigolion a oedd yn awyddus i ddiogelu’r canu brodorol a esgeuluswyd yn y 19g. ac a oedd yn prysur ddiflannu o’r tir.

Erbyn Prifwyl Llangollen, 1908, roedd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru wedi’i sefydlu a Grace Gwyneddon Davies yn aelod blaenllaw o’r pwyllgor gwaith. Yn 1911 dechreuodd hi a’i gŵr gyfrannu’n gyhoeddus i fywyd y Gymdeithas drwy draddodi darlithoedd ar faes canu gwerin yn nalgylch Caernarfon ac ar hyd gogledd Cymru. ‘Robin’ a fyddai’n traethu a Grace yn darparu’r enghreifftiau priodol ar gân.

Hwyliodd y ddau hefyd i Iwerddon i ddarlithio ar faes caneuon gwerin yng Nghymru i gynulleidfa yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, a phan ymwelodd y cwpl ag Unol Daleithiau America a Chanada flynyddoedd yn ddiweddarach, ystyrid hynny’n gam allweddol ymlaen yn hanes a datblygiad Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru am nad oedd neb erioed cyn hynny wedi mentro mor bell er budd cerddoriaeth werin y genedl. Sail i gyflwyniadau a darlithoedd cyhoeddus Robert a Grace Gwyneddon Davies oedd eu profiad uniongyrchol, o 1913 ymlaen, ym myd casglu a chofnodi alawon Cymreig.

Oherwydd eu cysylltiadau teuluol ag Ynys Môn troesant i gyfeiriad Dwyran i chwilio am ddeunydd cerddorol. I fferm Tyddyn-y-gwynt (Dwyran) ac at Owen Parry, un o denantiaid y fro, yr aeth Grace Gwyneddon Davies yn gyntaf a chael stôr o ganeuon swynol ganddo. Yn eu plith casglwyd deunydd y llofft stabl a chaneuon gweision fferm yr ynys. Pan ymddangosodd ei chyfrol gyntaf o Alawon Gwerin Môn yn 1914 cafwyd ynddi drefniannau syml o saith alaw Gymreig ar gyfer llais a chyfeiliant piano ac yn eu plith, cofnodwyd caneuon fel ‘Cob Malltraeth’, ‘Y Gelynen’, ‘Cwyn Mam-y-’nghyfraith’ a ‘Titrwm, tatrwm’ . Erbyn 1924, roedd ail gasgliad Alawon Gwerin Môn wedi ymddangos o’r wasg a’r gyfrol hon hefyd yn gofnod o ganu Owen Parry ac eithrio un eitem, sef fersiwn o ‘Lisa Lân’ a gafwyd gan ei ferch, Margaret (Maggie) Jones, ar fferm Talybont, Dwyran.

Pan ymddangosodd rhai o drefniannau Grace Gwyneddon Davies ar restr testunau’r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf yn 1918, ailsefydlwyd y cyswllt agos a fu rhyngddi a’r Brifwyl – cyswllt uniongyrchol a barhaodd am gyfnod o bum mlynedd ar hugain. Bu’n feirniad swyddogol yn adran y canu gwerin rhwng 1921 ac 1933 ac yn rhannu ei chyfrifoldebau â Mary Davies a Philip Thomas, yn ogystal â David de Lloyd a W. S. Gwynn Williams. Fel cantores a cherddor ymarferol, sylweddolai bwysigrwydd cefnogi’r gwaith casglu yn ogystal ag ysgolheictod y mudiad canu gwerin, ond yn sail i hyn oll, roedd rhaid perfformio’r alawon ac ymestyn eu cylchrediad er mwyn eu cynnal a’u diogelu.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Grace Gwyneddon Davies, Alawon Gwerin Môn (Caernarfon, 1914)
  • Robert Gwyneddon Davies, ‘The Collecting of Anglesey Folk Songs’, Anglesey Antiquarian and Field Club: Transactions, Cyf. 1923 (Llangefni, 1923), 95
  • Grace Gwyneddon Davies, Ail Gasgliad o Alawon Gwerin Môn: A Second Collection of Folk Songs from Anglesey (Wrecsam, 1924)
  • Wyn Thomas, Meistres Graianfryn a cherddoriaeth frodorol yng Nghymru (Aberystwyth, 1999)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "DAVIES, GRACE GWYNEDDON (1878 - 1944), cantores a chasglydd alawon gwerin | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-11-18.
  2. "Davies, Grace Gwyneddon (1879-1944)". Porth Esboniadur, Prifysgol Bangor.