Gillian Flynn

Oddi ar Wicipedia
Gillian Flynn
Ganwyd24 Chwefror 1971 Edit this on Wikidata
Dinas Kansas Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Kansas
  • Ysgol Newyddiaduraeth Medill
  • Prifysgol Northwestern
  • Bishop Miege High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, beirniad teledu, nofelydd, ysgrifennwr, sgriptiwr, beirniad ffilm, sgriptiwr ffilm Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDark Places, Gone Girl Edit this on Wikidata
Arddullcyffro Edit this on Wikidata
Gwobr/auCyllell Ddur CWA Ian Fleming, Gwobr Dagr Waedlyd Newydd y CWA Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://gillian-flynn.com Edit this on Wikidata

Awdures Americanaidd yw Gillian Schieber Flynn (ganwyd 24 Chwefror 1971) sy'n newyddiadurwr, beirniad teledu, nofelydd sgriptiwr a beirniad ffilm. Hyd at 2019 roedd wedi ysgrifennu tair nofel nodedig: Sharp Objects, Dark Places, a Gone Girl ac mae'r dair wedi'u haddasu ar gyfer teledu neu ffilm.[1][2][3][4] Addasodd Flynn ei nofel Gone Girl ei hun a'r gyfres fechan Sharp Objects (HBO). Yn y gorffennol mae wedi gweithio fel beirniad ffilm ar gyfer Entertainment Weekly.

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Ninas Kansas a'i magu yn ardal Coleman Highlands. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Kansas, Ysgol Newyddiaduraeth Medill a Phrifysgol Northwestern.[5][6]

Roedd ei rhieni, ill dau, yn athrawon-prifysgol yng Ngholeg Cymunedol Metropolitanaidd – Penn Valley: roedd ei mam, Judith Ann (g. Schieber), yn athro iaith, ac roedd ei thad, Edwin Matthew Flynn, yn athro ffilm.[6][7][8][9] Mae ganddi frawd hŷn, Travis, sy'n beiriannydd rheilffordd. Ei ewythr yw Barnwr Llys Cylchdaith Jackson, Robert Schieber. Roedd Flynn yn “boenus o swil” pan oedd yn ifanc a chafodd ddianc drwy ddarllen ac ysgrifennu. Pan oedd yn ei harddegau, byddai tad Flynn yn mynd â hi i wylio ffilmiau arswyd.[10][11][12]

Mynychodd Flynn Ysgol Uwchradd Esgob Miege a graddiodd ym 1989. Fel person ifanc yn ei harddegau, gweithiodd fel 'gwisgwr-hysbysebu', e.e. fel côn iogwrt anferthol neu mewn tuxedo, gydag arwydd hysbysebu yn ei llaw.

Colegau[golygu | golygu cod]

Aeth i Brifysgol Kansas, lle cafodd radd mewn Saesneg a newyddiaduraeth. Treuliodd ddwy flynedd yng Nghaliffornia, yn ysgrifennu ar gyfer cylchgrawn masnach ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes adnoddau dynol, cyn symud i Chicago lle mynychodd Brifysgol Northwestern gan dderbyn gradd meistr yn Ysgol Newyddiaduraeth Medill ym 1997.[13] Ar y dechrau roedd Flynn eisiau gweithio fel gohebydd heddlu, ond dewisodd ganolbwyntio ar ei hysgrifennu ei hun, gan iddi ddarganfod nad oedd ganddi "ddawn" ar gyfer adroddiadau i'r heddlu. [14]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cyllell Ddur CWA Ian Fleming (2007), Gwobr Dagr Waedlyd Newydd y CWA (2007) .

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Perdida (Movie Tie-In Edition) (Gone Girl-Spanish Language) (Vintage Espanol) (2014)". Best Little Bookshop. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-24. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2014.
  2. "Heridas abiertas: (Sharp Objects Spanish-language Edition)". Abebooks. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2014.
  3. "Heridas Abiertas: (Sharp Objects Spanish-Language Edition)". Rediff.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-29. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2014.
  4. "Gillian Flynn Talks About Dark Places". YouTube. Orion Publishing. 25 Medi 2009. Cyrchwyd 7 Ionawr2017. Check date values in: |accessdate= (help)
  5. McClurg, Jocelyn (27 Medi 2006). "New voices: Gillian Flynn makes thriller debut". USA Today.
  6. 6.0 6.1 Paul, Steve (11 Tachwedd 2012). "Kansas City native Gillian Flynn emerges as a literary force with her twisted mystery 'Gone Girl'". The Kansas City Star. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Hydref 2014. Cyrchwyd 11 Hydref 2014.
  7. Parsi, Novid (7 Chwefror 2013). "Gillian Flynn on Gone Girl - Interview". Time Out. Cyrchwyd 11 Hydref 2014.
  8. Anolik, Lili (10 Hydref 2014). "Inside the Dangerous Mind of Gone Girl's Gillian Flynn I". Elle. Cyrchwyd 11 Hydref 2014.
  9. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-28. Cyrchwyd 2014-11-15. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)
  10. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb155343186. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  11. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb155343186. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.nytimes.com/2009/05/10/books/review/Crime-t.html. http://www.nytimes.com/2012/05/30/books/gone-girl-by-gillian-flynn.html.
  12. Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 13 Hydref 2015. http://www.isfdb.org/cgi-bin/ea.cgi?144771. "Gillian Flynn".
  13. Lewis, Keith (20 Hydref 2013). "'Gone Girl' author talks about her Missouri roots". Southeast Missourian. Cyrchwyd 11 Hydref 2014.
  14. Galwedigaeth: Muck Rack. dyddiad cyrchiad: 3 Ebrill 2022. Muck Rack. dyddiad cyrchiad: 3 Ebrill 2022. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 16 Rhagfyr 2022.