Grŵp Llanymddyfri

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mewn daeareg, arferai'r term Grŵp Llanymddyfri gyfeirio at raniad isaf y cyfnod Silwraidd (Silwraidd Isaf) ym Mhrydain. Fe'i enwyd yn y 1860au ar ôl creigiau o amgylch tref Llanymddyfri, yng ngogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin, De Cymru. Yn y 1920au defnyddiwyd y term Creigiau Llanymddyfri ac fe'i derbyniwyd fel term daearegol drwy'r byd. Enw arall, nas derbyniwyd oedd Valentian, a gynigiwyd gan Charles Lapworth yn 1879. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys 'siâl Tarannon' (1,000-1,500 tr.), creigiau 'Llanymddyfri Uchaf' a May Hill (tywodfaen; 800 tr.) a Llanymddyfri Isaf' (600-1,500 tr.).

Llanymddyfri Isaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae creigiau Llanymddyfri Isaf yn cynnwys cruglwythau, tywodfaen a gwlâu o lechi. Yn y dref ei hun, maent yn gorwedd ar greigiau Ordoficaidd, sydd hefyd i'w cael i'r de-orllewin ym Mhenfro, ac sy'n crymu o amgylch y dref tuag at ardal Rhaeadr Gwy ble maent yn eitha trwchus. Fe'u ceir hefyd yng Ngheredigion ac yn Sir Gaerfyrddin.[1]

Llanymddyfri Uchaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Calchfaen (neu gerrig calch) sialog a deuamgrwn yw gwneuthuriad creigiau Llanymddyfri Uchaf ynghyd â chalchfaen Norbury, Hollies a Pentamerus. Mae i'w weld fel carreg frig yn Sir Gaerfyrddin, ar waelod y creigiau Silwraidd ac yna'n diflannu o'r golwg dan Hen Dywodfaen Coch tua'r gorllewin cyn ail godi i'r wyneb yn Sir Benfro. Mae'r rhan sy'n ymestyn i'r gogledd-ddwyrain yn anelu tuag at Cefn Hirfynydd (Long Mynd yn Swydd Amwythig, ac mae'r creigiau cruglwythog hyn yn crymu o amgylch Long Mynd ei hun. Mae'r ffosiliau o fewn y garreg yn cynnwys trilobeitiau Phacops caudata, Encrinurus punctatus a Calymene blumenbachis; ceir hefyd y brachiopodau Pentamerus oblongus, Orthis calligramma a Atrypa reticularis; dau fath o gwrel Favosites a Lindostroemia; a'r zonal graptolites Rastriles maximus a Monograptus spinigerus.

Siâl Tarannon[golygu | golygu cod y dudalen]

Llechi glas, llwyd a llwydlas yw lliw Siâl Tarannon, a enwyd gan Adam Sedgwick; mae'r graig Paste Rock yn ymestyn o Lanymddyfri i Gonwy. Yng Ngheredigion, ceir gwlâu grudiog a gerllaw ym Muallt mae'r siâl yn dywyllach ac yn feddalach. Prin iawn yw'r ffosiliau yn Siâl Tarannon, ar wahân i'r graptolitau: Cyrtograptus grayae a Monograptus exiguus. Mae Siâl Tarannon hefyd i'w weld yn Rhaeadr Gwy ac yng Ngwregys Silwraidd Moffat yn ne'r Alban ger y Drumyork Flags, Bargany Group a'r Penkill Group. Yn Iwerddon, codant i'r wyneb fel Siâl Treveshilly yn Strangford Lough a Siâl Salterstown, Swydd Louth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. britannica.com; adalwyd Tachwedd 2015