Goodbye, Mr Chips (ffilm 1939)

Oddi ar Wicipedia
Goodbye, Mr Chips
Cyfarwyddwr Sam Wood
Cynhyrchydd Victor Saville
Ysgrifennwr R. C. Sherriff
Claudine West
Eric Maschwitz
(Seiliedig ar Nofel (1934)
Goodbye, Mr Chips,
gan James Hilton
Serennu Robert Donat
Greer Garson
Terry Kilburn
Cerddoriaeth Richard Addinsell
Sinematograffeg Freddie Young
Golygydd Charles Frend
Dylunio
Cwmni cynhyrchu MGM
Dosbarthydd MGM
Dyddiad rhyddhau 15 Mai 1939 (DU)
Amser rhedeg 114 munud
Gwlad Baner Prydain Fawr Prydain Fawr
Cyllideb $1,051,000
Refeniw gros $3,252,000
(Saesneg) Proffil IMDb

Mae Goodbye, Mr Chips yn ffilm ddrama ramantus Brydeinig o 1939. Cafodd ei gyfarwyddo gan Sam Wood ac mae'n serennu Robert Donat[1] a Greer Garson. Mae'r ffilm yn Seiliedig ar nofel 1934 Goodbye, Mr Chips gan James Hilton. Mae'r ffilm yn adrodd hanes Mr Chipping, hen athro a chyn brifathro annwyl ar ysgol breswyl i fechgyn, sy'n cofio ei yrfa a'i fywyd personol dros y degawdau.[2] Fe'i cynhyrchwyd ar gyfer adran Brydeinig MGM yn Denham Studios.[3]

Plot[golygu | golygu cod]

Cyflwyniad[golygu | golygu cod]

Am y tro cyntaf mewn 58 mlynedd, mae meistr Lladin sydd wedi ymddeol,[4] Mr Chipping (Robert Donat) yn colli'r gwasanaeth boreol diwrnod cyntaf yn Brookfield, ysgol bonedd i fechgyn. Dywedodd y meddyg wrtho am aros gartref gan fod ganddo annwyd, ond dydy Chipping ddim gartref yn ei wely, fel y gorchmynnodd y meddyg. Mae’n eistedd tu allan i ddrws neuadd yr ysgol gyda bachgen newydd, sydd wedi cyrraedd yn hwyr. Pan ddaw'r gwasanaeth i ben, daw'r bechgyn allan, gan gyfarch Chipping. Mae meistr ifanc newydd yn edmygu ei rwyddineb gyda’r bechgyn ac mae Chipping yn ymateb yn hiraethus nad oedd felly bob amser; cymerodd amser hir iddo – yn rhy hir – i ddysgu'r gyfrinach, a rhoddodd rhywun arall y gyfrinach honno iddo. Y prynhawn hwnnw, mae'n syrthio i gysgu yn ei gadair wrth y tân - mae te moethus yn aros am unrhyw fachgen sy'n digwydd dod heibio. Wrth iddo pendwmpio mae'n cofio ei yrfa hir, sy'n cael ei arddangos ar y sgrin fel gyfres o ôl-fflachiau.[4]

Cychwyn gyrfa[golygu | golygu cod]

Pan mae Charles Edward Chipping yn gychwyn ar ei yrfa fel meistr Lladin ym 1870, mae'n 24 oed, yn ffres o'r brifysgol, ac yn llawn breuddwydion am adeiladu bywyd yn Brookfield - a hyd yn oed ddod yn brifathro rhyw ddiwrnod. Mae ganddo radd uwch yn y Clasuron, ond dim profiad dysgu. Mai'n hynod swil ac yn amlwg yn betrus wrth ddelio â thorf o fechgyn. Mae'n dod yn darged i'r disgyblion iau hyd yn oed cyn i'r trên arbennig ar gyfer Brookfield adael yr orsaf. Yr unig feistr mewn adran sy'n llawn bechgyn, mae'r Chipping caredig yn ceisio rhoi cysur i lanc anhapus sy'n dechrau crio; mae'r bechgyn eraill yn tybio ei bod yn crio oherwydd bod Chipping wedi ei gicio.

