Cyflwr cyfarchol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Y Cyflwr Cyfarchol yw'r term gramadegol ar yr arfer o gryfhau neu dynnu sylw arbennig at berson, anifail neu wrthrych o fewn brawddeg; gwneir hyn yn y Gymraeg drwy dreiglo. Roedd yn arfer yn yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd ac yn Lladin; bellach, fe arddelir y cyflwr cyfarchol yn y Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd (heblaw Llydaweg), yn yr ieithoedd Slafonig (heblaw Rwsieg) ac yn y Lithwaneg a'r Latfieg. Mae wedi ei golli yn yr ieithoedd Germanaidd gan gynnwys y Saesneg.

Cyflwr Cyfarchol mewn ieithoedd Celtaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr enghraifft amlwg, syml yn y Gymraeg yw pan fydd siaradwr yn treiglo "boneddigion" i foneddigion[1] ar ddechrau brawddeg er mwyn denu sylw'r gynulleidfa; neu'r athro yn gweiddi "blant" ar ddisgyblion er mwyn cadw trefn. Ceir yn y gân 'O Gymru' gan Eleri Llwyd.[2]

Efallai mai' un o'r enghreifftiau amlycaf o ddefnydd o'r cyflwr cyfarchiol a hynny'n treiglo enw person (sy'n anghyffredin bellach yn y Gymraeg) yw'r cwpled o gerdd 'Fy Ngwlad (Cerddi'r Cywilydd) gan Gerallt Lloyd Owen:[3]

Wylit, wylit, Lywelyn,
Wylit waed pe gwelit hyn

Gwelir y cyflwr cyfarchol yn yr ieithoedd Gwyddeleg a Gaeleg. Yn wahanol i'r Gymraeg, mae'r ddwy iaith hyn yn dal i dreiglo enwau pobl, ac mae'r enwau "Hamish" yn ffurf gyfarchol (a sillafiad Saesneg) ar Seumas a'r enw Mháiri (a ynganer yn gywir fel 'Fari') yn ffurf gyfarchol ar Màiri. Yn wahanol i'r Gymraeg mae'r ieithoedd Goideleg yn dal i arddel y cyflwr genidol.

Treigladau oherwydd Cyflwr Cyfarchol yn y Wyddeleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Cenedl Enw Gwrywaidd Benywaidd
Un. Goddrychol an fear mór an buachaill mór Seán an bhean mhór an deirfiúr mhór Máire
Genidol an fhir mhóir an bhuachalla mhóir Sheáin na mná móire na deirféar móire Mháire
Cyfarchol a fhir mhóir a bhuachaill mhóir a Sheáin a bhean mhór a dheirfiúr mhór a Mháire
Llu. Goddrychol na fir móra na buachaillí móra na mná móra na deirfiúracha móra
Genidol na bhfear mór na mbuachaillí móra na mban mór na ndeirfiúracha móra
Cyfarchol a fheara móra a bhuachaillí móra a mhná móra a dheirfiúracha móra
Cymraeg y dyn mawr y bachgen mawr Siôn y dynes fawr y chwaer fawr Mari

Gaeleg - Cyflwr Cyfarchol, Treiglo Enwau Pobl[golygu | golygu cod y dudalen]

Defnyddir treigliadau yn yr iaith Aeleg yn yr Alban i ddynodi'r cyflwr cyfarchol hefyd:

Goddrych Cyflwr Cyfarchol
Caitrìona a Chaitrìona
Dòmhnall a Dhòmhnaill
Màiri a Mhàiri
Seumas a Sheumais
Ùna Ùna
a choin

Ieithoedd Slafonig[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir y cyflwr cyfarchol mewn sawl iaith Slafonig, a dynodir hi fel terfyniad gair.

Pwyleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn yr iaith Bwyleg mae'r cyflwr cyfarchol (wołacz mewn Pwyleg) yn peri i enwau benywaidd dderbyn -o (heblaw geiriau sy'n diweddu gyda -sia, -cia, -nia, a -dzia, sy'n derbyn -u, a'r rhai sy'n diweddu gyda -ść, dderbyn -i.

Mae enwau gwrywaidd yn dilyn patrwm cymleth y cyflwr lleoliadol, ac eithro llond llaw o eiriau megus Bóg → Boże ("Duw"), ojciec → ojcze ("tâd") a chłopiec → chłopcze ("bachgen"). Mae enwau di-genedl a lluosog yn dilyn yr un ffurf yn y cyflwr enwadol ag yn y cyflwr cyfarchol.:

Goddrych Cyflwr Cyfarchol
Benywaidd
Pani Ewa (Mrs. Eve) Pani Ewo! (Mrs. Eve!)
Ewusia (bychanig Ewa) Ewusiu!
ciemność (tywyllwch) ciemności!
książka (llyfr) książko!
Gwrywaidd
Pan profesor (Mr. Professor) Panie profesorze! (Mr. Brofessor!)
Krzysztof (Christopher) Krzysztofie! (Christopher!)
Krzyś (Chris) Krzysiu! (Chris!)
wilk (blaidd) wilku! (flaidd!)
człowiek (human) człowieku! / człowiecze! (bardd)

Slofaceg[golygu | golygu cod y dudalen]

Hyd at yr 1908au roedd cyflwr cyfarchol arbennig gan yr iaith Slofaceg a adnabuwyd ac a ddysgwyd yn yr ysgolion. Bellach, nid ystyrir y cyflwr yn un byw ac arddelir hi ond mewn ffurfiau hynafol gan mwyaf ym maes crefydd neu lenyddiaeth neu mewn cyd-destun eironig.

Lithwaneg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir yn cyflwr cyfarchol yn iethoedd byw y Baltig, Lithwaneg a Latfieg. Yn Lithwaneg:

vyrasvyre ("gwas")
brolisbroli" ("brawd")

Ieithoedd Romáwns[golygu | golygu cod y dudalen]

Arferid y cyflwr cyfarchol yn y Lladin - gweler dyfyniad enwog, "Et tu Brute" gyda Brute yn ffurf gyfarchol ar yr enw "Brutus". Prin yr arddelir y cyfarchol yn y Ffrangeg ond mae'n bodoli mewn gwahanol ffurfiau mewn ieithoedd Romáwns eraill.

Rwmaneg[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel yn y Lladin a'r ieithoedd Slafonig cyfagos, gwelir y cyfarchol ar ddiwedd y gair yn yr iaith Rwmaneg:

  • terfyniad "-e" i eiriau gwrywaidd:
omomule! ("dyn/gŵr")
băiatbăiete! pe băiatule! ("bachgen - fachgen!")
vărvere! ("cefnder")
IonIoane!("Ioan")
  • terfyniad -o" i eiriau benywaidd:
sorăsoro! ("chwaer")
nebunănebuno! ("dynes wallgo")
IleanaIleano! ("Helen")
  • terfyniad"-lor" i'r lluosog:
fraţifraţilor! ("brodyr - frodyr!")

Catalaneg[golygu | golygu cod y dudalen]

Bydd y Gatalaneg yn gollwng y fannod er mwyn ffurfio'r cyflwr cyfarchol. Yr arfer yw denfnyddio'r fannod wrth gyfeirio ar bobl ym mhob achos arall, er enghraifft. Mae hepgor y fannod yn dynodi sylw a pharch.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyferiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. https://ybont.org/pluginfile.php/3370/mod_resource/content/5/Uned%203.pdf
  2. https://www.youtube.com/watch?v=sZY6IgiPYPQ
  3. https://www.reddit.com/r/PoetryWales/comments/2g0dmn/fy_ngwlad_by_gerallt_lloyd_owen/