Gone Girl
Gone Girl | |
---|---|
Delwedd:Gone Girl Poster.jpg Theatrical release poster | |
Cyfarwyddwyd gan | David Fincher |
Cynhyrchwyd gan | |
Sgript | Gillian Flynn |
Seiliwyd ar | Gone Girl gan Gillian Flynn |
Yn serennu | |
Cerddoriaeth gan | |
Sinematograffi | Jeff Cronenweth |
Golygwyd gan | Kirk Baxter |
Stiwdio | |
Dosbarthwyd gan | 20th Century Fox |
Rhyddhawyd gan | 26 Medi 2014 |
Hyd y ffilm (amser) | 149 munud |
Gwlad | UDA |
Iaith | Saesneg |
Cyfalaf | $61 miliwn |
Gwerthiant tocynnau | $369.3 miliwn |
Ffilm thriller seicolegol yw Gone Girl a rhyddhawyd yn 2014 ac sy'n serennu Ben Affleck a Rosamund Pike. Cyfarwyddwyd y ffilm gan David Fincher ac fe'i hysgrifenwyd gan Gillian Flynn. Mae'n seiliedig ar ei nofel o'r un enw o 2012.
Sêr eraill y ffilm yw Neil Patrick Harris a Tyler Perry.
Plot[golygu | golygu cod y dudalen]
Lleolir y ffilm yn nhalaith Missouri cyn ac yn dilyn dirwasgiad 2008. Mae'n dilyn carwriaeth ac yna trybilon Nick Dunne (Affleck) wrth iddo gwrdd gyda'i wraig hardd, Amy (Pike) ac yna dirgelwch ei llofruddiaeth ac yna diflaniad honedig. Ceir sawl tro trwstan yn y stori.
Mae carwriaeth Dunne ac Amy i gychwyn yn hudolus ond wrth symud nôl i fro ei febyd, North Catharage, mae Nick yn ymddieithro oddi ar ei wraig hardd ac yn dechrau cael perthynas â myfyrwraig iddo. Un bore mae'n dychwelyd i'r tŷ ac yn gweld olion gwaed a ffrwgwd ar hyd y lle a dim golwg o'i wraig. Ar glywed am gipiad neu lofruddiaeth (dydy'r sefyllfa ddim yn glir) mae'r cyhoedd lleol yn gydymdeimladol i Dunne i gychwyn. Ond buan mae'r farn yn troi wrth i bobl glywed am ei odineb a sibrydion eraill.
Buan y daw i'r amlwg nad yw Amy wedi ei llofruddio ond ei bod wedi creu twyll sydd bron â bod yn berffaith wrth iddi ddianc o'i gŵr a'i pherthynas siomedig. Ond wrth iddi deimlo fod y cynllun yn mynd yn berffaith mae Nick yn dod i glywed am ochr gudd i'w wraig ac yn dechrau ceisio clirio ei enw da tra fod Amy yn dechrau gwneud camgymeriad wrth aros mewn gwersyllfa.
Sgrinio a Gwobrau[golygu | golygu cod y dudalen]
[[Delwedd:Gone Girl Premiere at the 52nd New York Film Festival P1070621 (15370484432).jpg|bawd|Premiere Gone Girl Premiere yn y 52fed Gŵyl Ffilm Efrog Newydd gyda Ben Affleck a Rosamund Pike [[Delwedd:Gone Girl Premiere at the 52nd New York Film Festival P1070597 (15370660505).jpg|bawd|Premiere Gone Girl gyda Pike, Patrick Harris, 'Desi' a Tyler Perry Bolt, twrnau Nick]] Dangoswyd premiere byd o'r ffilm yn y 52fed Gŵyl Ffilm Efrog Newydd ar 26 Medi 2014. Rhyddhawyd y ffilm ar draws UDA ar 3 Hydref 2014. Derbyniodd ymateb bositif iawn gan y beirniaid a gan y cyhoedd gan ennill dros $369 miliwn, sef ffilm fwyaf gwerth gros fwyaf Fincher.
Derbyniodd Rosamund Pike ganmoliaeth arbennig am ei pherfformiad ac enillodd enwebiadau ar gyfer Gwobr Academy (Oscars), Gwobr BAFTA, Golden Globe Award, a Screen Actors Guild Award for Best Actress. Cafwyd enwebiadau pellach i'r Golden Globe Award am Cyfarwyddo Gorau i Fincher a Gwobr Golden Globe, BAFTA, ac enwebiad Gwobr Critics' Choice i addasiad sgrîn gan Flynn - enillodd Flynn y wobr yma.[1]
Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Golden Globe: 'Birdman,' 'Boyhood' and 'Imitation Game' Top Nominations". Variety. 11 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2014.