Neidio i'r cynnwys

Giro City

Oddi ar Wicipedia
Giro City
Enghraifft o:ffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaulliw Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1982 Edit this on Wikidata
Genreffilm ddrama Edit this on Wikidata
Hyd97 munud Edit this on Wikidata
Cyfarwyddwr/wyrKarl Francis Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrSophie Balhetchet Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
SinematograffyddCurtis Clark Edit this on Wikidata
SgriptiwrKarl Francis Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Ffilm ddrama oedd yn brwydro yn erbyn sensoriaeth gan y cyfarwyddwr Karl Francis yw Giro City a gynhyrchwyd ym 1982.[1] Fe'i cynhyrchwyd yn y Deyrnas Unedig. Sgwennwyd y sgript yn wreiddiol yn Saesneg. Ymysg yr actorion roedd Glenda Jackson, a'r Cymry Sharon Morgan, Emrys James a Robert Pughe. Cafodd rhan o'r ffilm ei saethu ar leoliad ym Merthyr Tudful.[1]

Hanes newyddiadurwyr ymchwiliol o Gymru yn mynd ati i adrodd ar yr Helynt yng Ngogledd Iwerddon sydd yn y ffilm, dim ond i ddarganfod sensoriaeth a llygredd gartref.[2]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Glenda Jackson - Sophie
  • Jon Finch - O'Mally
  • Martin - Kenneth Colley
  • James Donnelly - James
  • Karen Archer - Brigitte
  • Graham Berry - TV10 Cameraman
  • Chris Renty - TV10 Soundman
  • David Quilter - TV10 Lawyer
  • Peter Halliday - Government Minister
  • Simon Coady - Awards Compere
  • Emrys James - Tommy Williams
  • Simon Jones - Henderson
  • Michael Lees - GNH Chairman
  • Bruce Alexander - GNH Lawyer
  • David Beames - Joe
  • Sharon Morgan - Social Worker

Cynhyrchu

[golygu | golygu cod]

Nododd Sharon Morgan yn ei hail-hunangofiant Actores a Mam [Lolfa 2022] bod gan Glenda Jackson "stand-in, menyw glên oedd wedi bod yn gwneud y swydd ers y ffilm Women in Love, ar gyfer y goleuo a'r ymarfer". Welodd Sharon ddim yr actores cyn y "take".[1]

Cynhyrchiad Silvarealm/Rediffusion Films a Channel 4 oedd y ffilm, yn ôl Sharon, "o dan arweiniad Jeremy Isaacs, a gefnogodd nifer helaeth o wneuthurwyr ffilm annibynnol fel Peter Greenaway, Sally Potter a Karl".[1]

Cyhoeddwyd y ffilm yn 1982. Ffilm fwyaf poblogaidd y flwyddyn honno oedd Blade Runner sef film noir, dystopaidd gan y cyfarwyddwr ffilm Ridley Scott.

Cyfarwyddwr

[golygu | golygu cod]

Ganwyd y cyfarwyddwr ffilm Karl Francis ar 1 Ebrill 1942 yn Bedwas. Derbyniodd ei addysg ym Mhrifysgol Manceinion.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyhoeddodd Karl Francis nifer o ffilmiau gan gynnwys y canlynol:

Rhestr Wicidata:

Ffilm Delwedd Gwlad Iaith wreiddiol dyddiad
Giro City y Deyrnas Unedig Saesneg 1982-01-01
Hope Eternal y Deyrnas Unedig ChiBemba
One of The Hollywood Ten y Deyrnas Unedig
Sbaen
Saesneg 2000-01-01
Rebecca's Daughters y Deyrnas Unedig
Yr Almaen
Saesneg 1992-01-01
The Mouse and the Woman y Deyrnas Unedig Saesneg 1980-01-01
Yr Alcoholig Llon Cymraeg 1983-01-01
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Morgan, Sharon (2022). Actores a Mam. Y Lolfa.
  2. (yn en) Giro City (1982), https://letterboxd.com/film/giro-city/, adalwyd 2025-09-27