Gogwyddiad Lladin
Gwedd
Gogwyddiad Lladin yw'r ffurfdroadau ar enwau, rhagenwau, ansoddeiriau a'u geirynnau perthynol yn yr iaith Ladin.
Mae gan enwau Lladin saith cyflwr; goddrychol, gwrthrychol, genidol, derbyniol, abladol, cyfryngol a chyfarchol; a dau rif: unigol a lluosog. Mae pob enw naill ai'n wrywaidd, benywaidd neu ddiryw. Mae enwau yn gogwyddo i bum grŵp.
Esboniad bras o'r cyflyrau
[golygu | golygu cod]- Prif: Cyflwr gramadegol
- Fe ddefnyddir y cyflwr goddrychol i ddangos pwnc datganiad:
- servus ad villam ambulat.
- Mae'r caethwas yn cerdded i'r tŷ.
- Mae'r cyflwr genidol yn mynegi perchnogaeth, mesuriad neu ffynhonnell:
- servus laborat in villa domini.
- Mae'r caethwas yn gweithio yn nhŷ'r meistr.
- Mae'r cyflwr derbyniol yn dangos gwrthrych anuniongyrchol y frawddeg. Yn y Gymraeg fe ddefnyddir yr arddodiad i i'w dynodi:
- servi tradidere pecuniam dominis.
- Rhoddodd y caethweision yr arian i'r meistri.
- Mae'r cyflwr gwrthrychol yn mynegi gwrthrych uniongyrchol berf, neu gyfeiriad symudiad ac fe allai fod yn wrthrych rhagddodiaid:
- dominus servos vituperabat quod non laborabant.
- Gwaeddodd y meistri ar y caethweision gan nad oeddent yn gweithio.
- Mae'r cyflwr abladol yn cyfleu arwahaniad neu ddigyfeiriad:
- dominus in cubiculo dormiebat.
- Roedd y meistr yn cysgu yn ei ystafell wely.
- Fe ddefnyddir y cyflwr cyfarchol i gyfarch neu gyfeirio at rywun:
- festina, serve!
- Brysiwch, gaethwas!
- Mae'r cyflwr lleol yn dynodi lleoliad ar/yn, neu'r amser y mae digwyddiad yn digwydd. Mae'r cyflwr hwn yn gyfyng iawn yn Lladin a dim ond enwau rhai llefydd yn Rhufain hynafol sydd â ffurfiau lleol:
- servus Romae erat.
- Roedd y caethwas yn Rhufain.
Gogwyddiad enwau
[golygu | golygu cod]Isod gweler terfyniadau rheolaidd y pum grŵp gogwyddiad.
Gogwyddiad cyntaf
[golygu | golygu cod]Dyma grŵp o enwau benywaidd yn bennaf.[1]
| Unigol | Lluosog | ||
|---|---|---|---|
| Goddrychol | -a | -ae | |
| Genidol | -ae | -ārum | |
| Derbyniol | -ae | -īs | |
| Gwrthrychol | -am | -ās | |
| Cyfarchol | -a | -ae | |
| Abladol | -ā | -īs |
Ail ogwyddiad
[golygu | golygu cod]Dyma grŵp o enwau gwrywaidd a diryw.
Gwrywaidd
[golygu | golygu cod]| Unigol | Lluosog | ||
|---|---|---|---|
| Goddrychol | -us, -us, -er | -ī | |
| Genidol | -ī | -ōrum | |
| Derbyniol | -ō | -īs | |
| Gwrthrychol | -um | -ōs | |
| Cyfarchol | -us, -ius | -ī | |
| Abladol | -ō | -īs |
Diryw
[golygu | golygu cod]| Unigol | Lluosog | ||
|---|---|---|---|
| Goddrychol | -um | -a | |
| Genidol | -ī | -ōrum | |
| Derbyniol | -ō | -īs | |
| Gwrthrychol | -um | -a | |
| Cyfarchol | -us, -ius | -a | |
| Abladol | -ō | -īs |
Trydydd gogwyddiad
[golygu | golygu cod]Dyma grŵp o enwau gwrywaidd, benywaidd a diryw â nifer o derfyniadau yn y goddrychol unigol.
Gwrywaidd a benywaidd
[golygu | golygu cod]| Unigol | Lluosog | ||
|---|---|---|---|
| Goddrychol | nifer | -ēs | |
| Genidol | -is | -um | |
| Derbyniol | -ī | -ibus | |
| Gwrthrychol | -em | -ēs | |
| Cyfarchol | godd. | -ēs | |
| Abladol | -e | -ibus |
Diryw
[golygu | golygu cod]| Unigol | Lluosog | ||
|---|---|---|---|
| Goddrychol | nifer | -a | |
| Genidol | -is | -um | |
| Derbyniol | -ī | -ibus | |
| Gwrthrychol | godd. | -a | |
| Cyfarchol | godd. | -a | |
| Abladol | -e | -ibus |
Pedwerydd gogwyddiad
[golygu | golygu cod]Dyma grŵp o enwau gwrywaidd[2] a diryw yn bennaf.
Gwrywaidd
[golygu | golygu cod]| Unigol | Lluosog | ||
|---|---|---|---|
| Goddrychol | -us | -ūs | |
| Genidol | -ūs | -uum | |
| Derbyniol | -uī | -ibus | |
| Gwrthrychol | -um | -ūs | |
| Cyfarchol | -us | -ūs | |
| Abladol | -ū | -ibus |
Diryw
[golygu | golygu cod]| Unigol | Lluosog | ||
|---|---|---|---|
| Goddrychol | -ū | -ua | |
| Genidol | -ūs | -uum | |
| Derbyniol | -ū | -ibus | |
| Gwrthrychol | -ū | -ua | |
| Cyfarchol | -ū | -ibus | |
| Abladol | -ū | -ibus |
Pumed gogwyddiad
[golygu | golygu cod]Yn y pumed gogwyddiad mae'r enwau i gyd yn fenywaidd heblaw am ddau.
| Unigol | Lluosog | ||
|---|---|---|---|
| Goddrychol | -ēs | -ēs | |
| Genidol | -eī | -ērum | |
| Derbyniol | -eī | -ēbus | |
| Gwrthrychol | -em | -ēs | |
| Cyfarchol | -ēs | -ē | |
| Abladol | -ē | -ēbus |
Gogwyddiad ansoddeiriau
[golygu | golygu cod]Nodiadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mae yna ychydig o enwau gwrywaidd hefyd yn y gogwyddiad cyntaf
- ↑ Er bod y rhan fwyaf o enwau yn wrywaidd mae grŵp bach o rai benywaidd hefyd.