Lyn Harding

Oddi ar Wicipedia
Lyn Harding
GanwydDavid Llewellyn Harding Edit this on Wikidata
12 Hydref 1867 Edit this on Wikidata
Llansanffraid Gwynllŵg Edit this on Wikidata
Bu farw26 Rhagfyr 1952 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Roedd David Llewellyn Harding (12 Hydref, 186726 Rhagfyr, 1952), a oedd yn defnyddio'r enw llwyfan Lyn Harding, yn actor Cymreig a dreuliodd 40 mlynedd ar y llwyfan cyn mynd i wneud ffilmiau mud, ffilmiau llais a rhaglenni radio. Roedd ganddo bresenoldeb llwyfan mawreddog a bygythiol a arweiniodd at o'n cael ei gastio fel y gelyn mewn nifer o ffilmiau, yn arbennig rhan yr Athro Moriarty mewn addasiadau dramatig o straeon Sherlock Holmes.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Lyn Harding yn Llansanffraid Gwynllŵg yn fab i Richard Harding [1] ac Elizabeth (née Llywellyn). Ar adeg ei eni roedd y teulu yn byw ar aelwyd ei dad cu, Dafydd Llywelyn, sef tafarn Church House.[2] Roedd yr aelwyd yn un Gymraeg ei iaith ac roedd y teulu yn driw i achos yr Annibynwyr. Wedi marwolaeth ei dad cu a salwch ei dad etifeddodd Lyn y dafarn a bu'n gweithio fel tafarnwr wrth orffwys rhwng cynyrchiadau.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd ei yrfa fel prentis i ddilledydd yng Nghasnewydd, cyn symud ymlaen i fod yn weithiwr yn siop dillad crand Samuel Hall & Co., Stryd Fawr, Caerdydd.[4] Dechreuodd roi darlleniadau o waith Shakespeare ac awduron eraill mewn capeli a chyfarfodydd cymdeithasol yng Nghaerdydd gan ennill clod fel un o adroddwr gorau'r ddinas[5] Ym 1890, digwyddodd taro ar grŵp o actorion teithiol ar drên ac wedi sgwrs gofynnwyd iddo lenwi dros actor oedd yn dioddef salwch yn eu perfformiad. Trwy hyn cafodd ei ran broffesiynol cyntaf yn y ddrama The Grip Of Iron a agorodd ar 28 Awst 1890 yn y Theatr Royal, Bryste. Wedi hynny bu'n teithio'r theatrau taleithiol gan dderbyn clod beirniadol am ei berfformiadau grymus.

Ym 1894 aeth ar y cyntaf o'i deithiau rhyngwladol gan berfformio yn India, China a Japan.[6] Cafodd ei rôl gyntaf yn Llundain yn Theatr Shakespeare, Clapham, ar 19 Gorffennaf 1897. Wedi hynny bu'n ffigwr amlwg ar lwyfannau Llundain yn chware roliau megis Dug Efrog yn Richard II yn y Theatr Royal ym 1903, Bill Sikes yn Oliver Twist (1905), Prospero yn The Tempest ym 1906.

Gwnaeth ei ymddangosiad ffilm gyntaf ym 1920 yn chware'r brif ran, Feather Dakers, yn A Bachelor Husband; ffilm rhamant wedi selio ar stori gyfres i ferched gan Ruby M. Ayres, a gyhoeddwyd gyntaf yn y Daily Mirror.[7]. Bu'n actio mewn pedwar ffilm fud arall cyn gwneud ei ffilm sain gyntaf Sleeping Partners (1930) ffilm arswyd lle mae gwraig sy'n cael ei hanwybyddu gan ei gŵr yn gwario noson gyda hen ddyn gwŷd (Harding) ar ôl iddo roi cysbair iddi. Aeth ymlaen i chware mewn tua 20 o ffilmiau eraill gan gynnwys fersiwn 1937 o I Claudius a fersiwn 1939 o Goodby Mr Chips. Bu'n gweithio ar wahanol adegau gyda John Gielgud, Ralph Richardson ac Anthony Quayle.

Ei ymddangosiad llwyfan olaf oedd fel Abu Hassan yn Chu Chin Chow yn y West End ym 1941 pan oedd yn 74 mlwydd oed. Yn 80 oed, chwaraeodd rhan Owain Glyndŵr yn Henry IV Shakespeare ar gyfer radio'r BBC.

Bu farw yn Llundain yn 85 mlwydd oed.

Galari[golygu | golygu cod]

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

  • 1920 A Bachelor Husband
  • 1920 The Barton Mystery (mud)
  • 1922 Les Misérables
  • 1922 When Knighthood Was in Flower
  • 1922 Tense Moments with Great Authors
  • 1924 Yolanda
  • 1927 The Further Adventures of the Flag Lieutenant
  • 1927 Land of Hope and Glory
  • 1930 Sleeping Partners
  • 1931 The Speckled Band (fersiwn sain o ffilm 1920)
  • 1932 The Barton Mystery
  • 1933 The Constant Nymph
  • 1934 The Lash
  • 1934 The Man Who Changed His Name
  • 1934 Wild Boy
  • 1935 Escape Me Never
  • 1935 The Triumph of Sherlock Holmes
  • 1935 An Old Spanish Custom
  • 1936 Spy of Napoleon
  • 1936 The Man Who Changed His Mind
  • 1937 Fire Over England
  • 1937 Knight Without Armour
  • 1937 Les Perles de la couronne
  • 1937 Please Teacher
  • 1937 Silver Blaze
  • 1937 Les perles de la couronne
  • 1937 The Mutiny of the Elsinore
  • 1937 Underneath the Arches
  • 1939 Goodbye, Mr. Chips
  • 1939 The Missing People
  • 1941 The Prime Minister
  • 1941 Murder at the Baskervilles

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "MR LYN HARDING'S FATHER DEAD - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-03-11. Cyrchwyd 2019-02-16.
  2. Yr Archif Genedlaethol Cyfrifiad 1871 Gwynllyw RG10/5350; Ffolio: 22; Tudalen: 15; Church House, Church Road
  3. "AN ACTOR AS LICENSEE - South Wales Echo". Jones & Son. 1899-06-17. Cyrchwyd 2019-02-16.
  4. "WALESDAYBYDAY - The Western Mail". Abel Nadin. 1891-08-13. Cyrchwyd 2019-02-16.
  5. "CONVERSAZIONE AT CARDIFF - The Western Mail". Abel Nadin. 1890-06-06. Cyrchwyd 2019-02-16.
  6. "ICymricChatterings - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1894-02-20. Cyrchwyd 2019-02-16.
  7. Low, Rachael. History of the British Film, 1918-1929. George Allen & Unwin, 1971.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]