Fel y meistr newydd mae Chipping yn cael y dasg o adolygu cyfnod paratoi (gwaith cartref, i'r rhai byr o fraint addysg bonedd) y disgyblion iau. Mae ei gyd feistri yn ei rybuddio y bydd y bechgyn yn debyg o fod yn afreolus, ac felly mai. Mae'r Prifathro Wetherby (Lyn Harding) yn dod i mewn ac yn adfer trefn yn gyflym, gan ddweud wrth bob bachgen i fynychu ei swyddfa i dderbyn y gansen. Mae'r prifathro yn gofyn i Chipping i feddwl yn ddwys am addasrwydd ei alwedigaeth, ond mae'r dyn ifanc yn gofyn am gyfle arall. Y tu allan, mae dau o’r meistri yn cynnig eu cydymdeimlad am y trychineb ac mae Chipping yn dweud yn bendant, “Ni fydd yn digwydd eto.”

Peth amser yn ddiweddarach mae Wetherby yn annerch yr ysgol gyfan yn y neuadd fwyta am gêm griced bwysig. Mae'n seibio yng nghanol ei araith gyffrous o sylweddolodd fod y cyfan o'r disgyblion yn eistedd yn dawel, gyda'u pennau yn eu plu. Mae Chipping yn egluro ei fod wedi anghofio am y gêm griced a bod y bechgyn mewn un dosbarth mor anghwrtais am y ffaith, ei fod wedi eu cosbi trwy orchymyn na chant mynychu'r gêm. Mae gan y gosb ganlyniadau enbyd - mae batiwr gorau'r ysgol yn y dosbarth sydd wedi cosbi. Mae'r ysgol yn colli ac mae agwedd y bechgyn tuag at Chipping yn mynd yn oerach byth.

Mae'r blynyddoedd yn mynd heibio, sy'n cael ei ddangos ar y sgrin fel fflachiau o gemau pêl-droed, gemau criced, a bechgyn yn codi eu capiau ysgol wrth iddynt fynd i mewn i'r gwasanaeth yn nhrefn yr wyddor, gan alw eu henwau olaf ar gyfer y gofrestr. (Mae'r olygfa yma yn digwydd eto trwy gydol y ffilm, gydag arddull dillad a phenwisg yn newid gyda'r oes.)

Mae'n ddiwedd tymor 1888, ac mae'r caplan yn anfon y bechgyn ymaith gyda bendith ar eu gwyliau haf. Mae golwg o hiraeth yn wyneb Chipping’s bob tro y mae’n ceisio codi sgwrs gyda disgybl. Er ei fod yn cael ei drin â pharch dyledus, nid oes unrhyw agosatrwydd yn agwedd y bechgyn tag ato. Mae'n treulio'i wyliau yn Harrogate, fel y mae wedi gwneud ers blynyddoedd, yn cerdded trwy gefn gwlad ar ei ben ei hun. Wedi dychwelyd i'r ysgol mae Chipping yn cael ei anwybyddu ar gyfer dyrchafiad i swydd feistr tŷ. Rhoddir y swydd i athro iau, sydd â'r gallu i wneud ffrindiau gyda'r bechgyn. Mae Chipping yn dychwelyd i'w ystafell ac yn sefyll yn y tywyllwch, yn edrych allan o'i ffenestr gan weld dyfodol llwm. Mae golwg o anghyfannedd gwag i'w weld ar ei wyneb.

Priodas a newid bywyd[golygu | golygu cod]

Mae bywyd Chipping yn newid, am byth pan fo'r athro Almaeneg, Max Staefel (Paul Henreid), yn ei berswadio i hepgor ei wyliau arferol trwy ei wahodd i rannu gwyliau cerdded i'w Awstria frodorol. Ar fynydd wedi'i orchuddio â niwl, mae Chipping yn clywed llais merch ac yn tybio mai'n rhaid bod hi mewn perygl. Mae'n gwneud ei ffordd ar hyd llwybr peryglus i'w hachub. Allan o'r niwl daw wyneb Kathy (Greer Garson yn ei hymddangosiad cyntaf ar y sgrin). Mae hi'n Saesnes ifanc olygus, deallus, gyda synnwyr digrifwch hyfryd. Mae hi'n arswydo wrth sylweddoli bod Chipping wedi peryglu ei fywyd pan nad oedd hi mewn unrhyw berygl o gwbl. Maen nhw'n rhannu ei brechdanau hi a'i gôt ef, ac yn dod i adnabod ei gilydd yn ystod yr oriau aros. Mae'r niwl yn clirio ac mae'r ddau yn mynd yn ôl i'r dafarn lle maent yn aros. Yn y dafarn mae'r gwesteion yn ymgynnull i groesawu'r ddau yn ôl. Wedi i'r parti dod i ben mae Chipping yn eistedd ar y balconi gyda'i getyn. Mae'n clywed Kathy yn siarad â'i ffrind, Flora, amdano. Mae Flora yn amlwg yn meddwl ei fod yn hen beth sych, ond mae Kathy yn gweld mwy. Mae hi'n teimlo dros bobl swil a'u hunigrwydd. Yna daw Staefel i fyny gan siarad am ba mor frwd oedd y criw yn y dafarn i gael noson i Chipping fwynhau ei hun. Wedi ei ddrysu gan swildod, mae'n cyfaddef nad oedd yn deall. Mae perthynas Chipping a Kathy yn dwysau dros weddill y gwyliau ac erbyn ei ddiwedd maent wedi penderfynu priodi.

