Glaslyn (Powys)

Oddi ar Wicipedia
Glaslyn
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.531778°N 3.732111°W Edit this on Wikidata
Map

Llyn yng ngogledd-orllewin Powys yw Glaslyn, a leolir yn rhan ogleddol bryniau Elenydd tua 5 milltir i'r gogledd-ddwyrain o gopaon Pumlumon a thua 7 milltir i'r de-ddwyrain o dref Machynlleth.

Gorwedd Glaslyn tua 460 metr i fyny ar lwyfandir agored, corsiog. Mae'n llyn o siâp crwn bron. Dyma brif darddle Afon Dulas, un o ledneintiau Afon Dyfi. Mae'r afon yn disgyn yn syrth iawn dros lethrau creigiog Uwch-y-coed fymryn i'r gogledd o'r llyn.

Mae lôn fferm yn cyrraedd y llyn o'r ffordd ar y bwlch rhwng Aberhosan a Dylife ac yn mynd yn ei blaen am filltir arall wedyn i gyfeiriad y de i gyrraedd Bugeilyn.

Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.