Gogwyddiad gramadegol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mewn ieithyddiaeth, gogwyddiad yw'r ffurfdroadau sy'n digwydd yn enwau, rhagenwau ac ansoddeiriau sy'n dynodi nodweddion fel rhif (yn aml, unigol yn erbyn lluosog), cyflwr (er enghraifft gwrthrych a goddrych), a chenedl. Mae gogwyddiad yn digwydd yn nifer o ieithoedd y byd ac yn amlwg iawn yn nifer o'r ieithoedd Ewropeaidd.

Gogwyddiad yng ngwahanol ieithoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gogwyddiad llawer yn llai amlwg yn nifer o'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd modern sydd wedi dod yn fwy analytig na'u ffurfiau hŷn.

Cymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid yw gogwyddiad yn amlwg iawn yn Gymraeg fodern gan ei bod wedi colli'r ffurfdroadau cyflwr a oedd yn bresennol yn Frythoneg. Serch hynny mae enwau Cymraeg o hyd yn gogwyddo yn ôl y rhifau unigol a lluosog. Oherwydd natur ymasiadol y ffurfdroadau yn Gymraeg, mae'r gogwyddiadau yn afreolaidd iawn, er enghraifft, ffordd a ffyrdd, bachgen a bechgyn, merch a merched, a tai, ci a cŵn, cyfrifiadur a cyfrifiaduron, mab a meibion, car a ceir, ayyb.

Lladin[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Gogwyddiad Lladin

Mae Lladin yn dangos y saith cyflwr goddrychol, gwrthrychol, derbynniol, perchnogol, abladol, cyfryngol a chyfarchol drwy batrymau gogwyddiad cymhleth. Mae yna hefyd ffurfiau lleol o enwau rhai llefydd yn Rhufain hynafol.

Rhoddir enghraifft o ogwyddiadau Lladin gyda ffurfiau unigol y gair homo (dyn), sydd yn perthyn i drydydd gogwyddiad yr iaith Ladin.

  • homo (goddrychol) "[y] dyn" [fel goddrych] (e.e homo ibi stat saif y dyn yno)
  • hominis (perchnogol) "eiddo['r] dyn" (e.e nomen hominis est Claudius enw'r dyn yw Claudius)
  • homini (derbyniol) "i/am [y] dyn" [fel gwrthrych anuniongyrchol] (e.e homini donum dedi rhoddais anrheg i'r dyn; homo homini lupus dynoliaeth yw blaidd i ddynoliaeth.)
  • hominem (gwrthrychol) "[y] dyn" [fel gwrthrych uniongyrchol] (e.e hominem vidi gwelais y dyn)
  • homine (abladol) "o/gyda/yn/gan/wrth [y] dyn" [gyda gwahanol defnyddiau] (e.e sum altior homine rwyf yn fwy na'r dyn).

Fel unrhyw iaith gyda gymaint o ogwyddiadau â Lladin gellir trefnu brawddeg mewn unrhyw ffordd ar gyfer effaith neu bwyslais:

Hominem vidi ac Vidi hominem - Gwelais y dyn.

Mae gan Ladin nifer o ddosbarthiadau patrymau gogwyddiad, hynny yw, grwpiau o enwau sydd yn rhannu patrymau gogwyddo tebyg. Fe ystyrir Lladin i fod â phum dosbarth gogwyddo.

Almaeneg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Almaeneg, fel pob iaith Orllewin Indo-Ewropeaidd wedi dod yn fwy analytig, ond mae hi o hyd yn gogwyddo enwau a'u geirynnau perthynol yn ôl cyflwr yn ogystal â chenedl a rhif. Mae ansoddeiriau yn gogwyddo i mewn i 3 grŵp gogwyddo; cryf, gwan, a chymysg. Isod gweler gogwyddiad y banodau penodol[1]:

Cyflwr goddrychol: der (gwrywaidd) die (benywaidd) das (niwtral) die (lluosog)
Cyflwr genidol: den (gwrywaidd) die (benywaidd) das (niwtral) die (lluosog)
Cyflwr genidol: des (gwrywaidd) der (benywaidd) des (niwtral) der (lluosog)
Cyflwr derbynniol: dem (gwrywaidd) der (benywaidd) dem (niwtral) den (lluosog)

Tarddiad terfyniadau cyflwr[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae terfyniadau cyflwr yn tarddu o arddodiaid sydd dros amser yn cael eu "llyncu" i mewn i'r enw. Mae'r un broses o "lyncu" diwedd geiriau yn gyfrifol am yr "erydiad" sy'n digwydd pan gollir y terfyniadau cyflwr[2].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Griesbach, Heinz / Schulz, Dora (1960): Grammatik der deutschen Sprache, Max Hueber Verlag, München.
  2. Deutscher, Guy (2005) The Unfolding of Language, William Heinemann, Llundain.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]