Mae Chipping yn dychwelyd i'r ysgol efo'i briod newydd. Mae'r athrawon a'r bechgyn i gyd yn dotio efo harddwch a chynhesrwydd y wraig ifanc. Mae ei henw annwyl hi am ei ŵr, Chips, yn cael ei mabwysiadu gan yr ysgol gyfan ac yn helpu torri'r oerni rhyngddo a'r disgyblion. Mae Kathy yn cymryd ei hail gam i adfer enw da Chipping yng ngolwg y bechgyn trwy wahodd gwahanol griwiau i dderbyn te gyda'r cwpl pob bwrw Sul.

Wrth i Kathy preswylio yn yr ysgol, Mae'n swyno pawb gyda'i chynhesrwydd. Adeg y Nadolig, maen nhw'n dysgu bod Chips yn mynd i fod yn feistr tŷ'r tymor nesaf. Mae Kathy wrth ei bodd, oherwydd bod gan y tŷ penodol hwn ystafell a fydd yn berffaith ar gyfer meithrinfa i'r babi y mae'n ei ddisgwyl. Ond mae eu priodas yn drasig o fyr. Mewn gwewyr esgor hir ac anodd, mae hi a'r babi yn marw. Mae'r ysgol gyfan yn galaru am ei cholled.

Diwedd gyrfa[golygu | golygu cod]

Wrth i'r blynyddoedd fynd heibio, daw Chips yn gonglfaen annwyl a phoblogaidd yn yr ysgol, gan ddatblygu perthynas â chenedlaethau o ddisgyblion. Ym 1909, mae pwysau yn cael eu rhoi arno i ymddeol gan brifathro newydd a mwy "modern". Mae'r bechgyn yn ralïo eu teuluoedd a bwrdd llywodraethwyr yr ysgol, y mwyafrif ohonynt yn gyn-ddisgyblion, i gadw swydd yr hoff athro. Mae'r llywodraethwyr yn dweud caiff Chips aros nes ei fod yn 100 oed, os mae dyna ei ddymuniad.

Mae Chips yn dewis ymddeol ym 1914 yn 69 oed. Ar ôl ychydig fisoedd gofynnir iddo ddychwelyd i wasanaethu fel prifathro dros dro oherwydd prinder athrawon, wedi nifer ohonynt ymrestru ar gyfer gwasanaeth yn y Rhyfel Mawr. Mae'n cofio bod Kathy wedi rhagweld y byddai'n dod yn brifathro un diwrnod. Wrth i'r Rhyfel Mawr lusgo ymlaen, mae Chips yn darllen yn uchel enwau'r gyn bechgyn ac athrawon sydd wedi marw yn y rhyfel bob dydd Sul. Mae'r enwau a darllenir yn cael eu cofnodi mewn Rôl Anrhydedd yr ysgol. Ar ôl darganfod bod Max Staefel wedi marw yn ymladd ar ochr y gelyn, mae Chips yn darllen ei enw ef i'r Rôl Anrhydedd hefyd, er syndod i bawb.

Mae'n ymddeol yn barhaol ym 1918, ond mae'n symud i ystafelloedd ar draws y ffordd o'r ysgol yng nghartref Mrs Wickett (Louise Hampton), gan fynychu'r gwasanaeth boreol, cymryd rhan ym mywyd yr ysgol a chael bechgyn draw am de. Mae Chips yn deffro o’i nap i groesawu ei ymwelydd olaf i de, y bachgen newydd Peter Colley, y bedwaredd genhedlaeth o Colleys i ddod o dan ddylanwad Chips. Roedd Chips yn arbennig o agos at dad Peter (John Mills), a laddwyd yn ystod dyddiau olaf y rhyfel. Wedi i Colley ymadael ar ôl te ysblenydd mae'n troi yn ôl wrth y drws i wenu a ffarwelio.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Mae Chips ar ei wely angau pan mae'n clywed ei gydweithwyr yn siarad amdano. Mae'n ymateb, "Roeddwn i'n meddwl eich bod wedi dweud ei fod yn drueni, yn drueni na chefais unrhyw blant erioed. Ond rydych chi'n anghywir. Mae gen i Filoedd ohonyn, miloedd ... a'r cyfan yn fechgyn." Mae'r sgrin yn gorlifo gyda bechgyn o wahanol genedlaethau, yn cyffwrdd eu capiau a galw eu henwau wrth iddynt fynd i mewn i'r neuadd ar gyfer gwasanaeth. Yr olaf yw'r Peter Colley ifanc, sy'n troi ato gan ddweud Goodbye, Mr Chips. Mae Chips yn farw.

