Giorgio Strehler

Oddi ar Wicipedia
Giorgio Strehler
Ganwyd14 Awst 1921 Edit this on Wikidata
Barcola Edit this on Wikidata
Bu farw25 Rhagfyr 1997 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Lugano Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Eidal, Teyrnas yr Eidal Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Accademia dei Filodrammatici Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr theatr, gwleidydd, rheolwr theatr, actor, cyfarwyddwr, cyfarwyddwr opera Edit this on Wikidata
SwyddLlywydd y Rheithgor yng Ngŵyl Cannes, Aelod o'r Senedd Eidalaidd, Aelod Senedd Ewrop Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Piccolo Teatro Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd yr Eidal Edit this on Wikidata
MamAlbertina Ferrari Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Q3405885, Q3114261, Gwobr Theatr Ewrop, Gwobr Friedrich-Gundolf, honorary doctor of the Autonomous University of Barcelona, Gwobr Ryngwladol Viareggio-Versilia, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, honorary doctor of the Sorbonne Nouvelle University, Medal Goethe Edit this on Wikidata

Cyfarwyddwr theatr ac opera ac actor Eidalaidd oedd Giorgio Strehler (14 Awst 192125 Rhagfyr 1997).

Ganwyd yn Barcola, Trieste, i dad Awstriaidd a mam o Eidales. Astudiodd y celfyddydau dramataidd yn yr Accademia dei Filodrammatici ym Milan a Conservatoire Genefa. Ymunodd â chwmnïau theatr ar daith, gan gynnwys y Gruppo Palcoscenico, i gael profiad o actio a chyfarwyddo. Roedd yn sosialydd ac yn aelod o'r gwrthsafiad yn yr Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd cyn iddo symud i'r Swistir.[1]

Cydsefydlodd y Piccolo Teatro ym Milan, a bu'n gyfarwyddwr artistig y theatr honno o 1947 i 1968 ac o 1972 i 1997. Bu hefyd yn sefydlydd a chyfarwyddwr y Gruppo Teatro e Azione o 1968 i 1972, ac yn gyfarwyddwr artistig y Théâtre de l’Europe ym Mharis o 1983 i 1990. Yn ogystal â'r 250 o ddramâu a gyfarwyddwyd ganddo, gan gynnwys gweithiau William Shakespeare, Bertolt Brecht, a Carlo Goldoni, cyfarwyddodd operâu yn La Scala, Milan.

Gwasanaethodd yn Senedd yr Eidal am un tymor, o 1987 i 1992.[2] Bu farw yn ei gartref yn Lugano, y Swistir, o drawiad ar y galon, yn 76 oed.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) James Kirkup, "Obituary: Giorgio Strehler", The Independent (30 Rhagfyr 1997). Adalwyd ar 29 Mehefin 2019.
  2. (Saesneg) Giorgio Strehler. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mehefin 2019.
  3. (Saesneg) Mel Gussow, "Giorgio Strehler, 76, Dies; Director of Italian Theater", The New York Times (27 Rhagfyr 1997). Adalwyd ar 29 Mehefin 2019.