Cast[golygu | golygu cod]

Actor Cymeriad Disgrifiad
Robert Donat [5] Mr Chips M.A. (Cantab.) Arwr y storï
Greer Garson Katherine Mrs Chips
Lyn Harding Dr John Hamilton Wetherby D.D. (Cantab.) Prifathro Brookfield pan fo Chips yn cyrraedd gyntaf
Paul Henreid Max Staeffel M.A. (Oxon.) Athro Almaeneg
Terry Kilburn John Colley
Peter Colley I, II a III
sawl cenhedlaeth o ddisgyblion o'r un teulu a addysgir gan Mr Chips
John Mills Peter Colley Peter II fel oedolyn
Scott Sunderland Syr John Colley John Colley fel oedolyn
David Croft (heb ei gredydu) Perkins gwas siop y grîn-groser
David Tree Mr Jackson B.A. (Cantab.) athro hanes newydd yn Brookfield
Simon Lack (heb ei gredydu) Wainwright
Judith Furse Flora
Milton Rosmer Chatteris
Frederick Leister Marsham
Louise Hampton Mrs Wickett
Austin Trevor Ralston
Edmond Breo Colonel Morgan
Jill Furs Helen Colley

Lleoliadau ffilmio[golygu | golygu cod]

Saethwyd y tu allan i adeiladau Ysgol Brookfield yn Ysgol Repton, ysgol bonedd (ar adeg ffilmio, ar gyfer bechgyn yn unig), ym mhentref Repton yn Swydd Derby. Ffilmiwyd y tu mewn i'r ysgol a lleoliadau eraill yn Stiwdios Ffilm Denham [6] ger pentref Denham yn Swydd Buckingham. Arhosodd tua 300 o fechgyn Ysgol Repton a rhai aelodau’r staff yn yr ysgol dros gyfnod gwyliau fel y gallent ymddangos yn y ffilm.

Enillion masnachol[golygu | golygu cod]

Yn ôl cofnodion MGM enillodd y ffilm $1,717,000 yn yr UD a Chanada a $1,535,000 mewn mannau eraill gan arwain at elw o $1,305,000.

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Gwobr Canlyniad Enwebai
Gwobrau'r Academi: Ffilm gorau [7] enwebai Metro-Goldwyn-Mayer (Victor Saville, cynhyrchydd)
Gwobrau'r Academi: Cyfarwyddwr gorau enwebai Sam Wood
Gwobrau'r Academi: Actor gorau buddugol Robert Donat
Gwobrau'r Academi: Actores gorau enwebai Greer Garson
Gwobrau'r Academi: Ysgrifennu Gorau, (Sgript Sgrin) enwebai R. C. Sherriff, Claudine West, Eric Maschwitz
Gwobrau'r Academi: Golygu Ffilm Orau enwebai Charles Frend
Gwobrau'r Academi: Recordiad Sain Gorau enwebai A. W. Watkins

Addasiadau eraill[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Goodbye, Mr Chips (1939)". BFI. Cyrchwyd 2019-12-03.
  2. Nugent, Frank S. (1939-05-16). "THE SCREEN; Metro's London-Made Version of 'Goodbye, Mr Chips' Has Its Premiere at the Astor Theatre At the Fifth Avenue Playhouse". The New York Times. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2019-12-03.
  3. "Goodbye, Mr Chips | film by Wood [1939]". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2019-12-03.
  4. 4.0 4.1 "Goodbye, Mr Chips (1939)". www.filmsite.org. Cyrchwyd 2019-12-03.
  5. "Goodbye, Mr Chips (1939) Cast and Crew - Cast Photos and Info". Fandango. Cyrchwyd 2019-12-03.
  6. "Goodbye, Mr Chips Filming Locations". British Film Locations. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-03. Cyrchwyd 2019-12-03.
  7. "The 12th Academy Awards | 1940". Oscars.org | Academy of Motion Picture Arts and Sciences. Cyrchwyd 2019-12-03.